Cwestiwn a ofynnwyd i ni yn ddiweddar oedd sut y gall busnes sefyll allan o’r dorf ac amlygu hun ar Instagram?Pan fydd y plafform yn galw’n syml  am rannu delweddau’n unig, mae’n anodd sefyll allan ac amlygu’ch hun mor hawdd ag y byddai ar Facebook a Twitter gyda’i dulliau amrywiol o bostio.

Felly, dyma rai o’n prif awgrymiadau ar sut y credwn y gallwch chi ddechrau sefyll allan o’r dorf:

  1. Gwnewch yn siŵr bod eich proffil yn creu argraff: mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei annog ar gyfer Facebook a Twitter, a d’yw ddim gwahanol ar Instagram. Gwnewch siwr fod gennych y bio iawn (gan osgoi bod yn ddiflas) a bod eich llun proffil yn rhoi y mantais gorau i chi. Oeddech chi’n gwybod bod y ddelwedd hon yn cael ei rannu ar ffrydau eich ffrindiau pan fyddwch chi’n postio ac yn rhoi sylwadau? Felly gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio i chi.
  2. Defnyddiwch yr hashnod! Yn y bôn, Instagram yw mam yr hashnod – dyma sut rydych chi’n chwilio ar y platfform, yn wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill lle gallwch chwilio am eiriau neu ymadroddion hefyd. Felly, gwnewch yn siŵr bod eich hashnodau yn berthnasol, peidiwch â’i gor-ddefnyddio ac os gallwch chi, ceisiwch greu un sy’n benodol i’ch brand chwi fel y gallwch ei ddefnyddio ym mhob delwedd.
  3. Postiwch yn gyson – does dim angen postio bob dydd, ond mae postio’n rheolaidd a chyson yn allweddol. Ar platfformau eraill, byddem yn argymell eich bod yn postio bob dydd neu fwy nag unwaith y dydd, ond mae Instagram yn wahanol. Postiwch tua  3 i 4 gwaith yr wythnos, gan  ddarparu ffrwd gyson o ddelweddau ar gyfer eich dilynwyr –  peidwich a sbamio neu byddant yn eich dad-ddilyn.
  4. Ymgysylltwch a’ch dilynwyr – fel ar Facebook, ewch ati i sgwrsio, creu rhwydweithiau a pherthynasau. Peidwich a phostio a gadael.
  5. Defnyddiwch ffotograffau/lluniau effeithiol – d’yw hyn ddim yn golygu bod angen i chi fod yn ffotograffydd proffesiynol, dylai eich ffôn clyfar (smartphone) fod â chamera digon da! Edrychwch ar-lein, felly, am awgrymiadau ar sut i greu lluniau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio’r hidlwyr y mae Instragram yn eu darparu. Ond peidiwch â theimlo fod angen i chi eu defnyddio trwy’r amser, gall defnydd cynnil fod yn  fwy effeithiol.
  6. O safbwynt busnes mae’r pwynt nesaf yma yn bwysig – meddyliwch am weithio gydag Instagram ochr yn ochr â thema. Pan fo dilynydd newydd posibl yn edrych ar eich cyfrif, bydd yr argraff gyntaf un yn seiliedig ar sgrolio’n gyflym drwy eich ffrwd (feed) . Crëwch thema sy’n hyrwyddo proffesiynoliaeth ochr yn ochr â’ch brand, gan ddangos nad ydych chi’n postio ar hap a damwain.Edrychwch ar y cyfrif yma gan cerstmaria fel enghraifft.
  7. Byddwch yn creadigol! Ewch ati i gael hwyl gyda’r lluniau hynny = cofiwch sut mae Instagram yn eu trefnu, fel y gall eich lluniau ddweud stori ar ffurf grid. Arbrofwch a chael hwyl!

 

Dim ond rhai o’n hoff awgrymiadau Instagram yw rhain, gwyliwch allan am fwy yn y dyfodol.