Mae WooCommerce 4.0 wedi bod allan ers tro bellach, a chyda hynny daw ffordd hollol newydd i ryngweithio gyda’ch data gwerthu. Byddwn fel arfer yn argymell diweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf o WooCommerce cyn gynted ag y gallwch bob amser, ond bu trafferthion gyda maint hwn, ac adroddiadau bod fersiynau prawf cynnar wedi achosi problemau data eithaf difrifol, fel dyblygu ffigurau gwerthu a gwneud smonach o gyfrifyddu rhai pobl. Fodd bynnag ymddengys bod y rhain wedi’u datrys nawr, ac rydyn wedi’n cynhyrfu gan y nodweddion newydd y mae WooCommerce 4.0 yn gynnig.

Ein huchafbwyntiau yw:

  1. Dangosfwrdd Newydd – mae hyn yn rhoi “cipolwg” i chi ar eich gwerthiant dros gyfnod o amser – a dylai fod yn llawer cyflymach nag adroddiadau mewn fersiynau blaenorol, ac yn caniatáu ichi greu adroddiadau wedi’u teilwra yn ôl eich anghenion.
  2. Adrodd yn well – ceir opsiynau newydd ar gyfer hidlo ac mae’n haws o lawer allgludo adroddiadau er mwyn cyfannu’n well â systemau eraill a allai fod gennych, fel eich system til siop gorfforol.
  3. Gwell Adroddiadau “Cwsmer” – dewch i adnabod eich cwsmeriaid yn well trwy ddefnyddio hidlwyr ac adroddiadau sy’n dangos beth maent wedi’i brynu o’r blaen ar eich siop.
  4. Rheolaeth Siop Symlach – maent wedi ychwanegu llwybrau byr i’r ‘backend’ i’w gwneud hi’n fwy hygyrch i gwblhau a thrafod archebion o’ch gwefan.

Mae hyn yn paratoi y platfform yn dda ar gyfer y dyfodol – a chredaf eu bod yn  gwneud ymdrech lew i wella er mwyn cystadlu mewn amgylchedd mwy cystadleuol, ac allwn i ddim aros i weld beth ddaw nesaf.

Dyma i chwi ychydig mwy o wybodaeth gan y datblygwyr eu hunain:

WooCommerce 4.0

Cofiwch – os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch i ddiweddaru eich gwefan WordPress a WooCommerce yn ddiogel, cysylltwch â ni.