Gall fod yn anodd cadw i fyny ag ysgrifennu a chyhoeddi postiadau blog i’ch gwefan yn gyson – yn enwedig os ydych chi’n fusnes bach. Mae’n bur debyg eich bod eisoes yn  boddi mewn materion pob dydd, cadw cyfrifon, ymholiadau marchnata ac ati. Ac o’r herwydd, gall blogio lithro yn eithaf isel lawr y rhestr flaenoriaeth.

Os ydych chi’n defnyddio llwyfannau fel WordPress, ble gallwch amserlennu postiadau, gall fod yn demtasiwn mawr i ôl-ddyddio’ch postiadau blog. Mae hyn yn golygu bod eich archif blog ar y wefan yn ymddangos yn gyson i’ch ymwelwyr, sy’n golygu felly mai  peth da ydyw? Rydw i wedi bod yn meddwl archwilio’r manteision a’r anfanteision o hyn ers tro, a gan fod gen i gwpl o oriau rhydd dros y penwythnos llwyddais i fynd ati ar  Google i ddarganfod  ai peth da neu ddrwg ydy o.

Manteision Ôl-ddyddio Postiadau Blog

Fel y cyffyrddais arno uchod, y fantais amlwg yw y gallwch sicrhau bod cynnwys rydych eisoes wedi’i greu yn parhau i ymddangos ar eich gwefan, ar ddyddiad o’ch dewis. Er enghraifft dwedwch eich bod  am ysgrifennu cynnwys ar thema’r Nadolig ond nid oedd amser i’w wneud yn ystod y cyfnod ei hun … ôl-ddyddiwch y post ac mae’n debygol y bydd unrhyw un sy’n edrych arno yn tybio iddo gael ei bostio cyn y Nadolig (ac yna rhyfeddu pa mor drefnus a gwybodus yr ydych! ).

Ond beth am yr anfanteision?

Yn gyntaf oll, mae’n rhaid i chi gofio nad yw’r peiriannau chwilio mor hawdd eu twyllo. Gallwch  dynnu’r dyddiad cyhoeddi o bost, ond bydd dyddiad mynegai ar ei gyfer o hyd (h.y. pryd ymddangosodd gyntaf ar y we). Hynny yw, fe allech chi ysgrifennu post heddiw a’i ôl-ddyddio nôl i fis Mehefin ond byddai peiriannau chwilio yn dal yn gwybod hyn. Os dewiswch ddilyn y trywydd yma o dynnu dyddiadau oddi ar eich blogiau,  rhaid hefyd ystyried gallai hyn olygu eu bod yn ymddangos yn llai dibynadwy i’ch darllenwyr. Er enghraifft, os ydw i’n chwilio ar sut i wneud rhywbeth ar gyfryngau cymdeithasol ( ddwedwn ni, sut i ychwanegu tudalen i mewn i grŵp), dim ond ar postiadau blog a gyhoeddwyd yn ddiweddar y byddaf yn edrych – am eu bod yn fwy tebygol o fod yn gywir a chynnwys gwybodaeth gyfoes.

Cynnwys yw popeth, ac  gwyddom i gyd erbyn hyn bod ychwanegu cynnwys ffres (o ansawdd) i’ch gwefan yn helpu eich optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), ac yn gyffredinol, mae cynnwys mwy diweddar yn cael mwy o sylw. Mae postio’n rheolaidd gyda chynnwys ffres a newydd yn golygu y bydd eich gwefan a’ch brand yn edrych yn berthnasol, a gallwch greu yr argraff ar ymwelwyr eich bod ar flaen y gad o ran cyflwyno’r wybodaeth honno iddynt.

Beth am wirioneddol ddiweddaru postiadau?

Rydw i wedi gwneud hyn o’r blaen, ac yn ddiweddar hefyd. Fe wnes i ddiweddaru’r wybodaeth ar bost blog 2 oed am theori lliw a chynnwys yr olwyn liw Canva newydd, newid y dyddiad cyhoeddi i adlewyrchu’r diwrnod y gwnes i’r diweddariad a dyna ni. Wrth gwrs, er nad yw hyn * yn hollol * yr un peth ag ôl-ddyddio postiadau, efallai mai’r hyn y dylwn fod wedi’i wneud oedd ychwanegu ychydig bach o destun i waelod y blog i ddweud fy mod i wedi ymweld ag o a’i ddiweddaru. Er hynny, ymddengys nad oes cytundeb ar-lein pa un ai ydy trin y dyddiad fel hyn yn cael effaith ar SEO ai peidio. Os rhywbeth, y cyfan a wnaeth, oedd apelio at  ddefnyddwyr am fod y cynnwys yn edrych yn fwy ffres (ac i raddau, yr oedd). Serch hynny, deuthum ar draws ddarn gan  Gary Illyes o Google yn awgrymu mewn SEJ blog post pe byddech chi’n gwneud hyn yn aml, gallai ddiddymu ddyddiadau ar gyfer eich gwefan gyfan, allai fod yn  rhywbeth go hanfodol i rai diwydiannau.

Crynodeb

Fy nghanlyniad cyffredinol am hyn yw, y gallwch dwyllo’ch defnyddwyr i feddwl bod eich cynnwys yn hŷn nag ydyw trwy ôl-ddyddio, ond dim Google sydd felly yn ei wneud yn ofer. Yn hollol ofer pan fydd eich ymwelwyr yn dychwelyd i’ch gwefan yn aml i ddarllen eich postiadau addysgiadol, ac yna 3 mis yn ddiweddarach yn dod ar draws llu o bostiadau sydd wedi’u hôl-ddyddio. Bydd hyn yn peri i’ch ymwelwyr gwestiynu pa mor ddilys a gonest yw’r wefan gyfan. Nid fedrwn ddod o hyd i unrhyw beth diffiniol sy’n dweud y bydd Google neu beiriannau chwilio eraill yn eich cosbi am ôl-ddyddio, heblaw am y ffaith mai dim ond ceisio twyllo’ch ymwelwyr yr ydych. Yn y bôn, eich dewis chi ydyw, ond teimlaf, yn rhesymegol,  na ddylech chi fyth ôl-ddyddio gan fod cynnwys diweddar a ffres yn fwy poblogaidd.