Mae’r cyflymder y bydd eich gwefan yn llwytho ar gyfer eich ymwelwyr yn hynod o bwysig (Gweler ystadegau’r gan Trinity isod. Nid yn unig bydd gwefan araf yn peri i ymwelwyr adael ar frys, neu deimlo’n rhwystredig, bydd hefyd yn effeithio ar eich optimeiddio peiriannau chwilio (SEO).
Ers tro bellach, mae peiriannau chwilio fel Google wedi bod yn awgrymu fod cyflymder gwefan (a golyga hyn, gyflymder tudalen) yn un o’r metrigau a ddefnyddir yn eu algorithmau i raddio tudalennau. Mae’n hyn yn gwneud synnwyr wrth gwrs achos ni fydd gwefan araf sy’n peri rhwystredigaeth i ymwelwyr yn apelio at Google, sydd am i’w holl ymwelwyr feddu ar profiad rhagorol.
Y newyddion da yw bod llawer o dechnegau ac offer optimeiddio y gallwch eu defnyddio fel bod eich gwefan yn gweithio cyn gyflym ag y gall. Gall hyn olygu – ar lefel syml- sicrhau bod maint eich delwedd yn llai nag 1MB, neu ar lefel uwch – edrych ar y math o we-letya rydych chi’n ei ddefnyddio a’r gweinyddion sy’n gysylltiedig â hynny.
Tips i optimeiddio cyflymder eich gwefan
%
o gwsmeriaid yn dweud fod cyflymder gwefan yn effeithio
%
o wefannau dros 4MB o faint, sydd yn effeithio cyflymder
%
o wefannau yn gweithredu gyda cyflymder "derbyniol" (llwytho mewn 5 eiliad neu lai)
%