Mewn pennod ddiweddar o Star Trek, Discovery, roedd nam ar systemau’r llong ofod yn golygu bod y cyfieithydd cyffredinol (Universal Translator) yn methu, a chlywyd nifer o ieithoedd gwahanol.

Am un funud fach hyfryd, un o’r ieithoedd hynny oedd y Gymraeg.

Hyn yn ystod wythnos pan gyhoeddodd sylwebydd ar y cyfryngau cymdeithasol pa mor ddibwynt yw’r iaith Gymraeg (er bod yr arolwg barn a ddefnyddiwyd ganddynt i geisio profi’r pwynt wedi bod yn fethiant ysgubol).

Felly, roedd hi’n  rhyfeddol i glywed un o’r cymeriadau yn dweud yn y Gymraeg: “Captain Pike; atebodd y sffêr ein cyfarch. Ac yna digwyddodd hyn!”.

Yn ddiddorol, roedd Herb Solow, a gomisiynodd y sioe deledu Star Trek wreiddiol, unwaith yn byw yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, a’i wraig, Harrison, yn darlithio ym mhrifysgol y dref. Mae Cymru yn  DNA y clasur sgi-fi hwn!

Pam fod hyn yn berthnasol i’ch busnes chwi? Gall defnyddio’r Gymraeg helpu i greu gwell perthynas rhwng eich cwmni a’ch cwsmeriaid, a helpu i ddenu cleientiaid newydd o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, a gwella gwerthfawrogiad.

Mewn blog Busnes Cymru, dywedir bod dros 80% o siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddewis busnes sy’n defnyddio’r iaith, ac mae dros 80% o siaradwyr di-Gymraeg yn falch o’r iaith, mae’n gyflym dod yn offeryn pwysig i fusnesau yng Nghymru.

Mae ansawdd y ddarpariaeth ieithyddol honno hefyd yn bwysig; bydd cyfathrebu o safon gwael ond yn gwneud eich darpar gleientiaid sylfaenol yn rhwystredig ac yn flin.

Wrth gwrs, mae’n gweithio’r ddwy ffordd a rhaid i Gymru hefyd fod yn barod i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill – yn 2015, cafodd cais am wybodaeth am welediadau UFO uwchben Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ers iddo gael ei redeg gan Llywodraeth Cymru ei ateb gyda “Jang vIDa je due luq . ‘Ond ghotvam’e’ QI’yaH-datganoledig qaS. ”

Sef mewn Klingon, wrth gwrs, ac mae’n debyg iddo olygu: “Bydd y gweinidog yn ateb maes o law. Fodd bynnag, mae hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli.”

Felly, pwynt o hyn i gyd? Mae’r Gymraeg yn bell iawn o fod yn iaith farw neu sy’n trigo; mae’n iaith y 23ain ganrif, iaith y dyfodol; a dylai busnesau ennill ar y cyfle i gymryd rhan yn y dyfodol hwnnw nawr, a chamu’n eofn i rywle lle nad oes ond ychydig o fusnesau wedi mynd o’r blaen.