SEO Ar gyfer E-Fasnach

Mae optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) ar gyfer gwefannau e-fasnach a siopau ar-lein yn bwysig iawn i'ch helpu chi i sefyll allan o'r dorf.

Os ydych chi’n rhedeg gwefan e-fasnach, mae’n debyg y byddwch chi eisoes yn gwybod pa mor anodd yw sicrhau bod eich SEO yn gywir – yn enwedig os oes gennych chi lawer o gynhyrchion tebyg. Y gwir yw, mae yna lawer y gallwch chi ei wneud i wella’ch gwefan e-fasnach o ran SEO, gan gynnwys ymchwil allweddair, pensaernïaeth eich gwefan (ei gynllun), SEO technegol, adeiladu cyswllt ac SEO ar dudalen.

Peidiwch ag anghofio y gallwn ni, yn ogystal ag edrych ar SEO, eich helpu chi gyda marchnata digidol ar gyfer gwefannau a busnesau e-fasnach hefyd – cael y cynhyrchion hynny allan ar Google, Facebook ac Instagram, er enghraifft.

Pam fod SEO mor bwysig ar gyfer e-fasnach?

  • Mae 44% o bobl yn cychwyn ar eu taith siopa ar-lein gyda chwiliad Google
  • Daw 37% o’i holl draffig i wefannau e-fasnach drwy beiriannau chwilio