Hyfforddiant WordPress
Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar gyfer WordPress wedi haddasu ar gyfer pobl sydd ag ystod o sgiliau – o ddechreuwyr llwyr i’r platfform hyd at rai sydd yn ddefnyddwyr rheolaidd. Os ydych chi am wella’ch sgiliau neu ddysgu sut i ddefnyddio WordPress, gallwn ni yn sicr eich helpu.
Mae ein man hyfforddi pwrpasol ar gael 6 diwrnod yr wythnos, a gallwn gynnig hyfforddiant ar sail hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn.
Dysgu sut i golygu cynnwys
Dysgu sut i uwchlwytho cyfryngau, lluniau, PDF a mwy
Dysgu sut i greu tudalennau a postau
Gweithio ar wefan WordPress interactif
1:1 neu sesiynau grwp ar gael
Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn frwd iawn dros ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes, ac yn sicrhau ein bod yn cadw’n gyfoes â’r newidiadau a’r algorithmau diweddaraf. Byddwn hefyd yn mynychu cynadleddau cyfryngau cymdeithasol ledled y DU, er mwyn medru cynnig y tueddiadau a’r awgrymiadau diweddaraf i chi.