Facebook, Ddiweddaru a Newid Byth a Hefyd

Bu llawer o newidiadau ac addasiadu i Facebook Pages yn ddiweddar; hwyrach ichi sylwi ar rhai ohonynt, tra fod eraill yn dal i gael eu cyflwyno i ni.

Isod, rydym wedi rhestru’r hyn a wyddom, a chredwn eu bod yn newidiadau eithaf cyffrous i reolwyr tudalennau busnesau a brandiau.

Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, fe wnawn ein gorau i’ch helpu!

 

Newidiadau i’r ffyrdd y gallwch chi  bostio

Mae Facebook wedi cyflwyno llu o opsiynau newydd y gallwch chi “ychwanegu” wrth bostio ar eich tudalen. Y mwyaf cyffrous yw ychwanegu botwm ‘Gweithredu’, er mwyn i ymwelwyr efallai eich galw, neu yrru neges yn uniongyrchol i’ch tudalen. Mae’n ffordd wych o annog pobl i gysylltu â chi, neu ddarganfod mwy am eich busnes yn uniongyrchol o’u llinell amser eu hunain, yn hytrach na gorfod clicio i mewn i’ch tudalen i ddod o hyd ichi.

Argymhellion

Dyma’r newid mawr cyntaf yr ydym eisoes wedi’i sylwi arno ar ein tudalennau – ni fydd adolygiadau mwyach, ond yn hytrach argymhellion. Felly pa newidiadau a welwn, a sut fydd hyn yn effeithio ar berchnogion tudalennau busnes?

  • Bydd eich adolygiadau blaenorol yn cael eu trosi yn argymhellion, a bydd y raddfa adolygu’n parhau ar 5 sêren. Bydd Facebook yn aileirio i ddweud, er enghraifft, 5 * yn seiliedig ar farn 26 o bobl.
  • Mwy o hyblygrwydd – fel person sy’n gadael argymhelliad, byddwch yn gallu cynnwys llun a tagiau busnes hefyd!
  • Beth yw tag busnes !? Meddyliwch am hashnod! Byddant yn gweithio yn debyg i’r ffordd yr ydym yn chwilio am hashnodau ar Facebook a Twitter ar hyn o bryd. Yn ôl pob tebyg, bydd y tagiau’n helpu ymwelwyr â’ch tudalen ddatrys a deall yr hyn ydych chi’n ei wneud, a byddant yn helpu Facebook i gategoreiddio eich busnes ar gyfer chwiliadau. Gallai hyn fod yn wych ar gyfer argymhellion lleol, pan fydd rhywun yn gofyn am wasanaeth neu gwestiwn ar grwpiau lleol (fel siopau cyfnewid).
  • Bydd yn rhaid i argymhellion fod o leiaf 25 o gymeriadau o hyd. Yn ddelfrydol, ystyrir bod y sylwadau a adawyd o ansawdd uwch nag adolygiadau blaenorol.
  • Cwyno am Argymhellion – cynt, roedd cael gwared ar adolygiadau yn boen, ac yn broses hir wyntog iawn. Mewn gwirionedd, roedd angen tystiolaeth gennych yn y rhan fwyaf o achosion gan yr adolygydd mai camgymeriad oedd eu hadolygiad er enghraifft, cyn y byddai Faceook yn ei ddileu. Nawr, byddwch chi’n gallu cwyno am argymhellion, naill ai am fod yn dwyllodrus, yn sbam neu wedi dalu amdanynt. Nid wyr pa mor effeithiol  fydd hyn, ond rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i atal y cystadleuwyr hynny sy’n ffug adolygu!

Straeon Tudalen

Defnyddio straeon Instagram? Yna, fydd hyn ddim yn broblem ichi! Mae straeon wedi bod o gwmpas ers tipyn ar Facebook ond a ydyn nhw wedi cydio mewn gwirionedd? Nid oeddent yn hawdd iawn i’w cyrchu, ond bydd Facebook nawr yn ychwanegu dewis i ddefnyddwyr weld eich stori o’ch tudalen trwy daro (tapio) ar eich llun proffil. Mae mor debyg i’r ffordd y mae storïau’n gweithio ar Instagram ar hyn o bryd ein bod yn  credu i hwn fod yn ddatblygiad allweddol yn storïau Facebook, yn enwedig ar gyfer busnesau a brandiau.

Botymau Gweithredu

Yn dibynnol ar y math o dudalen, byddwch yn fuan yn gallu cynnwys “botymau gweithredu amlwg ar dudalennau” – fydd yn  help i’ch ymwelwyr gymryd camau gweithredu fel archebu apwyntiad neu fwrdd, anfon neges neu hyd yn oed ysgrifennu argymhelliad …

Beth a olygir hefo ‘math o dudalen’? Roedd gosodiad eithaf newydd gan Facebook yn caniatáu i reolwyr tudalen ddewis eu mathau o dudalennau – hynny yw – gwasanaethau, siopa, lleoliadau, ffilmiau a mwy. Daw pob un gyda thempled a gynlluniwyd ymlaen llaw o fewn Facebook, gan newid cynllun eich tudalen a’r modiwlau ynddo. Felly bydd y botymau a fydd yn ymddangos yn fuan wedi’u teilwra’n agosach gyda’r math / templed tudalen sydd gennych. Does dim pwynt cael botwm ‘sedd wrth gefn’ os nad ydych chi’n fwyty neu sinema.

Gwerthu Tocynnau

Mae Facebook yn ceisio’i gwneud hi’n llawer haws i ddigwyddiadau werthu tocynnau yn uniongyrchol oddi ar eu tudalennau Facebook, gyda nifer o integreiddiadau tocynnu newydd. Mae hyn yn sicr yn ddiweddariad  i gadw golwg arno!

Ehangu Rhestrau Swyddi

Rydyn ni wedi sylwi fod llawer o bostau swyddi yn ymddangos ar Facebook, sy’n wych – hysbysiadau o dudalennau rydych y eu hoffi a’i dilyn am eu swyddi gwag diweddaraf. Ymddengys fod yr opsiwn yn cael ei gyflwyno’n fyd-eang dros y misoedd nesaf, ond rydym yn amau bod rhanbarth y DU eisoes yn galluogi hyn!

Felly beth mae’r holl newidiadau hyn yn ei olygu i fusnesau?

Yn gyntaf, gwyliwch am rwystrau! Gall Facebook fod yn llawn rhwystrau ar y gorau:  rydym eisoes wedi sylwi bod ein fideos clawr yn symud safle am ddiwrnod neu ddau cyn dychwelyd yn ôl. Felly byddwch yn amyneddgar, efallai aros i’r newidiadau setlo lawr cyn gweithio ar osod eich tudalen o’u cwmpas. Yn bersonol credwn bod y newidiadau hyn yn ddatblygiad da gan Facebook i geisio cynyddu cyrhaeddiad busnes.Yn ogystal, mae llawer ohonynt yn helpu ymwelwyr i’ch tudalennau ganfod yr wybodaeth sydd ei angen arnynt yn gyflym hefyd.