Prosiect newydd cyffrous gawsom i weithio arno! Roeddem yn hynod falch i dderbyn y cais i greu’r wefan newydd ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru (a gynhelir fel arfer bob hanner tymor ym mis Hydref) ar gyfer 2020! Oherwydd Covid-19, roedd yna elfen enfawr o sicrhau y byddai’r wefan hon yn gallu lletya agwedd rithwir ar gyfer yr ŵyl, yn ogystal â system ddigwyddiadau gynhwysfawr iawn gyda map y gellir ei hidlo, a rhestr amgueddfeydd ar gyfer yr holl amgueddfeydd ar draws Cymru oedd yn cymryd rhan.

Er bod y wefan yn edrych yn weddol normal o safbwynt yr ymwelydd, gwnaed llawer o waith tu cefn – gan sicrhau bod gan pob amgueddfa unigol y gallu i fewngofnodi a ddiweddaru eu proffiliau a’u rhestrau eu hunain, yn ogystal ac adran digwyddiadau cynhwysfawr oedd yn hawdd iawn i’w ddefnyddio. Byddai pob amgueddfa’n gallu ychwanegu digwyddiadau at yr adran digwyddiadau a’r calendr, a oedd wedyn ar gael i’w chwilio gan ymwelwyr â’r wefan, mewn Cymraeg a Saesneg.

Buom yn gweithio gyda Gŵyl Amgueddfeydd Cymru i sicrhau bod ffrydio byw o YouTube yn bosibl ar y wefan, gan ymgorffori’r digwyddiadau hyn, ynghyd ac ystod o adnoddau ar draws y wefan o bob digwyddiad. Dywedwyd wrthym fod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan ynddi! Gyda’r system i gyd wedi’i sefydlu, gobeithiwn weld Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn tyfu eto y flwyddyn nesaf wrth i ni, yn ddi-os, gofleidio mwy a mwy ar dechnoleg rithwir!