Dylunio a Datblygu

Beth Sy’n Gwneud Gwefan yn Gwych?

Mae gwefannau yn fwy nag ategion a chod yn unig, rhaid iddynt fod yn hawdd eu defnyddio hefyd.

Mae ystadegau’n dangos y bydd ymwelwyr (eich darpar gwsmeriaid) i’ch gwefan yn mynd i rywle arall os ydynt yn rhwystredig gyda’ch gwefan, os na allant ddod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano mewn ychydig eiliadau, neu os yw’r wefan yn flêr.

Gall Gwe Cambrian Web eich helpu i greu gwefan sydd wedi’i dylunio’n dda sy’n arwain ymwelwyr drwy eich cynnwys yn rhwydd.

 

Ond Sut Ydych Chi’n Gwneud Hyn?

Mae’n syml! (I raddau.)

Rydym yn dylunio gwefannau hawdd eu defnyddio trwy wneud y canlynol:

Yma yn Gwe Cambrian Web rydym yn cynnig trefn ddylunio feddylgar, gan weithio gyda chi yr holl ffordd i ddylunio gwefan y gallwch fod yn falch ohoni! Rydym yn cynnig yr uchod i sicrhau bod eich gwefan a’ch busnes yn cael y cyfle gorau o’r cychwyn.

Cymerwch olwg ar ein pecynnau heddiw a gadewch inni eich helpu i gael eich busnes ar-lein?

Beth sydd gan rai o’n cwsmeriaid i’w ddweud…

Mae Kerry a’i thîm yn hollol wych ac yn gyfeillgar iawn hefyd. Roedd Kerry wir yn deall yr hyn roeddwn i eisiau ar gyfer fy ngwefan ac rydw i wrth fy modd gyda’r canlyniadau. Mae Kerry mor hawdd siarad â hi a gyfeillgar. Mae hi’n bleser gweithio gyda hi ac rydw i’n ei hargymell hi a Gwe Cambrian Web yn gyson i unrhyw un sydd eisiau dylunio gwefan.

Alieshia Cross

Seicotherapydd, alieshiacross.co.uk

Gwasanaeth da iawn gan y cwmni annibynnol, lleol. Fe wnaethon nhw greu gwefan bwrpasol i ni yn Ystwyth Veterinary Practice Ltd, gyda llawer o ofal a sylw i ofynion unigol, ac ers hynny rydym wedi cael ein canmol ar ein gwefan, a’i rhwyddineb mawr o ran strwythyr. Byddwn yn argymell y cwmni broffesiynol iawn hon yn fawr ar gyfer creu eich gwefan.

Milfeddygon Ystwyth

ystwythvets.co.uk

Gwaith gwych wedi ei wneud ar fy ngwefan newydd, gan gynnwys gwasanaeth cyfieithu Cymraeg. Methu argymell mwy. Gwnewch nhw eich galwad gyntaf. Diolch!

Gareth Watkins

Bodalwyn Guest House, bodalwyn.co.uk

Mae Gwe Cambrian wedi bod yn allweddol yn cyd weithio gyda ni yn Mentrau Iaith Cymru a hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r Mentrau Iaith lleol ar draws Cymru. Mae’n nhw wedi creu cynllun gwella ar ein cyfer wrth ymdrin â’r Cyfryngau Cymdeithasol gan reoli ein Cyfryngau amgen yn ddeallus a chall. Mae ganddynt amynedd ryfeddol wrth ddelio gyda chwestiynau lletchwith, a phob amser yn barod i oresgyn unrhyw broblem yn siriol sydd yn holl bwysig pan yn ymdrin â rhwstredigaethau technolegol ambell aelod o staff!

Mentrau Iaith Cymru

mentrau.cymru

Mae Kerry wedi gweithio gyda mi ar greu cynnwys dwyieithog ar gyfer ein gwefan newydd. Er na ddatblygwyd y wefan ei hun gan Gwe Cambrian Web (rhywbeth yr ydym yn ei ddifaru’n fawr gan ein bod yn gwybod y byddai Gwe Cambrian Web wedi darparu’r gwasanaeth yr oedd ei angen arnom a mwy!), roedd Kerry yn fodlon fy nghynorthwyo gyda’i barn arbenigol ar fyr rybudd i wneud yn siŵr cwblhawyd y prosiect ar amser gan ddatblygwr arall, gan fynd y tu hwnt i’w chontract gyda ni – enghraifft o agwedd broffesiynol a hyblyg Kerry a’r tîm at ddarparu datrysiad wedi’i deilwra i’ch anghenion busnes.

Terri Short

Smart Money Cymru