Os ydych chi’n lleol i Aberystwyth neu Aberaeron – y post blog hwn yw ein herthygl ddiweddaraf yng ngholofn Marchnata Digidol EGO Chwefror 2019.

Mae brandio yn rhan mor bwysig o unrhyw fusnes, ond yn fy mhrofiad i o weithio mewn marchnata, mae’n agwedd ar fusnes nad yw weithiau’n cael ei gymryd o ddifrif nac yn cael y gwir werthfawrogiad mae’n haeddu. Mae rhai pobl yn dweud, “Dydw i ddim angen brand”, neu “Beth yw’r pwynt ohono?” – felly, dewch i mi roi eglurhad i chi o’i bwysigrwydd.

Mae meddu ar frand cryf yn bwysig oherwydd dyma sy’n creu argraff gofiadwy i’ch busnes ar gyfer eich darpar gwsmeriaid a’ch cwsmeriaid presennol. Mae cael brand yn gwella adnabyddiaeth, felly os ydych chi’n rhannu post ar gyfryngau cymdeithasol sydd â brandio cryf, mae’n hawdd ei adnabod ac mae’ch cwsmeriaid ffyddlon yn fwy tebygol o ymgysylltu â fe. Bydd brand cryf yn creu ymddiriedaeth, gall ysbrydoli gweithwyr, mae’n cefnogi’ch holl hysbysebion ac yn bwysicaf oll, gyda neges brand cryf, byddwch chi’n denu cwsmeriaid newydd.

Cyn i ni droi at sut i greu brand ar gyfer eich busnes, dewch i ni edrych ar beth sy’n GWNEUD brand effeithiol?

Bydd gan brand da estheteg gref, bydd yn ennyn ymddiriedaeth, yn meddu ar bersonoliaeth, yn hawdd ei ddeall, yn onest ac yn arloesol – yn datblygu’n gyson. Nid eich logo (neu hyd yn oed eich palet lliw a ffontiau busnes) yn unig yw eich brand – mae’n cwmpasu bopeth. Dyma sut y byddwch yn marchnata’ch hun, sut byddwch  chi’n ymddangos i bobl eraill, hwn yw eich personoliaeth brand.

Cyn y gallwn ni ddechrau creu brand, mae angen i chi feddwl am eich busnes. Beth yw eich gwerthoedd? Beth yw eich cenhadaeth? Oes gennych chi weledigaeth a nodau? Beth ydych chi’n gredu medrwch chwi ei gynnig na fedr busnesau eraill yn yr un maes? Beth sy’n eich gosod ar wahân i eraill? Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn eich helpu i lunio’ch brand. Os yn bosib, beth am ofyn barn eich cwsmeriaid neu gydweithwyr / teulu? Efallai bydd ganddynt atebion fydd yn eich synnu.

Felly,  wedi sefydlu’r pwyntiau allweddol hyn, gallwn nawr edrych ar eich brandio.

Dyma’r camau allweddol y byddwn i’n eu hargymell wrth greu brand:

1.Ynghyd â’ch gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd a nodau – crëwch ddatganiad cenhadaeth. Mae hyn yn wahanol i arwyddair (tagline).Er enghraifft, datganiad cenhadaeth Nike yw “Dod â ysbrydoliaeth ac arloesedd i holl athletwr y byd”,(‘To bring inspiration and innovation to every athlete in the world’) tra eu harwyddair yw “Just Do It”

2. Adnabyddwch eich cynulleidfa darged (mae hyn yn golygu bydd rhai o’r camau eraill ychydig yn haws, ond yn enwedig cynllunio eich strategaeth farchnata yn y dyfodol). Gall cynulleidfaoedd targed gynnwys pethau fel oedran, rhyw, lleoliad a galwedigaeth.

3. Archwiliwch y brandiau eraill o fewn eich sector – ond peidiwch byth a dynwared. Nodwch beth maent yn ei wneud yn dda a beth sydd ddim cystal. Gallwch chi ddefnyddio hyn i weld sut y gallwch chi wneud i’ch brand sefyll allan ac ennill cwsmeriaid. Efallai y bydd busnesau mewn un sector yn defnyddio logos tebyg (er enghraifft, trydanwyr sy’n defnyddio bylbiau golau neu bolltau mellt), a thrwy ymchwilio gallwch weld beth i’w osgoi er mwyn i chi sefyll allan.

4. Crëwch logo a phenderfynu ar arwyddair (tagline). Mae gennych yr holl offer nawr i ddechrau cynllunio logo gwych a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich busnes, ynghyd ag arwyddair gref i gyd-fyd ag ef. Lluniwch arwyddair trawiadol y byddwch yn falch ohono. Nid oes dim yn gwerthu yn well nag angerdd, ac os ydych yn falch o’ch arwyddair, bydd yr angerdd hwnnw’n llifo i’ch cwsmeriaid a thrwy eich brand. Ar gyfer logo, dewiswch eich ffontiau a’ch lliwiau yn ddoeth, mae gan bob un ystyr gwahanol. Dyma rai o’r cysylltiadau lliw i’w hystyried er enghraifft:

  • Coch: cyffrous, pwerus, ieuanc, beiddgar, corfforol, gweithgar.
  • Glas: ymddiriedaeth, uchelgeisiol, cryf, dibynadwy, agored, modern.
  • Gwyrdd: heddychlon, cydbwysedd, iach, twf, eglurder, diogel
  • Oren: cyfeillgar, cynhesrwydd, hyderus, optimistaidd, rhyddid, cymhelliant.
  • Porffor: creadigol, dwfn, doeth, brenhinol, unigol, ffantasi.
  • Llwyd: cydbwysedd, tawel, niwtral.
  1. Penderfynwch ar eich iaith frand (Brand Language). Dyma sut byddwch yn cyfathrebu â’ch cwsmeriaid ar-lein ac all-lein, a bydd yn tarddu yn bennaf o’ch gwerthoedd. Felly, os ydy gonestrwydd neu bod yn agored yn werth, yna efallai y gallwch ystyried llais brand mwy ymddiddanol. Gall llais brand fod yn broffesiynol, yn gyfeillgar, yn dechnegol, yn hyrwyddol, yn addysgiadol, yn ymddiddanol – hyd yn oed yn eofn . Meddyliwch am eich brand fel person a sut y byddai’r person hwnnw’n siarad neu’n ymddangos.
  2. Nesaf, mae angen neges brand clir ac ‘elevator pitch’ arnoch chi pan fydd pobl yn gofyn beth ydych chi’n ei wneud neu gynnig. Felly, diffiniwch pwy ydych chi, yr hyn rydych chi’n ei gynnig a pham y dylai pobl eich ystyried. Yn hytrach na malu awyr, bydd gennych wedyn ateb gwych o’r cychwyn sy’n cyd-fynd â’ch brand newydd cryf!

 

Os  ydych dal yn ansicr a ddylech  gael brand (neu hyd yn oed ail-frandio), edrychwch ar y gystadleuaeth a phenderfynwch pa mor gryf yw eich brand o’i gymharu. Os yw’n wan, mae’n debygol ei fod yn anghofiadwy. Os cofiwch chi ond un peth o’r erthygl hon, yna cofiwch fy arwyddair ar gyfer 2019: Byddwch yn Fwy’ch Hun! (Be More You.)