Cwestiynau Cyffredin

Rydym wedi ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw cost gwefan?

Mae hyn yn dibynnu’n hollol ar yr hyn rydych chi am i’r wefan ei wneud, sy’n swnio braidd yn niwlog. Y gwir yw, po fwyaf yr ydych am i’r wefan ei wneud, o ran ei swyddogaeth, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i ni weithio arni.

Cymerwch gip ar ein tudalen Prisau i gael syniad o’n costau dylunio gwefan.

Rydyn ni bob amser yn hapus i sgwrsio am eich cyllideb a rhoi gwybod i chi beth sy’n bosib am yr arian. Rydym hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig trafod eich prosiect gyda ni, fel y gallwn amlinellu’r hyn y teimlwn y gallai fod ei angen arnoch neu na fydd ei angen arnoch.

Ydych chi’n cynnig unrhyw gynllun taliadau?

Rydym yn deall y gall buddsoddi mewn gwefan fod yn dipyn o ymrwymiad, ond hefyd bod cael gwefan yn rhan allweddol o unrhyw fusnes. Rydym yn fwy na pharod i fod yn hyblyg o ran taliadau, ac yn hapus i drafod cynlluniau talu fel taliadau misol.

Beth yw lletya?

Byddwn wastad yn egluro lletya fel y darn bach o’r rhyngrwyd rydych chi’n ei rentu, lle mae’ch gwefan yn eistedd (a’ch e-bost o bosib). Mae pob gwefan fyw yn cael ei lletya yn rhywle.

Darllenwch fwy am ein pecynnau gwe-letya yma.

Os oes gennych wefan a grëwyd gennym ni, byddwn yn argymell defnyddio ein gwesteiwr ein hunain. Fodd bynnag, gallwch gadw at eich gwesteiwr presennol os yw’n well gennych.

Rydym hefyd yn hapus i gynnal eich gwefan os nad ydych yn hapus gyda’ch gwesteiwyr presennol. Hyd yn oed os na wnaethom wneud y wefan i chi.

A allaf symud fy ngwefan i chi?

Gallwch – rydym wedi gweithio gyda llawer o gleientiaid gyda gwefan sydd eisoes wedi ei datblygu yn rhywle arall, a sydd wedi symud eu lletya a gwasanaethau parth drosodd inni –am rhyw reswm neu gilydd.

Allwch chi wneud rhywfaint o waith ar fy ngwefan?

Rydym yn gweithio gyda llawer o gleientiaid na wnaethom adeiladu eu gwefan yn wreiddiol, ond mae’r cleient am wneud newidiadau neu ychwanegiadau. Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn wneud hyn, ond byddwn bob amser yn gofyn am gael cip olwg ar y wefan er mwyn sicrhau ein bod ni’n deall pa dechnoleg yr adeiladwyd gyda.

Sut mae proses eich gwefan yn gweithio?

Mae gennym bedwar cam allweddol ar gyfer dylunio ein gwefan.

Rydym bob amser yn hoffi cael sgwrs neu gyfarfod da gyda chi cyn i ni anfon dyfynbris a’n T&Cs. Mae’n rhoi cyfle i ni ddod i’ch adnabod chi, eich busnes a lle gallwn ni helpu.

Unwaith y byddwn ni i gyd yn hapus, byddwn ni’n mynd ati i greu rhai cysyniadau dylunio.

Rydyn ni’n dechrau derbyn cynnwys oddi arnoch chi (delweddau, testun) ac yn gweithio tuag at un dyluniad, rydyn ni’n ei adeiladu gan ddefnyddio’ch cynnwys ac yn paratoi i fynd yn fyw.

Wrth i ni agosáu at ‘mynd yn fyw’, byddwn hefyd yn edrych ar sefydlu’ch pecyn gwe-letya newydd, ac unrhyw e-byst.

A gaf i ddweud fy marn am ddyluniad y wefan?

Wrth gwrs! Byddwn bob amser yn rhoi ein barn broffesiynol i chi os ydym yn meddwl efallai na fydd rhywbeth yn gweithio. Fodd bynnag, rydym bob amser eisiau i chi fod yn onest, ac yn annog adborth ar bob cam.

A allaf dalu am y wefan mewn rhandaliadau?

Cewch – rydym yn ymwybodol y gall talu’r cwbl ar yr un pryd fod yn anodd i fusnesau bach ac unigolion. Rydym bob amser yn hapus i drafod opsiynau talu fel taliadau misol, yn ystod y datblygiad ac unwaith y bydd y wefan yn fyw.

Oes gennych chi becynnau cynnal a chadw misol?

Oes! Mae nifer o Gynlluniau Gofal ar gael, sydd yn ymdrin ag ystod eang o destunau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y wefan yn ddiogel, bod y feddalwedd yn gyfredol, monitro am hacwyr, dyrannu amser i weithio ar eich SEO a mwy. Gweler ein pecynnau yma.

Rwy'n edrych am rywbeth mwy penodol, gyda nodweddion arbennig, a allwch chi helpu?

Mae gennym lawer o arbenigedd yn gweithio ym maes datblygu, yn enwedig o ran ategion, adrodd, ymarferoldeb personol a mwy.

Os ydych chi’n chwilio am swyddogaethedd nad yw o fewn gofynion safonol gwefan, cysylltwch â ni i drafod. Os na allwn helpu, efallai y byddwn yn adnabod rhywun a all.

Beth sy'n digwydd unwaith y bydd fy ngwefan yn fyw?

Ymlaciwch! Mae eich gwefan newydd yn fyw, a dylai ddechrau graddio ar y peiriannau chwilio yn fuan.

Y prif argymhelliad gennym ni fyddai ymchwil i SEO (optimeiddio peiriannau chwilio), gan fod hwn yn ymrwymiad hirdymor i chi a’ch gwefan newydd.

Peidiwch ag anghofio marchnata eich gwefan newydd ar gyfryngau cymdeithasol, a chynllunio eich strategaeth farchnata ddigidol.

Mae gennym pecynnau gofal gwe ar gael y gallwch dalu amdanynt yn fisol, sy’n golygu ein bod yn gofalu am rai o agweddau mwy technegol eich gwefan i chi, ac rydym hefyd ar ddiwedd e-bost neu alwad am gymorth a chyngor. Rydym yma i’ch helpu!

 

Dydw i ddim yn chwilio am wefan yn unig, gyda pha wasanaethau eraill y gallwch chi fy helpu?

Oes! Tra bod y rhan fwyaf o’n cleientiaid yn gofyn i ni am wasanaethau dylunio gwefannau, gwe-letya ac e-byst, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol, pecynnau hyfforddi a marchnata digidol.

Gallwch chi hyd bori ein hadran blog.

Ydych chi wedi cofrestru at ddibenion TAW?

Do, mae Gwe Cambrian Web Cyf wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, felly bydd angen ychwanegu TAW ar ben unrhyw brisiau y byddwch chi’n eu gweld ar ein gwefan. Nid yw y prisiau a welwch yn cynnwys TAW.