Faint ydych chi fodlon wario? Mae prisiau gwefannau’n amrywio’n fawr ledled y DU, ac mae yn dibynnu ar lawer o wahanol elfennau. Gadewch i ni edrych ar y rhai mwyaf cyffredin.

Y Platfform

Dyma’r feddalwedd y bydd eich gwefan yn cael ei hadeiladu arni. Yma yn Gwe Cambrian Web rydym yn defnyddio WordPress ar gyfer y rhan fwyaf o’n gwefannau. Mae WordPress yn CMS (system rheoli cynnwys) sef platfform ffynhonnell agored sy’n boblogaidd iawn (pweru 37% o’r holl wefannau ar y we). Bydd rhai datblygwyr gwefannau yn creu eu platfformau eu hunain, fydd yn debygol o olygu cost cychwynnol uwch.

Beth fydd angen ei ystyried yw beth rydych chi am i’ch gwefan ei wneud?  A oes modd ei gyflawni gan ddefnyddio platfform ffynhonnell agored fel WordPress, neu oes angen un pwrpasol arnoch? Gofynnwch i ddatblygwyr eich darpar wefan a mi wna nhw eich hysbysu  os medrant ateb eich gofynion ai peidio!

Swyddogaeth

Yn ddi-os, i ni, dyma’r agwedd sy’n cynyddu cost dyfynbris gwefan. Fel y gwyddom, diwedd y gan yw’r geiniog, a po hiraf y mae’r gofynion yn ei gymryd i greu, yr uchaf y gost. Dyma reswm arall rydym yn defnyddio WordPress, oherwydd ei fod yn ffynhonnell agored sy’n golygu y gellir ychwanegu llawer swyddogaeth ar gost is na chreu system bwrpasol.

Mae bob amser yn werth gwirio i weld beth sydd wedi’i gynnwys yn y pris ar gyfer gwefan safonol – felly ni fydd costau cudd am elfen megis sioe sleidiau er enghraifft. Cymharwch y pecynnau i gael y gwerth gorau.

Beth yw swyddogaeth? Elfennau o’r hyn y mae eich gwefan yn ei wneud, er enghraifft ffurflen gyswllt, oriel, sioe sleidiau, map Google – mae’r rhain i gyd yn “swyddogaeth” ac o’u rhoi at ei gilydd yn creu gwefan wych. Bydd llawer o ddatblygwyr yn cynnwys swyddogaeth safonol wrth adeiladu’r wefan fel yr ydym ni yn ei wneud, ond gallai swyddogaeth ychwanegol gynnwys agweddau fel ychwanegu siop e-fasnach, llyfrgell ddogfennau, mapio coeth a mwy.

Thema neu bwrpasol

Os oes gennych wefan wedi’i hadeiladu ar CMS, ystyriwch yr hyn fydd yn cael ei gynnwys yn y dyfynbris o ran y dyluniad. Yn ddiweddar fe sgwennom ni blog yn egluro beth yw thema – mae miloedd lawer o themâu rhad ac am ddim a phremiwm (sydd a chost iddynt) y gellir eu defnyddio. Mae holl ddyfynbrisiau ein gwefan ar gyfer themâu pwrpasol, sy’n golygu ein bod yn eu gwneud ein hunain ac ni allwch ddod o hyd i’r un templed ar-lein. Bydd rhai datblygwyr gwefannau yn defnyddio themâu parod sydd a chost iddynt, sy’n gallu costio cyn lleied â $ 19! Mae bob amser yn werth gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych chi’n ei gael, ac os ydych chi’n hapus â thema parod sydd a chost iddi (gall hyn weithio’n ardderchog yn dibynnu ar eich anghenion), gwnewch yn siŵr bod y gost yn adlewyrchu hynny.

Rydym wedi gweithio gyda chleientiaid oedd am ddefnyddio themâu premiwm penodol gyda ‘chydig o addasiadau a newidiadau bach. Gall gadw cost eich gwefan newydd yn is, felly nid yw’n rhywbeth i’w anwybyddu yn sicr.

Nifer y Tudalennau

Ymddengys bod llawer o ddatblygwyr gwefannau yn cynnig dyfynbris yn seiliedig ar y nifer o dudalennau sydd eu hangen (dydyn ni ddim) – os oes gennych wefan fawr, mae hyn yn sicr yn rhywbeth i’w ystyried wrth chwilio am ddyfynbris.

Gallu mewngofnodi a chael mynediad i’r wefan eich hun

Mae hyn yn gais sy’n llawer mwy cyffredin nawr, ond pan ddechreuon ni’r busnes yn 2013, doedd dim llawer o gleientiaid eisiau’r gallu i gael mynediad i’w gwefan er mwyn ddiweddaru neu wneud newidiadau. Erbyn heddiw mae hyn yn llawer mwy cyffredin, felly gwnewch yn siŵr bod hyn yn cael ei gynnwys yn eich dyfynbris gwefan, neu y gallwch gyllidebu ar gyfer newidiadau ymhellach ymlaen.

Crynodeb

Pam ysgrifennu’r blog hwn? Wel, weithiau cawn gleientiaid sydd yn anhapus gyda’u gwefan newydd, neu wedi talu miloedd am wefan byddai cwmnïau eraill wedi cynnig dyfynbris llawer is amdani. Fel arfer mae’r cyfan oherwydd, mewn gwirionedd, nad ydym ni fel datblygwyr gwefannau ddigon agored am yr hyn sy’n effeithio ar y gost – dylai tryloywder o’r cychwyn helpu hynny yn bendant, a helpu cwsmeriaid i ddeall ar be maent yn gwario eu harian.