Polisi Preifatrwydd

GDPR: HYSBYSIAD PREIFATRWYDD DATA AR GYFER CLEIENTIAID A CHYFLENWYR

Cyflwyniad

Mae Gwe Cambrian Web Cyf (“Ni”) wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu’ch preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn yn nodi’r sail y byddwn ni’n prosesu unrhyw ddata personol yr ydym yn ei chasglu gennych chi, neu a roddwch i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein safbwyntiau ac arferion ynglŷn â’ch data personol a sut y byddwn yn ei drin.

Mae’r rheolau prosesu data personol wedi ei nodi yn Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Diffiniadau

Rheolydd data – Mae rheolydd yn pennu dibenion a dulliau prosesu data personol.

Prosesydd data – Mae prosesydd yn gyfrifol am brosesu data personol ar ran rheolydd.

Cyfrannwr data – person naturiol

Categoriau data: Data personol a chategoriau arbennig o ddata personol

Data personol – Mae’r GDPR yn berthnasol i ‘ddata personol’ sy’n golygu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn benodol trwy gyfeirio at dynodwr (fel y’i eglurir yn Erthygl 6 o GDPR). Er enghraifft, enw, rhif pasbort, cyfeiriad cartref neu gyfeiriad e-bost preifat. Mae dynodwyr ar-lein yn cynnwys cyfeiriadau IP a chwcis.

Categoriau arbennig o ddata personol – Categorïau arbennig Data personol – Mae’r GDPR yn cyfeirio at ddata personol sensitif fel ‘Categorïau arbennig o ddata personol’ (fel yr eglurir yn Erthygl 9 o GDPR). Mae’r categorïau arbennig yn benodol yn cynnwys data genetig, a data biometrig lle caiff ei brosesu i adnabod unigolyn yn unigryw. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys tarddiad hiliol ac ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, data iechyd, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol.

Prosesu – yn golygu unrhyw weithred neu set o weithrediadau sy’n cael ei berfformio ar ddata personol neu ar setiau o ddata personol, p’un ai trwy gyfrwng awtomataidd ai peidio, megis casglu, cofnodi, trefnu, strwythuro, storio, addasu neu newid, adfer, ymgynghori, defnyddio , datgelu trwy drosglwyddo, lledaenu neu wneud ar gael fel arall, alinio neu gyfuniad, cyfyngu, dileu neu ddinistrio.

Trydydd Parti – yn golygu person naturiol neu gyfreithiol, awdurdod cyhoeddus, asiantaeth neu gorff heblaw’r cyfrannwr data (data subject), y rheolydd, y prosesydd a’r personau data sydd, dan awdurdod uniongyrchol y rheolydd neu’r prosesydd, wedi’u hawdurdodi i brosesu data personol.

  • Pwy ydym ni?

Gwe Cambrian Web Cyf yw’r rheolydd data. Mae hyn yn golygu mai ni sydd yn penderfynu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu ac at ba ddibenion. Ein manylion cysylltu yw: 7A Great Darkgate Street, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DE, 01970 623906, info@cambrianweb.com. Am unrhyw materion data, cysylltwch hefo Kerry Ferguson ar accounts@cambrianweb.com neu 01970 623906.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i gleientiaid presennol a blaenorol. Nid yw’r hysbysiad hwn yn rhan o unrhyw gontract i ddarparu gwasanaethau, a gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro. Cymerwch yr amser i ddarllen yr hysbysiad hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiadau preifatrwydd eraill y byddwn yn eu darparu ar adegau penodol pan fyddwn ni’n casglu a phrosesu gwybodaeth amdanoch chi.

  • Pwrpas(au) prosesu eich data personol

Byddwn yn defnyddio eich data personol i’r dibennion canlynol:

  • Cytundebol: lle mae prosesu eich data yn angenrheidiol ar gyfer contract/cytundeb sydd gennym gyda chi, neu oherwydd eich bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract
  • Rhwymedigaethau cyfreithiol: lle mae angen prosesu eich data personol er mwyn i ni, a chi, gydymffurfio â’r gyfraith
  • Caniatâd: lle rhoddwyd caniatâd clir gennych chi i Gwe Cambrian Web Cyf brosesu eich data personol at ddibenion marchnata.

