Mae technoleg a ffasiwn yn newid yn gyson ac yn gyflym, felly bydd angen adfywio’ch gwefan yn y man, neu ddechrau o’r dechrau o ran y dechnoleg y mae’n ei defnyddio, neu’r swyddogaeth y gall ei chynnig. Mae hynny’n berffaith iawn – does dim o’i le ar wneud hyn o gwbl; yn ogystal,  peidiwch a theimlo’n lletchwith wrth ofyn i’ch dylunydd gwefan presennol wneud hyn ar eich rhan. D’yw’r ffaith bod angen adnewyddu’r safle, ddim yn golygu bod angen i chi ddod o hyd i rywun arall i’w wneud ar eich rhan.

Felly, beth yw’r arwyddion bod angen gwefan newydd arnoch?

1.    Mae wedi dyddio

Hwn yw’r rheswm mwyaf cyffredin i gael gwefan newydd. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddem yn dylunio gwefannau mewn ffordd wahanol iawn i sut r awn ati nawr – heddiw delweddau mawr, digon o ofod gwyn, tudalennau sy’n llifo ac wrth gwrs, ymatebolrwydd yw’r nod. Os oes gennych wefan sy’n siop ar-lein, efallai y gallwch ystyried diweddaru’r edrychiad a’r ymdeimlad yn amlach, er mwyn ysbrydoli ymddiriedaeth yn eich brand. Mae hyn hefyd yn rhywbeth i’w ystyried ar gyfer unrhyw fusnes, os yw’r wefan wedi dyddio, beth sy’n digwydd  o fewn y busnes?

2.    Ni allwch ei ddiweddaru      

Heddiw, peth syml iawn yw cael gwefan wedi’i datblygu ar eich cyfer  fydd yn eich galluogi i gael mynediad at gynnwys, lluniau, strwythur tudalennau ac ati. Mae’r math hwn o wefan yn rhedeg oddi ar CMS – system sy’n cael ei rheoli gan gynnwys. Rydym ni wrth ein bodd yn defnyddio WordPress fel ein datrysiad, ond mae systemau eraill ar gael. Tua 5 mlynedd yn ôl, gwelwyd cynnydd mewn ceisiadau gan gleientiaid am y gallu i fewngofnodi i’w gwefan a newid gwybodaeth – ar y pryd roeddem eisoes yn cynnig hyn fel rhan o’r pecyn,  er nad oedd llawer o ddatblygwyr eraill.

3.    Nid yw’n ymateb i dechnoleg symudol

Peth arall sy’n weddol newydd yn y dechnoleg yw cael gwefannau sy’n ymatebol i ffôn a llechen symudol. Yn wir, mae Google wedi gwthio hyn ymlaen trwy roi blaenoriaeth i safleoedd sy’n symudol gyfeillgar ar unrhyw chwiliadau a wneir ar ffôn symudol hefyd, felly mae’n holl bwysig i’w gael. Mae’n ddisgwyliad nawr gan ymwelwyr ar eich gwefan ei fod yn ymatebol, a d’oes neb eisiau gwasgu a llusgo ar draws eich safle i gael mynediad at y wybodaeth.

4.    Mae gan eich cystadleuwyr wefannau gwell

Pa mor aml ydych chi’n ystyried beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud? ‘Da ni ddim yn argymell  eich bod yn dechrau gwylio pob symudiad a wneir ganddynt, ond peth da yw  eu  gwrio pob yn hyn a hyn i weld ble mae nhw arni. Os oes gwefannau newydd gwych gan eich cystadleuwyr i gyd, yna efallai ei bod yn bryd ystyried diweddaru’ch un chi!

5.    Mae eich brand wedi ei ddiweddaru ond y wefan heb

Mae’n hawdd iawn i’ch busnes esblygu wrth i amser fynd heibio – efallai y byddwch yn gweld eich hunan yn naturiol  ddechrau gwyro tuag at wasanaeth neu arddull benodol ac felly mae eich model busnes yn newid. Os nad ydych chi’n cofio/meddwl am y wefan pan fydd hyn yn digwydd, gall ddod i gynrychioli rhywbeth nad yw bellach yn frand neu’n fusnes i chi. Gallai hyn olygu bod pobl yn chwilio am wasanaethau nad ydych yn eu cynnig mwyach, ac y gallent  deimlo’n rhwystredig gyda’ch busnes.

6.    Mae’ch cynnwys yn hen ffasiwn iawn

Mae cynnwys a dyluniad yn mynd law yn llaw â chreu gwefan drawiadol- gallwch feddu ar gynllun gwych, ond os yw’r cynnwys yn wael yna bydd hi’n anodd i chi drosi ymwelwyr. Os nad ydych wedi diweddaru eich cynnwys ers peth amser, mae ailgynllunio gwefan yn gyfle perffaith i wneud hynny! Byddem hyd yn oed yn argymell gofyn i rywun wneud hyn.

7.    Nid yw’ch gwefan yn cael ei rancio’n uchel ar beiriannau chwilio bellach

Mae Google a pheiriannau chwilio eraill yn newid eu halgorithmau yn aml iawn, felly os cafodd eich gwefan ei hadeiladu ar gyfer hen dactegau ac algorithmau SEO, mae’n debygol y bydd yn dechrau dioddef ar y peiriannau chwilio. Dyma hefyd pam mae defnyddio CMS yn wych, oherwydd gallwch weithio ar eich cynnwys pan fydd diweddariadau newydd yn digwydd.

 

Pethau eraill i’w hystyried:

Wrth ddylunio safle newydd, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn cadw mewn cof:

  • Cyflymder llwytho’r wefan
  • Defnyddioldeb i ymwelwyr
  • Diogelwch gwefan a gwe-letya
  • Apêl weledol