
Marchnata ar e-bost
Marchnata drwy e-bost yw un o’r dulliau mwyaf pwerus allan yno gan ei fod yn gadael i chi feithrin perthnasoedd cwsmeriaid a sbarduno ymgysylltiad. Fodd bynnag, mae’n weithgaredd marchnata sy’n aml yn cael ei anwybyddu. Yn y gwebinar hon byddwn yn mynd yn ôl at y pethau sylfaenol i drafod beth ydy Marchnata drwy e-byst, manteision o gael rhestr e-bostio, a sut i adeiladu’r cysylltiadau cwsmeriaid hynny drwy farchnata e-bost.
Noder – mae’r sesiwn yma’n addas i ddechreuwyr! Byddwn yn archwilio’r pethau sylfaenol, felly os ydych eisoes yn gyfforddus yma, byddwn yn lansio cyrsiau penodol yn y misoedd sy’n dilyn a allai fod o ddiddordeb i chi.
Cynhelir yr holl sesiynau ar Zoom a byddwn yn e-bostio dolen atoch y diwrnod cyn y webinar.