At ddibenion cyflawni contractau a rhwymedigaethau cyfreithiol (er enghraifft anfon anfonebau) yn unig y byddwn yn defnyddio eich data. Os ydych wedi dewis yn glir ymuno a’n rhestr bostio, byddwn yn defnyddio’ch data personol i anfon gwybodaeth farchnata.

Y categorïau o ddata personol dan sylw

Gan gyfeirio at y categorïau o ddata personol a ddisgrifir yn yr adran diffiniadau, rydym yn prosesu’r categorïau canlynol o’ch data:

  • Data personol: enw, cyfeiriad busnes cofrestredig (a all fod eich cyfeiriad cartref), gwybodaeth cyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, rhif cofrestru’r cwmni lle bo hynny’n berthnasol.

Rydym wedi derbyn eich data personol at ddibenion cytundebol a chyfreithiol fel y nodir uchod.5. Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Data personol (Erthygl 6 o GDPR)

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol cyffredinol:

☐ Caniatâd y cyfrannwr data;Bydd angen caniatâd bob amser at ddibenion marchnata. Rydym yn defnyddio MailChimp ar gyfer ein marchnata, gwmni sy’n cydymffurfio’n llawn â GDPR.
☐ Prosesu sy’n angenrheidiol ar gyfer perfformio contract gyda’r cyfrannwr data neu i gymryd camau i ymrwymo i gontractBle rydym wedi cael cyfarwyddyd i gyflawni gwasanaeth i chi
☐ Prosesu angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiolLle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni brosesu eich data personol, er enghraifft, cyllid.
  • Rhannu eich data personol

Bydd eich data personol yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, a chaiff ei rannu yn unig, lle bo’r angen, gyda’n cyfrifydd, gyda phwy y mae gennym gytundeb prosesydd yn barod.

Ni fydd Gwe Cambrian Web Cyf yn rhannu eich gwybodaeth at ddibenion marchnata gydag unrhyw drydydd parti. Dim ond gan ein staff yn y Deyrnas Unedig y bydd yr holl wybodaeth a dderbynir yn cael ei brosesu. Ni fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd parti oni bydd angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, lle bo angen i weinyddu’r berthynas waith gyda chi neu ble mae gennym ddiddordeb cyfreithiol arall i wneud hynny.

  • Pa mor hir ydym yn cadw eich data peronol?

Byddwn yn cadw eich data personol am ddim mwy na sydd yn rhesymol angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion y cafwyd eu casglu. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys: yn achos unrhyw hawliadau / cwynion cyfreithiol; at ddibenion diogelu ac ati.

Am ragor o wybodaeth gweler ein polisi Cadw Data.

  • Darparu eich data personol i ni

Mae arnom angen eich data personol gan ei bod yn ofyniad cytundebol a chyfreithiol neu ofyniad sy’n angenrheidiol i ymrwymo i gontract.

  • Eich hawliau ynglyn a’ch data personol

Oni bai eich bod wedi’ch esgusodi o dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:

