Yn ôl ym mis Chwefror, fe wnaethom bostio rhai awgrymiadau defnyddiol ar ein tudalen Facebook i sicrhau bod eich dylunydd gwefan yn ei gael yn iawn! Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, gwelwn lawer o wefannau newydd yn ymddangos, yn barod ar gyfer y tymor newydd mewn sawl achos. Felly, beth ddylwch ei wirio cyn i’ch gwefan fynd yn fyw i wneud yn siŵr bod gennych chi wefan gwerth chweil?

  • Cysylltwch eich holl gysylltiadau ffôn ac e-bost, peidiwch â’u gadael fel testun gwag! Mae hyn yn golygu wrth ddefnyddio’r wefan ar ffôn, rhaid i gwsmer ond tapio’r rhif ffôn a’ch ffonio, yn hytrach na gorfod ei gopïo, yna deialu.
  • Gwnewch yn siŵr nad oes camgymeriadau sillafu neu wallau gramadeg – os ydych chi’n rhedeg busnes, mae eich cynnwys yn eich adlewyrchiad ohono chi, felly byddwch yn broffesiynol pob amser. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i arddangos peth o’ch personoliaeth hefyd – gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn adlewyrchu’r busnes yn dda. Peidiwch â mynd am destun corfforaethol os nad yw’n addas i’ch busnes.
  • Ydy’r holl destun yn glir? Allwch chi weld testun ysgrifenedig dros ddelweddau,lluniau neu sleidiau?
  • Gwnewch yn siŵr ei fod yn cyfateb i’ch brand!
  • Yn olaf, a yw’r wefan yn gweithio? Os yw’n ddwyieithog, ydy’r iaith gywir yn ymddangos pryd a ble y dylai? A yw’r holl gysylltiadau yn gweithio ac yn mynd i’r mannau cywir?

 

Rydym yn adeiladu ein gwefannau “all-lein”,  a bydd pob cleient yn derbyn mewngofnodiad unigryw i fel y gallant weld y cynnydd a gwirio / profi’r wefan wrth i ni fynd ymlaen. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn y manylion llai, a jyst cyn i ni  fynd yn fyw, byddwn bob amser yn darllen trwy’r destun i wirio unrhyw gamgymeriadau sillafu, dolenni coll – dotio’r i a chroesi’r t fel petai.