Mae wastad werth glanhau a chlirio ‘nialwch, a mi wnaesom flog am hyn nol adeg y Nadolig. Penderfynais neithiwr i glirio proffil Trydar oedd gennym – i dorri lawr ar y nifer yr ydym yn ei ddilyn i wneud yn siwr fod ein ffrwd llawn gwybodaeth ddefnyddiol, a trydar yr ydym eisiau eu gweld. Pan y ngosod fyny proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol, y peth cyntaf mae rhywun yn tueddu i wneud yw dilyn pawb yn eich maes, neu busnesau yr ydych yn eu adnabod neu yn eu hoffi.

Roeddwn wedi’n nychryn gyda’r nifer oedd nawr gyda proffilau tawel nawr, ag yn sgil hynny wedi torri’r nifer o bobl yr ydym yn ei ddilyn tua 15%. Penderfynais beidio a dilyn y rhai nad oedd wedi trydar am dros flwyddyn, gan feddwl fod rheswm pam fod rhai heb drydar yn 2019 eto. Yna cefais hyd i doreth o farthnatwyr “diog”, a mi wnes i beidio a’u dilyn nhw. Wedi gweld cymaint o’r rhain, roeddwn y n meddwl ei fod yn werth gwneud blog amdano!

Felly, beth yw’r “marchnata diog” yma rwy’n siarad amdano? Cofiwch – roeddwn ddim ond ar Trydar a dydi hyn ddim yn flog ar farchanta diog yn gyffredinol! Dyma rai o’r pethau ‘ddaru droi’n stumog:

  • Cysylltu proffil Trydar gyda Facebook – felly pan fod post yn cael ei gyhoeddi ar Facebook, ei fod yn cael ei bostio’n awtomatig ar Trydar. Rhan fwyaf o’r amser, mae’r post yn rhy hir i gyfyngiadau Trydar, a felly’n cael ei dalfyrru gyda dolen i Facebook. Diog. Peidiwch croes-bostio, a peidiwch creu dolenni awtomatig. Cofiwch fod y gynulleidfa yn wahanol ar bob platfform.
  • Ddim ond yn ail-drydar – Wnes i weld rhai proffiliau a oedd ddim ond yn ail-drydar cynnwys gan eraill, felly doedd dim cynnwys gwreiddiol ganddyn nhw o gwbl. Gall hyn fod o werth, ond wnes i ddilyn y proffil yna i glywed yr hyn oedd ganddyn nhw i ddeud.
  • Rhannu tudalennau gyda dim ond y teitl – achos cwyn arall gen i. Byddai llawer o’r proffiliau “newyddion” yr oeddwn yn ei ddilyn yn rhannu blog yr oedden nhw wedi ei ysgrifennu, ond ddim ond yn cynnwys teitl y blog yn eu trydar. Rydym yn gwybod y teitl yn barod, gan ei fod yn cael ei arddangos islaw y trydar. Cymerwch y cyfle i ehangu ar y pwnc – meddyliwch am y rhesymau buasai eich dilynwyr eisiau gweld yr eitem yna, a pheidiwch bod yn ddiog!
  • Rhan fwyaf o’r amser, pan roeddwn wedi dilyn y cwmni ar blatfformau eraill hefyd, wnes i beidio a’u dilyn ar Trydar oherwydd eu bod yn rhannu yr un cynnwys. Yn gyffredinol, does dim lot sydd o’i le hefo hyn. Rhannwch yr un cynnwys, ond triwch beidio a gwneud hynny ar yr un pryd. Meddyliwch pa mor ddiflas fuasai ffrwd eich Facebook a ffrwd eich Trydar petai’r cwmniau yr ydych yn ei ddilyn yn rhannu’r un cynnwys. Diflas, diflas, diflas. Gwnewch rhywbeth gwahanol, ag os am rannu’r un post, yna efallai rhowch ongl arall ar y pwnc ar Trydar. Mae wastad ffyrdd i newid pethau o gwmpas i wneud eich ffrydiau’n fwy diddorol.