  • Yr hawl i ofyn am gopi o’r data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi;
  • Yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol os gwelir ei bod yn anghywir neu wedi dyddio/hen;
  • Yr hawl i ofyn am ddileu eich data personol os nad oes angen cadw data o’r fath bellach;
  • Yr hawl i dynnu’ch caniatâd i’r prosesu, yn ôl ar unrhyw adeg, lle’r oedd caniatâd yn sail cyfreithlon ar gyfer prosesu’r data;
  • Yr hawl i ofyn i ni ddarparu eich data personol i chi a lle bo hynny’n bosibl, trosglwyddo’r data hwnnw’n uniongyrchol i reolwr data arall (a elwir yn hawl i gludadwyedd data), (lle bo hynny’n berthnasol:h.y. lle mae’r prosesu yn seiliedig ar ganiatâd neu’n angenrheidiol ar gyfer perfformio contract gyda’r cyfrannwr data a lle mae’r rheolwr data yn prosesu’r data trwy gyfrwng awtomataidd);
  • Yr hawl, lle mae anghydfod mewn perthynas â chywirdeb neu brosesu eich data personol, i ofyn am gyfyngiad i gael ei roi ar brosesu pellach;
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu data personol, (lle bo’n berthnasol, h.y. lle mae prosesu yn seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon (neu berfformiad tasg er budd y cyhoedd / ymarfer yr awdurdod swyddogol); marchnata uniongyrchol a phrosesu at ddibenion gwyddonol / ymchwil hanesyddol ac ystadegau).

Trosglwyddo Data Dramor

Nid ydym yn trosglwyddo data personol y tu allan i’r EEA, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol ein bod yn cadw gwybodaeth ar system yn y cwmwl y mae eu gweinyddion wedi’u lleoli y tu allan i’r UE. Dim ond cwmnïau sy’n cydymffurfio a’r GDPR y byddwn yn eu defnyddio, a gofynwn i chi gysylltu â ni i drafod a chael copi o bolisïau preifatrwydd y cwmnïau hyn.

Penderfyniadau Awtomataidd

Nid ydym yn defnyddio unrhyw fath o benderfynadau awtomataidd yn ein busnes.

Mae gennym ddulliau addas priodol a rhesymol i ddiogelu ac atal eich data personol rhag cael ei golli ar ddamwain, ei ddefnyddio neu’u gyrchu mewn ffordd anawdurdodedig. Cyfyngir mynediad i’ch data personol i’r gweithwyr, asiantau a chontractwyr hynny y sydd angen iddynt eu gwybod o ran y busnes. Byddant ond yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddyd, ac yn unol â’n cytundeb gyda hwy, a maent arnynt ddyletswydd o gyfrinachedd.

Mae gennym bolisi dyfais symudol ar waith ar gyfer unrhyw weithwyr Gwe Cambrian Web Cyf sy’n defnyddio eu dyfais symudol (ffôn smart neu tabled) eu hunain, neu a ddarparwyd iddynt. Gallwch ofyn am y polisi hwn trwy gysylltu â Kerry Ferguson ar 01970 623906 neu info@cambrianweb.com.

Mynediad Diawdurdod at Ddata

Mewn achos o fynediad diawdurdod at ddata, ein cyfrifoldeb ni yw hysbysu’r ICO, yr heddlu a’r unigolion y ceir eu heffeithio. Gallwch ofyn am ddarllen ein Polisi mynediad diawdurdod at ddata.

Prosesu ymhellach

Os ydym am ddefnyddio’ch data personol at ddiben newydd, heb ei gynnwys yn y Hysbysiad Preifatrwydd Data yma, yna byddwn yn rhoi rhybudd newydd i chi sy’n egluro’r defnydd newydd hwn cyn dechrau’r prosesu a sydd yn nodi’r dibenion perthnasol a’r amodau prosesu.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, yn cael eu gyrru trwy e-bost. Gwiriwch yma yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.

Sut i wneud cwyn

I ymarfer eich holl hawliau, ymholiadau neu gwynion perthnasol, cysylltwch â Kerry Ferguson, Cyfarwyddwr Gwe Cambrian Web Cyf ar info@cambrianweb.com, 01970 623906 neu drwy’r post i 7A Y Stryd Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DE.

Os nad yw hyn yn datrys eich cwyn yn foddhaol, mae gennych yr hawl i gyflwyno eich cwyn i’r Swyddfa’r Comisiynwyr Gwybodaeth ar 03031231113 neu drwy e-bost: https://ico.org.uk/global/contact-us/email/ neu at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Ty Wycliffe, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF, Lloegr.