Rhwydweithio – gair y mae’n ymddangos fod sawl yn ceisio cuddio oddi wrtho. Tydio ddim i gyd am gerdded mewn i ystafell  llawn dieithriaid, ond yn hytrach, rhywbeth i’w gofleidio. Beth am i ni feddwl amdano mewn ffordd arall hefo enghraifft wych o Netflix. Efallai ichi fod yn gyfarwydd a  “Bird Box”, ffilm a grëwyd gan Netflix a ryddhawyd dros y Nadolig 2018.Bu yn destun sawl sgwrs…

Ymddengys fod Netflix ei hunan yn hynod falch o’r sylw mae’r ffilm yn ei gael, yn bennaf oherwydd iddo olygu nad oes angen iddynt dalu ceiniog i’w farchnata. Bu hwn yn ddechreuad  arbennig o lwyddiannus i Netflix, ac mae’n debyg mai i’r gyfryngau cymdeithasol a byd y memyn (memes) mae’r diolch am hyn. Efallai bod eich ffrindiau’n siarad amdano ar-lein, tagio eu bod yn ei wylio ar Facebook, sgwrsio amdano ar Twitter. Byddwch yn gweld y cyfan o’r rhyngweithio hyn ar eich cyfryngau cymdeithasol chi, a’r tebygoliaeth yw y byddwch o leiaf yn gwylio’r ‘trailer’ cyn penderfynu  gwylio’r ffilm gyfan ai peidio. Mae hyn yn ddull o rwydweithio – ond ar y cyfryngau cymdeithasol ac  ar-lein.

Felly, rhwydweithio ar-lein – beth allwch chi ei wneud? Ymunwch â grwpiau, rhannwch brofiadau neu gyngor. Ymunwch a’r sgwrs. Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei wneud! Ar eich ffordd  i’ch hoff siop goffi leol? Beth am “edrych i mewn”, rhannu a tagio llun, neu hyd yn oed ymweld a’u tudalen a’u ‘hoffi’ neu gwneud sylw. Mae ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol mor bwysig er mwyn ymgyrraedd;  trwy gymryd y camau bach hyn (nad ydym yn meddwl amdanyn nhw pan yn siarad wyneb yn wyneb am ffilmiau, gwyliau ac ati) yn gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau bach.