Rydym yn aml yn clywed y cwestiwn: beth yw Marchnata Digidol, ac mae llawer yn teimlo ar goll pan fyddant yn clywed yr ateb. Ond peidiwch â phoeni, mae Gwe Cambrian Web yma i’ch helpu.
Mae marchnata digidol yn cynnwys llawer o’r un egwyddorion â marchnata traddodiadol, ond mae hefyd yn manteisio ar gyfryngau cymdeithasol, optimeiddio peiriannau chwilio a blogio, dim ond i enwi ond ychydig.
Mae gennym ni dîm marchnata digidol ein hunain a fydd yn helpu ac yn gweithio’n agos gyda chi a’ch busnes i gyrraedd eich nodau marchnata digidol.
Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol
Mae rheoli eich cyfryngau cymdeithasol yn fwy na dim ond postio i Facebook unwaith yr wythnos. Mae’n rhan hynod bwysig o unrhyw sefydliad neu fusnes.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chi i drafod eich nodau busnes a marchnata, deall eich cynulleidfa, a chreu strategaeth gref. Rydym yn sicrhau bod y marchnata a gynhyrchwn yn gweithio i chi, ac i’ch busnes.
Rydym yn dod yn estyniad o’ch tîm.


Ymgynghoriaeth Marchnata Digidol
Un o’n gwasanaethau mwyaf poblogaidd yn 2022, nid yn unig ar gyfer busnesau unigol ond hefyd yn gweithio i ac ar ran Mentrau Iaith Cymru, Cyngor Gwynedd ac eraill i ddarparu gwasanaethau ymgynghorol ledled Cymru.
Mae ein gwasanaethau ymgynghori yn cynnwys archwiliadau, cyngor, trafod strategaethau a gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod gan eich busnes neu sefydliad bopeth yn ei le ar gyfer ymdrech farchnata ddigidol gref.
Rydym yn dod yn estyniad o’ch tîm.
Awdit Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn gwybod bod gofyn i rywun arall redeg eich cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn anodd – eich babi chi ydi o wedi’r cyfan. Dyna pam rydym hefyd yn cynnig awdit, felly byddwch yn cael ein llygad arbenigol a chyngor.
Bydd ein harchwiliadau yn edrych ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ac yn rhoi rhestr flaenoriaeth i chi (system goleuadau traffig) o’r hyn i’w wneud nesaf. Rydym hefyd yn cynnwys sesiwn 1 awr gydag unrhyw un o’n tîm marchnata digidol, i gael cyngor pellach, awgrymiadau ac i ateb unrhyw un o’ch cwestiynau llosg.
Archebwch eich awdit heddiw, a helpwch i godi safon eich marchnata cyfryngau cymdeithasol.

Beth sydd gan rai o’n cwsmeriaid i’w ddweud…
Mae Gwe Cambrian wedi bod yn allweddol yn cyd weithio gyda ni yn Mentrau Iaith Cymru a hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r Mentrau Iaith lleol ar draws Cymru. Mae’n nhw wedi creu cynllun gwella ar ein cyfer wrth ymdrin â’r Cyfryngau Cymdeithasol gan reoli ein Cyfryngau amgen yn ddeallus a chall. Mae ganddynt amynedd ryfeddol wrth ddelio gyda chwestiynau lletchwith, a phob amser yn barod i oresgyn unrhyw broblem yn siriol sydd yn holl bwysig pan yn ymdrin â rhwstredigaethau technolegol ambell aelod o staff!
Bob amser yn ddefnyddiol i fy musnes. Hefyd yn wych i alw i mewn a chael sgwrs i weld lle gallaf wella fy musnes trwy hysbysebu ar Facebook. Maent hefyd yn deall fy musnes ac yn bendant byddent yn eu hargymell.