Ar Awst 1af 2018 gwelwyd ddiweddariad mawr newydd i algorithmau chwilio Google – diweddariad a gyhoeddwyd gan Google eu hunain – rhywbeth anarferol iawn!  Cofiwch fod Google YN GYSON yn diweddaru, addasu a newid eu algorithmau gyda rhai yn amcangyfrif iddynt wneud hyn hyd at 600 o weithiau mewn blwyddyn.

Dyma’r prif newidiadau yr ydym a ddiddordeb ynddynt, er enghraifft Panda a Phenguin cynt. Mae’r newid diweddaraf  hwn wedi mabwysiadu’r enw gan lawer o arweinwyr SEO fel Google Medic.

Cyhoeddodd Google y newid mawr yma yn ôl ym mis Mawrth, a gyda llawer yn cwestiynu’r diweddariad a beth fyddai’n digwydd i wefannau a effeithiwyd yn negyddol, yr ateb cyffredinol oedd (fel erioed) –  creu cynnwys gwych.

Felly beth ydym ni’n ei wybod?

Mae  wastad yn anodd dweud beth yn union yr ydym  ei wybod am y diweddariad, gan nad yw Google yn aml yn datgelu fawr ac felly  mae llawer yn ddyfaliad. Pan fyddwn yn esbonio hyn i bobl, yn aml nid ydynt yn ein credu, ond nid yw Google am i ni wybod beth a olygir yn wefannau gwych ganddynt, oherwydd fel busnesau mae’n rhaid i ni weithio tuag at fod yn wych trwy’r amser.

  1. Gwyddom fod y diweddariad hwn wedi effeithio’n bennaf ar wefannau o fewn y sectorau maeth a meddygol (felly ar gyfer rhai sectorau a diwydiannau, efallai na fyddwch wedi sylwi ar newid mawr yn eich dadansoddeg);
  2. Mae’r diweddariad hwn yn ffocysu’n bennaf ar “E-A-T” = arbenigedd (expertise), awdurdod (authoritativeness), dibynadwyedd (trustworthiness). Yr holl agweddau hynny rydym wedi bod yn bwysleisio wrth gleientiaid pam mor bwysig ydynt wrth greu cynnwys ar gyfer eu gwefannau a chyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddarganfod mwy am E-A-T yng nghanllawiau Google (adran 3.2);
  3. Bydd y diweddariad yn cynnwys gwefannau “YMYL” – term mae’n bosib, nad yw llawer ohonoch yn gyfarwydd â fo, ond mae’n golygu gwefannau “Eich Arian neu’ch Bywyd”; (Your Money or Your Life)
  4. Mae son bod y diweddariad hefyd wedi effeithio ar leoliadau wrth chwilio – yn bennaf  ymddengys bod lleoliadau lleol (busnesau â 1 neu 2 leoliad) yn cael eu ffafrio dros sefydliadau mwy sydd a  lleoliadau lluosog;
  5. Gwyddom fod llawer o wefannau wedi gweld newidiadau mawr yn eu dadansoddeg, ond gwyddom hefyd nad yw llawer wedi gweld dim newid o gwbl. Mae hyn oll yn golygu bod Google wedi diweddaru eu algorithmau â tharged penodol mewn golwg.

YMYL – Sectorau Maeth a Meddygol

Mae Google yn diffinio YMYL fel y ganlyn yn ôl y Canllawiau:

  • Tudalennau siopa neu drafodion ariannol
  • tudalennau gwybodaeth ariannol
  • tudalennau gwybodaeth feddygol
  • tudalennau gwybodaeth gyfreithiol
  • erthyglau newyddion neu dudalennau gwybodaeth gyhoeddus / swyddogol (sy’n bwysig er mwyn cael dinasyddion gwybodus)
  • arall – yn cwmpasu rhai pynciau eraill megis gwybodaeth am ddiogelwch ceir.

Mae Hazel Jarrett  yn cynnig  diffiniad hawdd o YMYL yn i ni: gwefannau YMYL yw’r rhai hynny sydd â phŵer i effeithio’n negyddol ar sefyllfa ariannol neu fywydau defnyddwyr os ydynt yn cynnwys y cyngor neu’r wybodaeth anghywir. Nid yw Google am anfon ymchwilwyr i safleoedd a allai niweidio’u hiechyd,  colli’u harian, brifo’u teuluoedd neu hyd yn oed beryglu eu diogelwch corfforol.

Yn y bôn, mae’r diweddariad newydd i’r algorithm yn ffafrio cynnwys sy’n ddiogel, yn ddefnyddiol a dilys. Hynny ydy, yr hyn ydym wedi bod yn  cynghori ein cleientiaid ers  rhai blynyddoedd bellach – mae angen i’ch holl gynnwys fod yn ddilys ac yn ddefnyddiol i’ch ymwelwyr / cleientau sylfaen. Ni fydd llenwi tudalennau â gwybodaeth sy’n ddiwerth a diddefnydd yn arwain at well safle Google oherwydd maint y cynnwys. Ansawdd, nid maint sy’n bwysig!

Felly, o ystyried sectorau YMYL a maeth / meddygol, mae’n debyg y bydd Google yn ffafrio gwefannau sydd â chefnogaeth a chonsensws y gymuned ehangach ar-lein, gyda chefnogaeth ymchwil a chymeradwyaeth briodol.

E-A-T

Mae cryn dipyn o gyngor y gallwn ni ei roi i’ch helpu a hyn, gweler ein blog  penodol  gellir ei ddarllen yma.

Lleoliadau

NId oes llawer o wybodaeth ar gael ar-lein ynglŷn â hyn ar hyn o bryd, ond ymddengys bod Google yn ceisio gwneud eu chwiliadau lleoliad yn fwy perthnasol i’w chwilwyr. Y consensws cyffredinol hyd  yma yw bod Google yn gweld  bod yn  lleol yn bwysicach na  bod yn aml/rhyngwladol. Sydd yn newyddion da i ymgyrch #supportlocal y DU ar hyn o bryd.

I Grynhoi

O blith y blogiau amrywiol yr ydym wedi’u darllen am y diweddariad diweddaraf, a’r Canllawiau  mae Google wedi’u diweddaru – mae’n amlwg fod Google wirioneddol yn gwthio cynnwys o safon uchel, defnyddiol. A pham lai? Mae Google eisiau gwefannau sy’n helpu eu hymchwilwyr i gyrraedd brig y rhestrau, oherwydd,  yn y pendraw, mae’r gwefannau y maent yn eu rhestru’n uchel yn effeithio ar eu henw da hwythau fel peiriant chwilio hefyd. Nid yw ddim gwahanol i siop adrannol fawr yn cyflenwi ystod o gynnyrch – bydd y pethau o ansawdd da yn cael eu stocio  gydol y flwyddyn.

Oes gennych unrhyw gwestiynau am optimeiddio peiriant chwilio a safle ar Google? Cysylltwch â ni heddiw!