Os ydych yn chwilio am wefan dwyieithog ar gyfer eich busnes neu fudiad, yna gallen helpu. Cafodd Gwe Cambrian Web ei sefydlyu i gynnig gwefannau dwyieithog am gostau fforddadwy. Nid ydym yn codi tal ychwanegol i roi’r gallu i fod yn wefan Gymraeg/dwyieithog – mae wedi ei gynnwys yn gost y wefan.
Gallen hefyd helpu gyda cyfieithu cynnwys o Saesneg i Gymraeg, a fel arall hefyd, a gwneud yn siwr fod y testun wedi cael ei optimeiddio ar gyfer y we.
Mae’n holl staff yn rhugl yn y Gymraeg. Felly – gallwn gynnig gwasanaeth Gymraeg o’r dechrau i’r diwedd.
Ychydig o’n Prosiectau Dwyieithog
Mae’n holl wefannau dwyieithog yn newid yn esmwyth o iaith i iaith ar yr ochr gefn a’r ochr flaen, sydd yn golygu fod ymwelwyr i’ch gwefan yn gallu ei ddefnyddio’n Gymraeg neu’n Saesneg.

Cwmni CELyn
Gwefan Ymgynghori Busnes

Tai Ceredigion
Asiantaeth dai ardal Ceredigion

Cyfrifydd Aeron
Cyfrifydd wedi ei seilio yng Ngheredigion
Cymraeg Byd Busnes
Yn2019, roeddem yn hynod falch o allu gymeryd rhan yn ymgyrch “Cymraeg Byd Busnes” gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae defnyddio’r Gymraeg mewn busnes yn amhrisiadwy, a rydym yn angerddol i’ch helpu chi ei ddefnyddio hefyd.
Gwasanaethau Eraill
Hyfforddiant
Mae WordPress yn blatfform hynod o boblogaidd ar gyfer gwefannau, a rydym wedi bod yn arbenigo yn y technoleg ers 6 mlynedd. Os ydych am ddysgu mwy am ein pecynnau hyfforddi, cysylltwch.
SEO
Mae angen ychydig o gymorth ar eich gwefan unwaith ei fod yn fyw. Mae angen monitro ystadegau’ch gwefan i wneud yn siwr eich bod yn rancio yn dda ar y peiriannau chwilio.
Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn allweddol ar gyfer unrhyw fusnes neu fudiad sydd angen presenoldeb arlein. Gofynwch am ein pecynnau hyfforddiant neu pecynnau rheoli.