Wrth gwrs, gwyddom na allwn greu gwefannau ar gyfer pob busnes a sefydliad ledled Cymru, bydd llawer ohonoch yn dod o hyd i ddylunwyr gwefannau da iawn arall, tra bydd eraill yn creu eu gwefannau eu hunain. Yr hyn y gallwn ei wneud i’ch helpu yw cynnig rhai argymhellion defnyddiol ar gyfer dylunio gwefannau gwych.
- Gwnewch siwr fod gennych gynllun clir CYN dechrau arni. Bydd hyn yn cynnwys eich “strwythur tudalen” a chynllunio’r cynnwys – heb gynllun da i gychwyn, bydd yn anodd gorffen a lansio’r wefan. Hefyd, ar gyfer gwefannau mwy, heb strwythur da ar y dechrau, bydd llywio yn anodd ac yn ddryslyd i ymwelwyr.
- RHAID i’ch gwefan gyd-fynd â’ch brand! Os nad oes gennych frand yn ei le, bydd hi’n anodd tynnu’r wefan a’ch deunyddiau marchnata eraill at ei gilydd i ffurfio un wefan cydlynol. Gyda brand, gwnewch yn siŵr bod y wefan yn dilyn yr un lliwiau a ffontiau, yn ogystal â chanllawiau eraill a allai fod gennych yn eu lle (er enghraifft, sut mae testun yn cael ei ddefnyddio dros ddelweddau).
- Cofiwch gynnwys botymau cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu – gall hyn fod ar bob tudalen neu os oes gennych blog, ar waelod pob blog. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i ymwelwyr rannu’ch cynnwys i’w ffrindiau ar ystod o platfformau cyfryngau cymdeithasol.
- Mae angen pwrpas ar bob tudalen, a’r ffordd hawsaf o ddiffinio pwrpas yw creu botwm ‘Gweithredu’. Er enghraifft, efallai y byddai gwesty eisiau ychwanegu botwm “llogi ar-lein” hawdd ar y tudalennau sy’n berthnasol i lety, neu “holi am le” ar gyfer tudalennau llogi ystafelloedd cynadledda. Gwnewch hi’n hawdd i ymwelwyr ddod o hyd i’r hyn maent eu angen, ac yna gallent gymryd y cam terfynnol hwnnw o gysylltu neu archebu ar unwaith. Byddwn bob amser yn argymell mewnosod cyswllt ffôn ac e-bost yn eich pennyn a’ch troedyn ar bob tudalen, a gwnewch yn siŵr eu bod yn gysylltiedig â’i gilydd ac nid dim ond yn destun gwag!
- Crëwch dudalennau cartref hardd. Ie, hardd! Bydd ymwelwyr yn disgwyl oddeutu 4-5 adran felly peidiwch â osgoi dylunio tudalen gartref sy’n golygu bod angen iddynt sgrolio trwyddi, mae hyn bron yn ymateb awtomatig wrth lanio ar wefan y dyddiau hyn. Gwnewch y dudalen gartref yn drawiadol, gyda digon o ddewisiadau llywio i ymwelwyr archwilio o fewn eich gwefan.
- Rhaid i’ch gwefan fod yn ymatebol i declynnau symudol a llechen – os nad ydyw, nid yn unig ydych chi’n colli cwsmeriaid sy’n methu eich canfod, ond nid ydych chwaith yn rancio ar beiriannau chwilio ar y dyfeisiau hyn. Yn syml, mae’n rhaid i chi gael gwefan ymatebol, ond peidiwch â gadael i unrhyw un godi tâl ychwanegol arnoch amdano.
- Peidiwch â gorlwytho eich dyluniad – mae gwefannau yn 2018 yn lân / gwyn, hawdd eu llywio ac yn daclus. Cadwch hyn mewn cof wrth ddylunio eich gwefan, a gwnewch yn siŵr bod y cynnwys yr hoffech i ymwelwyr ei ddarganfod yn hawdd i gael gafael arno.
- Cofiwch y pethau bychain! Yma yn Gwe Cambrian Web rydym yn ymfalchïo ein bod yn cofio’r pethau bychain o ran dylunio gwefannau, a dylech chithau hefyd. Gwnewch yn siŵr bod yr holl rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost yn gysylltiedig (yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n defnyddio eich gwefan ar lechen a ffonau symudol), sicrhewch fod yr aliniad yn berffaith ar gyfer y delweddau a’r sliders a bod gennych ddilyniant yn y mathau o ffont a meintiau drwy’r wefan . Mae cymaint o wefannau gwych yr olwg yn boddi wrth y lan pan na ellir clicio ar gyfeiriadau e-bost neu mae’r delweddau ychydig ar sgiw/ogwydd.