Mae cadw’n gyfredol a’r diweddariadau hyn yn golygu y bydd y wefan yn parhau i weithio yn y tymor hir. Ond os anwybyddwch hwy, byddwch yn siŵr o gael problemau cyn bo hir.
Mae WordPress yn cynnwys tair prif gydran – y platfform ei hun, themâu eich gwefan a’r ategion o’ch dewis. Mae’r rhain i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu gwefan wych sy’n gweithio’n llyfn. Oherwydd ei anian cod agored, ac er mwyn sicrhau diogelwch ac optimeiddio, mae diweddariadau i’r elfennau hyn bob amser.
Mae’n bwysig wrth ddiweddaru ategion neu’r platfform, i sicrhau bod popeth yn parhau i fod yn gydnaws â’i gilydd. Rydym yn hapus i helpu, a hyd yn oed os na ddewiswch ein cynlluniau gofal gwefan ni, rydym wedi gweithio gydag ystod o gleientiaid dros y blynyddoedd diwethaf i ddiweddaru eu gwefan bob chwarter, neu ddwywaith y flwyddyn.