Pryd bynnag byddwn yn edrych ar ddadansodeg ar wefan, mae’r gyfradd bownsio bob amser yn un byddwn yn ei dadansoddi – un byddwn bob amser yn ei chynnwys ac yn cofio edrych arni. Gall yr ystadegyn bach hwn ddweud cymaint wrthym am y wefan, neu’r dudalen lanio, a’r hyn yr ydym yn anelu i wneud, yw sicrhau bod y gwerth canrannol mor isel â phosibl.

Beth yw cyfradd bownsio?

Dyma ganran yr ymwelwyr i’ch gwefan sy’n gadael eich gwefan heb edrych ar ail dudalen. Meddyliwch am bel yn taro wal ac yn bownsio nol yn syth heb rolio i unman arall – dyna i chwi gyfradd bownsio. O fewn Google Analytics, gallwch weld y gyfradd bownsio ar gyfer bob tudalen, sy’n ddefnyddiol iawn er mwyn gwirio effeithlonrwydd hysbyseb neu ymgyrch. Gallwch hefyd weld y gyfradd bownsio fesul caffaeliad – a yw’r gyfradd yn uwch ar gyfer pobl sy’n dod o’r cyfryngau cymdeithasol ynteu atgyfeiriadau?

Mae’r data yma yn dweud llawer wrthym. Er enghraifft, dwedwch bod eich cyfradd bownsio o’r cyfryngau cymdeithasol i’ch tudalen gartref yn eithaf uchel (unrhyw beth dros 50%) – gallai hyn awgrymu nad ydy’ch proffil cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu’r hyn y mae ymwelwyr yn ei ddisgwyl pan fyddant yn glanio ar eich tudalen hafan. Efallai bod y gyfradd bownsio o chwiliad organig yn llawer is, sy’n golygu eu bod yn fwy bodlon â’r hyn maen nhw’n ei ddarganfod wedi chwilio a dod ar draws eich gwefan.

Beth yw cyfran bownsio dda?

Meddyliwch – sawl gwaith byddwch chi yn ymweld a gwefan a dim ond edrych ar un dudalen yn unig cyn gadael? Llawer gwaith mae’n debyg, a dyna pam y ceir cyfraddau bownsio ‘da’ a ‘drwg’.

Yn gyffredinol, mae unrhyw beth is na 50% yn gyfradd bownsio wych yn ein barn ni. Efallai bod 50% yn ymddangos yn eithaf uchel, ond yn y bôn mae hyn yn ffordd naturiol o bori trwy y rhyngrwyd, heb archwilio ymhellach nag un dudalen, felly mae 50% yn wych!

  • 80%+ drwg iawn
  • 70-80% gwael
  • 50-70% canolig (tebygol mai dyma fydd y rhan fwyaf o’ch tudalennau)
  • 30-50% rhagorol
  • >30% eithriadol – a gall fod yn gamgymeriad!

Sut i wella’ch cyfradd bownsio

  1. Cadw’ch defnyddiwr mewn cof bob amser – mae profiad y defnyddiwr (UX) yn bwysig a bydd yn annog unrhyw ymwelwyr i archwilio’ch gwefan ymhellach. Mae profiad y defnyddiwr yn cynnwys pethau megis pa mor hawdd yw eich gwefan i lywio a deall, a sut mae’n edrych.
  2. Optimeiddio’ch gwefan – gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn llwytho’n gyflym!Mae’r argraffiadau cyntaf yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ymwelwyr sydd am archwilio’ch cynnwys ymhellach. Rydym fel arfer yn argymell defnyddio Pingdom a Google Site Speed i brofi’ch gwefan. Gwnewch hyn efallai 4 gwaith y diwrnod, a chymryd cyfartaledd.

  3. Amrywio eich cynnwys – tydi pawb ddim yn hoffi darllen! Y gwir yw mae’r gallu i ganolbwyntio yn llawer is nawr nag yr oedd yn arfer bod. Trwy ychwanegu cynnwys newydd a gwahanol – delweddau o ansawdd uchel, ymgorffori fideos gallwch, gobeithio, ddal sylw eich cynulleidfa am gyfnod hwy.

  4. Cynnal ychydig o brofion – yn aml gelwir rhain yn brofion A / B. Gallwch brofi cynnwys neu alwad i weithredu eich gwefan er mwyn darganfod beth sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd ddim. Gallwch fynd â hyn gam ymhellach hefyd trwy greu tudalennau glanio penodol ar gyfer unrhyw ymgyrchoedd a hysbysebion ar-lein, yna addasu fel byddwch yn profi er mwyn gweld beth sy’n gweithio a sut mae hyn yn effeithio ar eich cyfradd bownsio.

  5. Gweithio ar eich cynnwys – dau beth i’w wneud yma – sicrhau bod eich cynnwys yn ddarllenadwy, a gwneud siŵr bod eich cynnwys yn ddiddorol ar gyfer eich cynulleidfa. Felly, yn gyntaf bydd angen strategaeth cynnwys dda arnoch chi, ac yn ail bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ysgrifennu mewn ffordd sy’n hawdd ei darllen. Hawdd i’w ddarllen? Y ffont, maint y ffont, y lliw a hefyd ei ‘ddarllenadwyedd’ o ran strwythur, gramadeg ac ati. Gallwch osod ategion megis Yoast ar wefannau WordPress, wnaiff edrych dros y darllenadwyedd hwn i chi.

  6. Targedwch y defnyddwyr hynny sydd ar fin gadael – Gair i gall olaf gennym ni, wyddoch chwi y gallwch dargedu ymwelwyr â’ch gwefan sydd ar fin gadael neu sydd wedi clicio’r botwm ‘x’? Efallai iddynt fod yn gadael oherwydd eu bod yn brysur neu fod rywbeth arall yn digwydd. Mae yna dechnoleg ar gael fedr olrhain pan fydd ymwelydd ar fin gadael eich gwefan, ac yna gallwch chi anfon neges atynt y funud honno. Y mwyaf cyffredin yw ffenestr naid (pop up) i rhestr bostio.

Mae llawer mwy o awgrymiadau i’w darganfod ar draws Google wrth bori trwyddo. Yma rydym wedi rhoi at ei gilydd ein ffefrynnau ni a’r rhai rydym bob amser yn eu hargymell i’n cleientiaid wrth astudio’r bownsio’n ôl.