Gall llawer iawn o agweddau o’ch gwefan effeithio ar SEO (Search engine optimisation). Os nad ydych yn siwr beth yw SEO yna darllenwch ein blog diweddara.
Cynnwys yw’r Cwbl
Gwyddom hyn eisoes ac mae cynnwys yn yn gynyddol ddod yn fwyfwy pwysig o ran SEO. Mae peiriannau chwilio a Google eisiau gweld eich bod yn darparu cynnwys o ansawdd, llawn gwybodaeth sydd o defnydd i’ch ymwelwyr. Felly, a yw eich ‘posts’ a’ch tudalennau wedi’u hysgrifennu’n dda a chywir, ydynt yn ateb dibenion eich gwefan neu’ch post? Ydych chi’n cynnig gwybodaeth addysgiadol i ymwelwyr y dudalen fydd yn eu hannog i ddychwelyd i’ch gwefan eto?
Cofiwch hefyd sicrhau bod gennych ddigon o gynnwys, peidiwch ag ysgrifennu traethodau hirfaith, ond rhowch ddigon o wybodaeth i’ch ymwelwyr fel eu bod teimlo’u bod wedi derbyn y wybodaeth angenrheidiol.
Mae tudalennau sy’n ddiffygiol mewn cynnwys hefyd yn ddiffygiol mewn sylwedd, ac ystyrir hyn yn rhywbeth negyddol gan lawer o beiriannau chwilio.
Pan fyddwch yn dechrau ysgrifennu eich cynnwys, mae angen i chwi pob amser gadw ymwelwyr eich gwefan mewn cof. Efallai mai chi yw’r arbennigwr o fewn maes penodol ac yn gwybod yr holl dermau technegol ar gyfer popeth yn y maes hwnnw, ond a fydd eich ymwelwyr chi?
Gwnewch ymchwil i’r allweddeiriau a’r ymadroddion y byddant yn eu defnyddio i ddod o hyd i chi ar-lein a defnyddiwch y geiriau a’r ymadroddion hyn yn eich testun.
Cynnwys Newydd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu tŵf aruthrol mewn blogiau ar y rhyngrwyd – er hwyrach na all blogio roi help llaw i’ch busnes neu’ch gwefan, gwyddom fod Google yn hoffi gweld cynnwys newydd. Mae dyddiau’r gwefannau statig oedd yn cael eu hadeiladu a’u gadael am 5 mlynedd wedi hen fynd.
Mae Google ac ymwelwyr â’ch gwefan eisiau gweld eich bod chi yno, yn weithio’n galed yn y cefndir, yn eu cadw’n gyfoes gyda’r datblygiadau diweddaraf yn eich maes chi neu’ch newyddion diweddaraf. Nid oes angen i chi gyhoeddi post newydd bob wythnos, byddem yn argymell gwneud hyn yn fisol neu pob yn ail fis. Dim ond i chwi wneud hyn yn gyson.
Helpu Google
Yn achlysurol bydd Google yn anfon “crawlers” i ymweld â’ch gwefan ac i gropian drosto. Y rhwyddach yw gwefan i’w chropian, po fwyaf bydd Google yn ei hoffi. Dyma hefyd eich cyfle chi i ddangos eich pwrpas i Google a beth rydych chi’n ei gysidro yn bwysig ar eich gwefan. Dyma rai agweddau ar ddyluniad eich gwefan y dylech gofio … ar gyfer Google:
- Defnyddio tagiau pennyn ( <h1>Header 1 er engraifft </h1>). Gall rhain gynorthwyo Google weld eich geiriau a’ch ymadroddion pwysicaf a gall yn gyffredinol gael eu defnyddio fel teitlau.
- Osgoi URLau deinamig, mae hyn yn gwneud gwaith Google yn llawer anoddach
- Cysylltu mewnol –sicrhewch lywio rhwydd rhwng tudalennau a posts o fewn gwefan
- Dileu mapiau delwedd – ni all Google eu darllen!
- Os ydych am ychwanegu delweddau, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu testun i’r Tagiau Alt – fel hyn, er na all Google ddarllen y ddelwedd, bydd yn deall beth yw’r ddelwedd
- Tynnwch Flash a iFrames – eto, ni all Google eu gweld!
- Defnyddio pwyntiau bwled, ond nid gormod – mae Google yn eu hystyried fel gwybodaeth byr a chyflym, nid cynnwys cyfoethog
- ‘Embolden’(Defnyddiwch destun trwm ar gyfer)eich geiriau pwysig – mae gair mewn bold yn golygu mwy, yn fwy pwysig.
Dim ond rhai o’r awgrymiadau y gallwn gynnig ar gyfer eich gwefan yw’r uchod – gwnewch ddigon o ymchwil, edrychwch ar ein blogiau eraill – mae’r algorithmau ac awgrymiadau SEO yn newid yn aml iawn!