Unwaith eto, mae fersiwn newydd o WordPress yn cael ei rhyddhau, ac mae bellach ar gael i’w ddiweddaru ar eich gwefan, ond oes unrhyw newydd iddo? Byddwn ni pob amser yn argymell symud i’r fersiwn ddiweddaraf o WordPress; yn bennaf oherwydd yr datrysiadau chwilod/byg a diogelwch  sy’n  gynwysedig. Yn ogystal, bydd pob amser rhyw nodweddion newydd sgleiniog yn cael eu cynnwys sy’n gwneud yr uwchraddiad yn werth chweil.

Profiadau Blociau a Golygu Newydd neu Blociau a Phrofiadau Golygu Newydd

Hyd yn hyn ‘does dim llawer wedi mentro troi at “Gutenberg”, y golygydd newydd yn WordPress. I’r rhai sydd wedi gwneud hynny fodd bynnag, ceir yma rai gwelliannau gwych gan gynnwys nifer o ddewisiadau cynllunio ac arddull newydd.

Mae hwn yn ddiweddariad pwysig gan ei fod yn dangos i ba gyfeiriad mae WordPress ar gyfer Gutenberg yn mynd ac y bydd yn dal i yrru defnyddwyr i ddefnyddio’r golygydd newydd. Yr hyn sy’n ddiddorol yw –  ble fydd hyn yn gosod WordPress o fewn y farchnad adeiladwyr tudalennau – fydda  nhw’n cystadlu yn egnïol eu herbyn? Beth bynnag, mae’r swyddogaeth a welwn gan adeiladwyr tudalennau yn dal i gynnig mwy na Gutenberg ar hyn o bryd.

Thema 2020

Rhywbeth sylweddol sydd bob amser yn dod gyda uwchraddiad gweddol fawr yw y thema “blwyddyn”. Y tro yma, dyluniad lluniaidd a modern ydyw sydd, mewn gwirionedd yn deillio o thema sydd eisoes yn bodoli ( Chaplin gan Anders Noren), yn hytrach nag un hollol wreiddiol fel yr holl themâu blaenorol. Yn yr un modd â’r thema cynt, mae’r ffocws ar yr integreiddio â Gutenberg, arwydd arall fod  WordPress yn atgyfnerthu eu hymrwymiad tuag ato. Rydym ni yma yn Gwe Cambrian Web wedi edrych yn fanwl ar 2020 a  rhaid cyfaddef mae yn edrych yn drawiadol iawn. Ond er iddo roi llawer o reolaeth i chi dros y ffontiau a’r lliwiau, nid ydyw, yn anffodus, yn cynnig dim pellach. Fodd bynnag, os ydych chi’n grŵp bach neu’n flogiwr sydd am weld gorffeniad lluniaidd, byddem yn ei argymell yn fawr, ond os ydych yn fusnes neu sefydliad sydd angen delwedd broffesiynol byddem yn argymell thema wedi ddylunio yn bwrpasol gan ddylunydd gwe proffesiynol (fel Gwe Cambrian Web!)

Gwelliannau eraill

  • Cylchdroi Delwedd yn Awtomatig – wedi anghofio cylchdroi’r ddelwedd cyn ei uwchlwytho? Bydd WordPress yn ei wneud i chi.
  • Profion Iechyd y Safle – Yn ei gwneud hi’n haws gwneud diagnosis o broblemau gyda’ch gwefan, ac atal gwallau rhag digwydd yn y lle cyntaf!
  • Dilysu E-bost Gweinyddol – Gallai hyn unai fod yn ddefnyddiol iawn, neu’n drafferthus iawn. Bob hyn a hyn, bydd yn rhaid i weinyddwr eich gwefan gadarnhau bod ei e-bost yn gywir.

Barod i uwchraddio?

Gwych! Fodd bynnag, fel gyda phob uwchraddiad mawr, rydym yn argymell i chi fod yn ofalus. Gall Ategion a Themâu dorri, gall y gronfa ddata gael ei  llygru, a gall pethau fynd o chwith. Os ydych chi’n poeni, ac  byddai’n well gennych i ni  gymryd golwg, cysylltwch â ni! Byddwn yn hapus i helpu. Rydym yn cymryd gofal o bopeth, o gopïau wrth gefn i ddiweddariadau ategion a chydweddoldeb thema. Cysylltwch a ni heddiw!