Os na wnaethoch lwyddo i ddarllen ein herthygl yn rhifyn mis Hydref o Ego Aberystwyth, peidiwch â chynhyrfu! Ynddo, roeddem yn edrych ar syniadau cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol:

Weithiau gall deimlo’n rhwystredig ceisio meddwl am syniadau cynnwys ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol, felly y mis yma, roeddwn am ganolbwyntio ar rai syniadau all fod o gymorth i gadw’ch cyfryngau cymdeithasol yn ffres ac yn fywiog.

Gair i gall: Defnyddiwch yr opsiynau postio cymaint â phosib bob amser, mae’n ffordd wych o sicrhau amrywiaeth. Er enghraifft ar Facebook gallwch greu arolwg barn, defnyddio emojis ac emosiynau, mynd yn fyw ac ychwanegu sioe sleidiau / fideo.

Cofiwch rannu’ch blog a’ch postiadau newyddion – mae’n berffaith iawn eu hail-rannu bob yn hyn a hyn hefyd –  ond dim yn rhy aml. Mae hefyd yn syniad da rhannu newyddion y diwydiant, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch dilynwyr am yr hyn sy’n digwydd yn eich maes ac arddangos fod eich gwybodaeth yn gyfoes. Peth arall effeithiol i wneud  yw rhannu  Cyngor Da (Top Tips), er mwyn arddangos eich gwybodaeth a helpu eraill!

Mae cystadlaethau a rhoddion yn wych hefyd, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar rheolau  y platfform yn gyntaf.

Fy ffefryn personol newydd yw “cynnwys tagio ffrind”. Mae hyn yn gweithio trwy, er enghraifft uwchlwytho llun / fideo, ddwedwn i o gacen anhygoel, a gofyn “gyda phwy fyddech chi’n rhannu hyn?”. Sy’n  arwain at – fwy o ymgysylltiad a chyrhaeddiad!

Os ydych chi’n  hapus i wneud fideos, gwych! Gallwch wneud fideos i ddangos eich lleoliad,  cip tu ôl i’r llenni, fideos “sut i”…  Digonedd o ddewis, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn CARU fideos.

Ymunwch gyda’r trend! Gall hyn fod yn beth bynnag sy’n trendio ar y diwrnod, ond hefyd rhai mwy rheolaidd fel #ThrowbackThursday. Mae hon yn trend hynod boblogaidd ar-lein, ac yn ffordd wych o rannu postiadau mwy hanesyddol. Gallent fod yn clodfori llwyddiannau a gawsoch ychydig flynyddoedd yn ôl, neu bost  a rannwyd ar y un diwrnod yn ôl yn 2016. Mae’r opsiynau’n ddiddiwedd, a dweud y gwir.

Cofiwch – mae bod ar gyfryngau cymdeithasol yn golygu bod yn gymdeithasol. Er mwyn denu a thynnu pobl mewn i’ch busnes a deall eich bwriad, gallech we-letya digwyddiad cwestiwn ac ateb megis “Gofynnwch i mi”.

 

Gobeithio bod hyn wedi cynnig rhai syniadau i chi. Fy awgrym olaf fyddai cael darn o bapur neu lyfr nodiadau gerllaw yn y swyddfa, a phan gewch chi syniad – ysgrifennwch ef i lawr! Fel hyn, pan fyddwch wrthi’n postio ar gyfryngau cymdeithasol, bydd gennych chi lu o syniadau gwych wrth law!