Rydyn ni’n falch o ddefnyddio WordPress yn ddyddiol – nid yn unig byddwn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ein gwefannau a’n gwaith, rydyn ni’n frwdfrydig amdano fel platfform hefyd. Rydyn ni bob amser yn edrych ac yn dysgu, ffyrdd newydd o ddefnyddio WordPress, gan greu gwefannau ac atebion arloesol ar gyfer ein hystod o gleientiaid.
Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar gyfer WordPress i weddu i ystod o sgiliau o ddechreuwyr cyflawn ar y platfform i ddefnyddwyr rheolaidd. Os ydych chi am wella’ch sgiliau neu ddysgu sut i ddefnyddio WordPress, gallwn ni yn sicr eich helpu.
Mae ein hystafell gyfarfod bwrpasol ar gael 6 diwrnod yr wythnos, a gallwn gynnig hyfforddiant am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn.Cysylltwch â ni heddiw i gael dyfynbris, ac i drafod eich gofynion yn llawn.
Mae pob un o’n sesiynau hyfforddi WordPress wedi’u teilwra i chi, ac ar lefel y profiad sydd gennych chi eisoes, ynghyd a’r hyn rydych chi am fedru ei gyflawni. Byddwn bob amser yn ymdrin â:
Creu tudalennau a postiadau newydd
Beth yw ategion a sut i'w defnyddio
Ychwanegu delweddau a PDFau, creu sioeau sleidiau
Swyddogaeth ddwyieithog os yn berthnasol
Newid teclynnau ac eitemau ar y fwydlen
Cefais sesiwn WordPress gwych gan Emlyn. Roedd yn drylwyr ac yn glir iawn, ac roedd y sesiwn yn un hamddenol a hwyliog hefyd. Rwy’n teimlo bod llawer gwell gafael gennyf nawr sut i ddidoli fy ngwefannau amrywiol – copïau wrth gefn, dwyieithrwydd, perfformiad cyfryngau cymdeithasol, a mwy. Roedd yn werthfawr iawn – rhywbeth y dylwn i fod wedi’i wneud cyn hyn.
Archebwch Sesiwn Hyfforddiant WordPress
Yr oll sydd angen gwneud yw cysylltu â ni ac egluro yr hyn yr hoffech ei ddysgu – p’run ai yr ydych eisiau dysgu sut i ddefnyddio WordPress yn gyffredinol, neu os oes gennych rywbeth mwy penodol mewn golwg. Rydym yn teilwra ein holl sesiynau ar eich cyfer chi yn unigol.