Rydym yn ychwanegu Google Analytics at bob gwefan rydyn ni’n ei chreu a’i lansio. Pam?
Mae’r data y mae Google Analytics yn ei gasglu yn amhrisiadwy, ac er ein bod yn argymell edrych arno’n rheolaidd, rydym hefyd yn deall y gall fod yn hawdd cael eich llethu ganddo.
Canolbwyntio ar y data sy’n berthnasol i chi a’ch nodau busnes yw’r ffordd orau o fynd o gwmpas hynny. Nid yn unig y mae’n caniatáu ichi weld a yw eich gwefan yn gweithio i chi ai peidio, mae’n caniatáu i ni wneud hynny hefyd, a pham.

Pa ddata y dylwn i fod yn eu gwylio?
Wel, mae hyn yn dibynnu’n llwyr ar eich gwefan a’ch nodau busnes. Dyma ein ffefrynnau i gadw llygad arnynt.
Ymweliadau gwefan
Demograffeg ymwelwyr
Cyfradd bownsio
Tudalennau poblogaidd
Tudalennau mynediad
Tudalennau gadael
Llif Ymddygiad
Ffynonellau traffig (caffael)
Eisiau dechrau defnyddio Google Analytics?
Gall Gwe Cambrian Web roi sesiwn hyfforddi i chi i’ch helpu i gael eich pen o’i gwmpas Google Analytics! Beth am roi cynnig arni?