Mae ysgrifennu cynnwys ar gyfer eich gwefan yn hanfodol os ydych chi am iddi fod yn llwyddiannus; fodd bynnag, mae’n hollol wahanol i ysgrifennu cynnwys ar gyfer print. Mae angen i arddull yr ysgrifennu fod yn addas i’r we, ac mae angen iddo adlewyrchu iaith eich brand yn effeithiol hefyd.

Ond, nid yw ysgrifennu cynnwys yn golygu cynhyrchu rhestrau o destun ar gyfer eich gwefan – mae angen ei gynllunio a’i osod yn ofalus, a gweithio ochr yn ochr ag ymddygiad eich defnyddwyr. Rhaid i chi gofio mai cyfnod canolbwyntio byr iawn sydd gan bobl o ran darllen gwefannau, tudalennau a chynnwys. Ond beth yw’r patrymau ymddygiad eraill? Sut felly mae ymwelwyr yn mynd ati i ddarllen eich gwefan?

Patrwm Siap F

Rhan o ymchwil confensiynol yw hwn ynglŷn â sut bydd ymwelwyr yn edrych yn gyflym ar eich gwefan. Dychmygwch eich hun yn edrych ar dudalen we, ac yna gosodwch siâp “F” fras dros y cynnwys. Dyma sut mae ein llygaid yn cip-ddarllen cynnwys yn gyflym. Fel defnyddwyr, rydym yn tueddu i ddarllen yn llorweddol ar draws rhan uchaf y wefan, cyn symud i lawr y dudalen a dod o hyd i ail ddarn llorweddol fel arfer dros ran fyrrach na’r cyntaf ac yna, i orffen, yn cip-ddarllen ymhellach i lawr ar y chwith.

Patrwm ‘Teisen Haen’ (‘Layer Cake’)

Dyma batrwm arall y mae ymwelwyr yn tueddu i’w ddilyn wrth edrych ar wefan neu dudalen we. Yn syml, mae hyn yn digwydd pan fydd ymwelwyr yn cip-ddarllen penawdau ac is-benawdau yn unig, gan anwybyddu y gwir gynnwys. Fe’i gelwir yn batrwm ‘teisen haen’ oherwydd bod map tymheredd o’r ymddygiad hwn yn edrych fel llinellau llorweddol.

Mae well gan ymwelwyr gip-ddarllen tudalennau

Yn y pendraw, mae ymwelwyr a’ch gwefan bob amser yn mynd i gip-ddarllen ‘ch cynnwys yn gyntaf . Rwy’n ei wneud fy hun, yn cip-ddarllen a sgrolio trwy dudalen yn gyflym ac, yna, os yw’r hyn a welaf yn ymdebygu i’r hyn yr oeddwn yn chwilio amdano, byddaf yn ei ddarllen yn fanylach. Os nad yw, byddaf yn clicio yn ôl. Felly os nad oes yna deitl, neu destun mewn print trwm sy’n cydio’r sylw, mae’n debyg y byddaf i a llawer arall yn clicio yn ôl a throi at wefan arall.

Dengys ymchwil bod yna 3 rheswm tebygol pam ein bod yn cip-ddarllen: rydyn ni ar frys (efallai bod angen yr ateb arnom yn gyflym); rydym yn chwilio am yr hyn sy’n bersonol berthnasol i ni (ac yn gwybod y bydd cip-ddarllen yn ein helpu i gyflawni hyn) ynghyd a’r ffaith hefyd ein bod yn ddiamheuol wedi’n hyfforddi ar gyfer cip-ddarllen cynnwys.

Ni fydd y mwyafrif yn ei ddarllen i gyd

Yn anffodus ni fydd mwyafrif o’ch ymwelwyr yn darllen trwy eich holl gynnwys. D’yw hynny ddim yn golygu nad yw’n gynnwys o ansawdd, ond gallai fod yn rhy faith i’ch ymwelwyr, yn rhy swmpus neu heb ei fformatio’n hawdd i gynorthwyo sgimio a chip-ddarllen – ac o’r herwydd efallai byddant yn colli’r neges bwysig rydych chi am ei chyfleu.

