Thunderbird yw rheolwr ebost sydd ar gael yn rhad ag am ddim. Gellir lawrlwytho Thunderbird o yma.

Er mwyn gosod eich cyfrif ebost newydd ar Thunderbird, dilynwch y camau isod. Os cewch unrhyw drafferthion, cysylltwch a ni ar ein ebost.

  1. Agorwch Thunderbird
  2. Cliciwch ar y botwm “byrgyr” -> “Options” -> “Account OptionsFile_Account_Options
  3. Cliciwch ar “Account Actions” -> “Add Mail Account…”Add Mail Account
  4. Llenwch eich enw, ebost a cyfrinair yn y blychau priodol. Gwnewch yn siwr fod y meddalwedd yn cofio eich manylion.Llenwi MAnylion
  5. Llenwch eich manylion cyfrif. Cysidrwch y canlynol:
    – Dylai “Incoming Mail Server” a “Outgoing Mail Server” ill gael eu gosod i “mail.”, ynghyd a’ch enw parth (e.e. mail.yourdomain.co.uk)
    – Mae eich enw defnyddiwr a cyfrinair wedi eu darparu i chi. Yr enw defnyddiwr ys enw llawn eich ebost ( e.e. eichebost@eichparthenw.co.uk, a NID dim ond enw eich ebost (eichebost))
    – Gwnewch yn siwr fod “Remember Password” wedi ei dicio YMLAEN.
  6. Cliciwch “Done”. Os oes neges yn ymwneud a diogelwch (security) a thystysgrifau yn ymddangos, gellir cadarnhau hyn, a safio y dewis hynny.
  7. Dylwch nawr allu dderbyn a gyrru ebyst o’ch cyfrif newydd!