Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes
Nid yw pawb yn hyderus yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, na hyrwyddo eu hunan. Nid yw i gyd am WERTHU WERTHU WERTHU. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yno i gysylltu gyda’ch cwsmeriaid, sgwrsio a’r rhai selog, a chreu sylfaen gryf o gefnogwyr triw. Mae pob platfform yn unigryw yn y ffordd dylid eu defnyddio, a bydd pob platfform yn yngweithio yn wahanol ar gyfer eich busnes hefyd. Os yw Instagram yn gweithio’n dda i’ch met sydd yn rhedeg busnes caffi – nid yw’n reol y bydd yn gweithio ar gyfer busnes megis asiantaeth dai er enghraifft.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gost-effeithiol
Mae'n HYNOD o boblogaidd
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn tyfu ffyddlondeb brand
Gallech rannu lot am eich busnes
Perffaith ar gyfer gwasanaeth cwsmer
Cyrraedd amrywiaeth o bobl - lledu'r gair
Ble down ni i mewn?
Pecynnau Rheoli
Nid yw’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pawb, a dyna pam yr ydym ni yn cynnig pecynnau i’ch galluogi i roi y baich arnom ni. Mae’r pecynnau rheoli yn siwtio i’r rhai sydd ddim a’r amser i’w roi i’r cyfryngau cymdeithasol, neud sydd yn gwybod nad yw’n eu cryfderau!
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o declynnau i greu cofnodion a graffeg, fideo a straeon, yn dibynnu ar eich busnes. Cofiwch fodd bynnag ei fod yn ymdrech dîm, a rydym wastad yn eich cadw’n rhan o’r broses.
Sibrwd
Cael presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol- 1 platfform cyfrwng cymdeithasol
- 2 to 3 post yr wythnos fel rheol gyffrednol, ond gall hyn amrywio gyda newyddion a digwyddiadau – rydym yn ei gadw’n hyblyg
- Cymeryd mantais o Straeon Facebook a Instagram
- Ymateb i sylwadau a hybu sgwrsio
- Ateb negeseuon
- Graffeg unigryw i’ch busnes
- Adroddiadau syml o’r mis pan ofynnir
- Rhannu eich proffil yn ein rhwydwaith
- Fideos unigryw i’ch busnes
- Adroddiad misol o’ch data
Llawennu
Gwneud swn ar y cyfryngau cymdeithasol- 2 platfform cyfrwng cymdeithasol
- 2 to 3 post yr wythnos fel rheol gyffrednol, ond gall hyn amrywio gyda newyddion a digwyddiadau – rydym yn ei gadw’n hyblyg
- Cymeryd mantais o Straeon Facebook a Instagram
- Ymateb i sylwadau a hybu sgwrsio
- Ateb negeseuon
- Graffeg unigryw i’ch busnes
- Adroddiadau syml o’r mis pan ofynnir
- Rhannu eich proffil yn ein rhwydwaith
- Fideos unigryw i’ch busnes
- Adroddiad misol o’ch data
- Gweithio gyda chi a’ch gyllideb ar gyfer hysbysebion ar draws yc yfryngau cymdeithasol
- Ysgrifennu blog (1 y mis) ar gyfer eich busnes a gwefan
Bloeddio
Cael eich gweld, a gwneud argraff trawiadol- 3 neu 4 cyfrwng cymdeithasol
- Dim cyfyngiad ar nifer o bostau yr wythnos – mae’n hyblyg, i rannu newyddion, digwyddiadau, diweddariadau a mwy
- Cymeryd mantais o Straeon Facebook a Instagram
- Ymateb i sylwadau a hybu sgwrsio
- Ateb negeseuon
- Graffeg unigryw i’ch busnes
- Adroddiadau syml o’r mis pan ofynnir
- Rhannu eich proffil yn ein rhwydwaith
- Fideos unigryw i’ch busnes
- Adroddiad misol o’ch data
- Gweithio gyda chi a’ch gyllideb ar gyfer hysbysebion ar draws yc yfryngau cymdeithasol
- Ysgrifennu blog (1 y mis) ar gyfer eich busnes a gwefan
- Rydym wastad yn cwrdd wyneb-yn-wyned, fel y gallen drafod yn agored am ba blatfformau yr ydych arno (neu eisiau bod arno), beth yw eich amcanion, a sut gallen ni helpu
- Rydym wastad yn creu lluniau graffeg, a fideos ar gyfer eich busnes (nifer yn ddibynnol ar y pecyn) – ni fyddech yn eu gweld yn unrhywle arall ar y we
- Wnawn ni gadw llygad ar eich cystadleuwyr lleol a cenedlaethol. Mae’n dda cadw llygad ar beth sy’n mynd ymlaen
- Wnawn ni wstad gytuno gyda chi ar sut i ateb negeseuon a sylwadau ar eich tudalen, fel y gallwch ymddiried ynom i’w adael i ni
- Rydym yn ateb i negeseuon a sylwadau cyn gynted ag y gallen ni – mae sgwrsio ag ymateb yn allweddol ar y cyfryngau cydeithasol, a mae llawer o gwmniau marchnata yn methu ar hyn
- Ar ddiwedd y dydd, rydym wedi bod yn rhedeg ein busnes yn agored, tryloyw ac onest ers y cychwyn – felly gofynnwch unrhyw gwestiwn am farchnata digidol
I ddysgu mwy am ein marchnata digidol, ewch i wefan ein chwaer fusnes: Marchnata Digida – digida.co.uk