Yn ôl Chartbeat, ddim ond 60% o erthygl ar gyfartaledd bydd ymwelydd ar-lein nodweddiadol yn ei ddarllen. Felly, golyga hyn bod cynnwys gwefan sy’n fyr, yn gryno a chymwys yn llawer gwell; tra bydd sicrhau bod cynnwys ehangach wedi’i fformatio’n glir er mwyn cynorthwyo “cip-ddarllen” yn mynd yn bell.

Beth allwch chi wneud felly i ddenu ymwelwyr i ddarllen y cynnwys rydych chi am iddynt ei ddarllen?

Mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud ar eich tudalen we er mwyn amlygu’r pwyntiau pwysig. Un o fy hoff driciau, a rhywbeth rydw i’n ei wneud mewn print hefyd, yw tynnu sylw at fy ngeiriau allweddol neu ymadroddion (fel arfer trwy eu gwneud yn drwm), naill ai trwy newid y ffurfdeip neu ddefnyddio gwahanol liwiau.
Dylech gynllunio’ch cynnwys gydag is-benawdau neu is-deitlau sy’n berthnasol i’r defnyddwyr – fel bod y teitl yn dal eu sylw pan fyddant yn sgrolio. Does dim pwynt ceisio bod yn rhy glyfar yma, oherwydd rydych chi am iddyn nhw roi’r gorau i sgrolio. Meddyliwch am benawdau neu deitlau sy’n tynnu’r sylw, ac sy’n wirioneddol glir i’w darllen mewn cip-ddarlleniad cyflym.

Mae pwyntiau bwled hefyd yn ffordd wych o gyflwyno gwybodaeth o ansawdd neu wybodaeth allweddol mewn fformat gryno, gan hefyd gyfleu’ch testun yn fwy eglur . Yn yr un modd, rwy’n argymell yn gryf eich bod yn ceisio crynhoi’ch cynnwys yn baragraffau byr. Ceir awgrym cryf fod cynnwys canran uchel o le gwyn ar eich gwefan yn effeithiol o ran ei ymddangosiad a’i daclusrwydd, felly bydd osgoi defnyddio blociau enfawr o destun yn dda ar gyfer hyn, a ni fydd yn gorlethu’ch darllenwyr.

Mae yna ffactor “darllenadwyedd” hefyd sy’n helpu gydag optimeiddio peiriannau chwilio – po fwyaf cymhleth yw y geiriau a’r brawddegau rydych chi’n eu defnyddio, yr anoddaf yw eich tudalen i’w darllen. Os ydych chi’n ysgrifennu ar gyfer y we, mae yna lawer o offer a all eich helpu i ddadansoddi’r darllenadwyedd, a sicrhau eich bod yn cyfleu eich syniad yn glir a mewn modd hawdd ei ddeall.

Canlyniad

Y gwir ydy, cip-ddarllen gwefannau a’u tudalennau a wnawn – felly mae angen i chi fod yn hollol glir beth yw pwrpas eich tudalen neu’r cynnwys, a sicrhau ei fod yn amlwg i’ch ymwelwyr. Osgoi paragraffau hir, a defnyddio iaith hawdd (tra’n cynnal llais eich brand), a chadw’ch geiriau allweddol mewn cof bob amser. Nid yw’n hawdd ysgrifennu cynnwys ar gyfer y we – dyma pam mae cymaint o bobl yn codi tâl am y gwasanaeth. Eich cynnwys yw’r peth pwysicaf ar eich gwefan, ac os nad ydyw yn gweithio’n iawn, gallech fod yn colli cwsmeriaid. Dwi’n CARU ysgrifennu fy nghynnwys fy hun ar gyfer ein gwefannau, ond yn ystod y misoedd diwethaf rydw i wedi cyflogi prawf-ddarllenydd / golygydd i wirio’r cyfan i mi does dim cywilydd mewn gwneud hynny!