O ran adeiladu eich gwefan, mae yna lawer platfform ar gael, gan cynnwys Squarespace, Joomla, WordPress, Wix … Ond gadewch i ni egluro pam y gwnaethom ni ddewis gweithio gyda WordPress 7 mlynedd yn ôl, a pham rydym bellach yn arbenigo mewn defnyddio’r platfform hwn yn unig i adeiladu ein gwefannau.

Mae WordPress yn blatfform poblogaidd iawn. Yn ôl yr ystadegau maen nhw’n eu darparu, mae 37% o’r holl wefannau ar-lein bellach yn cael eu rhedeg ar WordPress – mae hyn yn ganran anferthol. Oherwydd hyn, gallwn eich sicrhau fod WordPress yma i aros a na fydd yn diflannu yn fuan.

Pam codi hyn? Wel, gyda chymaint o ‘adeiladwyr safleoedd’ a llwyfannau i ddewis ohonynt, mae’n bwysig dewis rhai na fydd yn cael eu cau lawr – digwyddodd hyn i MrSite ym mis Mehefin 2020. Cafodd ei gau lawr ac nid oedd gefnogaeth iddo mwyach, gan adael cannoedd o fusnesau ledled y byd yn wynebu colli eu gwefannau, a chyda dim ond amser byr iawn i ddatrys hynny.

Yn y lle cyntaf, mae WordPress wedi ffurfio o wahanol elfennau. Mae gennych chi ‘ch thema, sy’n rheoli sut mae’r wefan yn edrych – ei dyluniad; mae gennych hefyd eich strwythur – cynllun eich tudalennau a’ch cynnwys; ac yna mae gennych eich swyddogaeth – fel arfer ar ffurf ategion. Mae pob un o’r elfennau hyn, er eu bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cynnyrch gorffenedig i chi, mewn gwirionedd yn gwbl arwahân i’w gilydd. Beth felly mae hynny’n ei olygu? Wel, yn syml, mae’n ffordd wych o sicrhau gwydnwch eich gwefan yn y dyfodol. Pe baech am ddyluniad newydd (y thema) ond yn hapus gyda’r strwythur a’r swyddogaeth, yna gallwch newid y thema yn unig. Rydym wedi sylwi fod hon yn agwedd ar ddylunio gwefannau sy’n tyfu mewn poblogrwydd, lle gallwn arbed cychwyn o’r cychwyn, a chreu edrychiad newydd, neu hyd yn oed, ailosod swyddogaeth er mwyn gwella gwefan sydd eisoes yn bodoli.
Pam arall ydyn ni’n defnyddio WordPress? Mae yna resymau eraill. Ar wahân i fod yn hynod boblogaidd ac yn wydn, mae WordPress hefyd yn caniatáu i ni:

  • Creu ystod o fewngofnodi defnyddwyr ar gyfer cleientiaid, gyda chaniatâd gwahanol ar gyfer defnyddwyr gwahanol. Golyga hyn nad oes angen i chi fynd nôl at ddatblygwr eich gwefan ar gyfer newidiadau bach, oherwydd bydd gennych y caniatâd i’w gwneud eich hun. Mae hwn wedi bod yn gais poblogaidd ers blynyddoedd.
  • Mae’r gost yn gymharol isel – mae’n weddol syml ychwanegu swyddogaeth i’r wefan heb orfod treulio oriau yn codio (dyma sut mae ein prisiau mor gystadleuol). Er enghraifft, gallai ffurflen gyswllt gymryd oriau i godio, ond trwy ychwanegu ategyn, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith eisoes wedi’i wneud. Mae ategion fel arfer yn rhad ac am ddim, ond gallwch chi hefyd wella eich swyddogaeth gyda rhai sydd rhaid talu amdanynt.
  • Mae’n gweithio’n wych yn ddwyieithog – dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gweithio ar WordPress er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwefannau dwyieithog i’n cleientiaid, ac rydyn ni’n hollol hyderus yn y ffordd y mae’n gweithio i’n cynorthwyo ni i wneud hynny.
  • Mae “ôl” y wefan yn sythweledol, sydd yn ein barn ni yn bwysig iawn pan yn trosglwyddo gwefan i gleient. Nid ydym am i’n cleientiaid deimlo ein bod yn trosglwyddo rhywbeth iddynt sydd mor gymhleth na allant fyth yn ei ddefnyddio. Byddwn yn aml yn dweud, os allwch chi ddefnyddio Windows, gallwch weithio’ch ffordd o amgylch WordPress trwy “ôl” y wefan.
  • Mae’n ffynhonnell agored – golyga hyn bod cymuned o bobl ledled y byd yn cyfrannu at wella’r platfform, a sicrhau y bydd bob amser yn ddiogel. Mae hefyd yn golygu bod llawer iawn o ddogfennaeth a thiwtorialau ar gael ar-lein i helpu.

Mae WordPress ar gael fel opsiwn “hunan adeiladau” agwedd y gwyddom y bydd llawer o bobl yn ei groesawu. Mae yna ystod enfawr o themâu am ddim ar gael (er bod hyn yn ei gwneud hi ‘chydig anoddach wrth geisio addasu pethau i’ch brand), a hefyd ategion premiwm. Ond, cofiwch wrth gwrs, gysylltu a ni os am ddyluniad cwbl bwrpasol ac unigryw ar eich cyfer.