Hyfforddiant WordPress

Rydyn ni’n defnyddio WordPress yn ddyddiol – ac rydyn ni’n ei garu. Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd newydd o ddefnyddio’r platfform, gan greu gwefannau ac atebion arloesol i’n cleientiaid.

Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar gyfer WordPress i weddu i bobl ag ystod o sgiliau o ddechreuwyr pur i ddefnyddwyr hefo mwy o hyfforddiant. Os ydych chi’n chwilio am adfywio eich gwybodaeth neu eisiau dysgu WordPress, gallwn ni helpu.

Dysgu sut i ddiweddaru cynnwys

Dysgu sut i uwchlwytho cyfryngau, lluniau, dogfennau a mwy

Dysgu sut i greu tudalennau a blogiau

Gweithio ar wefan WordPress 'fyw'

Dysgu dulliau optimeiddio peiriannau gwe syml

Sesiynau o bell wedi'u recordio er hwylustod i chi

Sesiynau 1-i-1 neu grwpiau ar gael