A yw eich gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol yn effeithio’r SEO ar gyfer eich gwefan? Nac ydy (ddim nawr). Nid yw Google yn graddio’ch cyfryngau cymdeithasol ac yna’n  ei osod yn erbyn eich SEO, ond mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn cael ei fynegeio (ac felly’n cyfeirio traffig i’ch busnes yn anunionyrchol). Mae hyn yn helpu i adeiladu’ch awdurdod ar y we ac yn cyrraedd eich cwsmeriaid.

Mae hyn ‘chydig bach yn niwlog mewn gwirionedd, rydyn ni’n gwybod nad yw Google a pheiriannau chwilio eraill yn graddio nac yn cropian eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ond gall yr hyn rydych chi’n ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol gael effaith dda neu ddrwg ar safle eich gwefan. Yn anuniongyrchol wrth gwrs, ond mae yna  gyswllt. Felly ni fydd Google yn gweld post sydd â chyrhaeddiad o 5,000 a sydd yn rhoi hwb i’ch gwefan, ond bydd yn cropian yr hyn fyddwch yn bostio ar wahanol lwyfannau ac yn gweld eich awdurdod cynyddol ar-lein.

Os nad yw’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar SEO mewn gwirionedd, pam y blogbost? Oherwydd, os oes gennych fusnes sydd a gwefan a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol, mae’r ddau yn mynd law yn llaw i raddau helaeth. Trwy ganolbwyntio ar eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol, efallai y gallwch wella’ch canlyniadau SEO.

Mae Cynnwys Cyfryngau Cymdeithasol yn Cael ei Fynegeio

Ydych chi erioed wedi sylwi ar ganlyniadau cyfryngau cymdeithasol ar Google? Mae hyn yn digwydd oherwydd bod Google yn mynegeio post cyfryngau cymdeithasol, ac, yn dibynnol ar ba mor berthnasol ydyn nhw, byddan nhw’n ymddangos yn y canlyniadau chwilio.

Edrychwch sut mae ein tudalen Facebook wedi’i mynegeio yma ar dudalen 1 o’r canlyniadau chwilio, yn ogystal â dwy Drydar a fideo YouTube? Dim ond chwiliad enw busnes cyffredin yw hwn, ond os ydych chi’n ysgrifennu darnau blog (fel Cyfryngau Cymdeithasol ac SEO) y gallai defnyddwyr eraill ar-lein fod yn chwilio amdanynt, a mynegeion Google, yna gobeithio, byddwch chi’n dal eu sylw. Mae cyfryngau cymdeithasol yn gweithio yma trwy rannu’r cynnwys hwnnw, cyfeirio traffig i’r post a rhoi hwb i’w awdurdod.

Sy’n mynd â ni at adeiladu awdurdod ar-lein …

Rydyn ni wedi blogio am awdurdod o’r blaen, ac mae’n dal yn bwysig iawn gan beiriannau chwilio. Po uchaf yw awdurdod eich gwefan, gorau oll. Ni all cyfryngau cymdeithasol effeithio’n uniongyrchol ar safle’r awdurdod hwn, ond yr hyn y mae wedi ein helpu ni i’w wneud yw creu rhwydwaith gwych o gwmpas y busnes. Mae’r rhwydwaith hwn yn rhannu’ch blogiau a’ch gwybodaeth, gan greu mwy o ddolenni i’r wefan ar draws y we. Mae hyn yn handi pan fyddwch chi’n creu cynnwys defnyddiol, y gellir ei rannu – mae mwy o bobl yn ei rannu ac yn blogio amdano, yn cysylltu â chi ac yn estyn allan. Mae Google yn hoffi hyn.

Cyfarfod eich cwsmeriaid

Yn ddi-os, ar y cyfryngau cymdeithasol fyddwch chi’n cwrdd â’ch cwsmeriaid. Ond, ydych erioed wedi ystyried y cyfryngau cymdeithasol fel peiriant chwilio? Sawl gwaith y dydd fyddwch chi’n gweld rhywun yn gofyn am argymhelliad ar gyfer gwasanaeth neu gynnyrch? Faint o bobl ydych chi’n eu hadnabod sy’n defnyddio Twitter neu Facebook yn unig? Gallwch eu bachu yno, ac yna eu cyfeirio at eich gwefan. Mae hyn yn cynyddu’r traffig, sy’n cynyddu’r awdurdod …  welwch chi i ble rydyn ni’n mynd? Felly, oherwydd hyn, optimeiddiwch eich cyfryngau cymdeithasol i’r eithaf, o ran gwybodaeth ar eich proffil ac ansawdd y cynnwys rydych chi’n ei bostio a’i rannu.

Oherwydd nad yw’n berthynas yn un glir iawn, mi wnawn gadw’r blog hwn yn fyr ond mae yna elfennau bach eraill a fydd yn rhoi hwb i SEO a chyfryngau cymdeithasol, cofiwch, efallai y bydd Google yn newid ei feddwl (a dim y nhw ydy’r unig beiriant chwilio sydd ar gael…).