Gyda’r newidiadau algorithm Google diweddaraf (Google Medic, darllenwch fwy amdano yma), roeddem yn meddwl  fod hi yn hen amser  i ni ‘sgwennu blog ar sut y gallwch chi  fynd at i geisio sicrhau fod eich gwefan yn cyrraedd safle uchel ar Google. Os ydych chi wedi darllen ein blog Google Medic, fe welwch fod Google nawr yn gwerthfawrogi’r hyn a elwir yn “E-A-T”,  sef expertise (arbenigedd), authority (awdurdod) and trust (ac ymddiriedaeth) – a bydd angen i chi wau hyn i’ch marchnata digidol i gael y canlyniadau gorau posibl.

  1. Yr agwedd bwysicaf i ennill gradd E-A-T wych yw creu cynnwys o safon. Ia, yr un hen stori. Hwyrach ein bod yn ailadroddllyd, ond mae’n wir! Mae angen i’ch cynnwys fod o gymorth,yn ddefnyddiol, i’r bwynt, yn ymgysylltu, yn gywir, yn cysylltu â ffynonellau awdurdod a mwy (hynny yw, ystod eang o bethau). Mae’r dyddiau o lenwi’ch tudalennau gwe gyda “geiriau” wedi llwyr fynd; dyddiau yma, mae angen ichi roi pwrpas i’ch ymwelwyr ar eu taith trwy’ch safle. Ceisiwch feddwl amdano fel siop adrannol neu brofiad – rydych am iddyn nhw ail-ymweld a’ch safle dro ar ôl tro – nid troi ffwrdd yn rhwystredig.
  2. Sicrhewch fod gennych dudalen ‘Amdanom’ (About). Weithiau gall hon ymddangos fel tudalen ddibwys, ond mae’n bwysig darparu’r ymddiriedaeth hyn i’ch ymwelwyr. Dyma’r dudalen lle gallwch chi ychwanegu personoliaeth i’ch busnes, arddangos eich cyfeillgarwch, arbenigedd ac awdurdod. Ceisiwch gadw’r dudalen hon yn gyfredol, ei dwieddaru efallai unwaith y flwyddyn, ychwanegu llun, cynnwys dolenni i’ch cyfryngau cymdeithasol busnes a mwy.
  3. Creu cynnwys cyson – ie, eto fyth! Rydym bob amser yn argymell cael tudalennau sefydlog a deinamig ar unrhyw wefan. Hynny yw, eich tudalennau sefydlog yw’r rhai sy’n anaml iawn yn cael eu newid, sylfeini eich gwefan. Mae’r rhai deinameg yn dudalennau sy’n newid yn aml, efallai y caiff gwybodaeth ei diweddaru’n rheolaidd, neu adran blog. Nid yw Google yn hoffi cynnwys dyblyg, ac rydym yn gwybod bod cynnwys yn cael ei gopïo ar draws gwefannau cymdeithasol, apps a mwy. Felly, ail-wampiwch, newidiwch, ysgrifennwch flogiau newydd am yr un pynciau â 2 flynedd yn ôl!
  4. Gwiriwch eich tudalen gyswllt yn aml – faint o fusnesau all gyfaddedd eu bod mewn gwirionedd yn gwirio y gwybodaeth gyswllt ar eu gwefan? Ydy o wedi newid? Oes na fap Google i ddangos eich lleoliad? A all ymwelwyr gysylltu â chi yn hawdd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau? Cadwch y dudalen hon yn ffres ac yn gyfoes, mor ddefnyddiol â phosib. Mae hyn yn arbennig o bwysig  gan bod hi’n ymdebygu fod Google yn blaenoriaethu busnesau lleol dros sefydliadau mwy mewn chwiliadau.
  5. Tystebau – yn ddelfrydol ar Google ei hun, ond fel arall ar Facebook, Trustpilot, Trip Advisor – yn dibynnu ar natur eich busnes wrth gwrs. Cyfeiriwch ymwelwyr eich gwefan at yr adolygiadau hollbwysig yma, annogwch eich cleientiaid i’ch adolygu a bydd hyn yn helpu i brofi i Google, a’ch ymwelwyr y gellir ymddiried ynoch.
  6. Meddyliwch am dudalen Cwestiynau Cyffredin (FAQ) – fydd hyn ddim yn addas i bob busnes, ond i’r rhai hynny y bydd yn addas,mae hon yn dudalen wych  ar gyfer cynnig gwybodaeth  fydd o gymorth, i’r pwynt a defnyddiol i’ch ymwelwyr. Gallwch hyd yn oed annog ymgysylltiad trwy ofyn i ymwelwyr am eu hatebion hwy os nad yw rhai chi ddim cweit yn eu hateb!
  7. Llunio eich gwefan fel bod ymwelwyr yn teimlo’n ddiogel. Mae hyn yn bwysig ond yn medru cael ei anwybyddu – rydych wedi cyflogi rhywun i wneud gwefan i chi neu wedi ei wneud eich hun, rydych chi’n gwybod eich bod yn berson o gig a gwaed go iawn, felly pam na ddylai’r rhyngrwyd ymddiried ynddo chi? Dyma pam mae tudalen ‘Amdanom’ a gwybodaeth gyswllt gyfoes yn hanfodol, yn ogystal â’r Cwestiynau Cyffredinol Ffyrdd eraill o wneud ymwelwyr deimlo’n ddiogel yw: HTTP (darllenwch ein blog ar hyn); sicrhewch eich bod yn cadw at GDPR a bod gennych bolisïau hawdd i’w cyrchu ar gyfer eich ymwelwyr.
  8. Dyma agwedd mawr arall na ellir ei anwybyddu- cyfryngau cymdeithasol! Y dyddiau hyn, mae cyfryngau cymdeithasol yn rhan anatod o redeg busnes, ac os ydych chi’n cael trafferth gwybod lle i ddechrau, rheoli, syniadau cynnwys neu gwestiynau cymdeithasol cyffredinol, yna cysylltwch â ni! Mae eich cyfryngau cymdeithasol yn lle gwych i arddangos eich E-A-T, ac mae hefyd yn hawdd iawn i fod yn gyfeillgar a chymwynasgar – dyna beth yw bod yn gymdeithasol! Rydym wedi ysgrifennu amryw o flogiau am gyfryngau cymdeithasol -edrychwch ar ein tudalen blog.
  9. Gallech bori yn ddyfnach a monitro awdurdodau parth a thudalen eich gwefan. Dysgwch am hyn yn fwy manwl gan Moz, sy’n cyfrifo’r awdurdod parth (allan o 100). Bydd gan wefan neu dudalen newydd safle o 1, bydd y safleoedd neu’r tudalennau hynny sydd yn fwy sefydlog a sydd a gwybodaeth ddefnyddiol yn agosach at 100 (meddyliwch, Wikipedia).
  10. Nawr, dyma rywbeth nad ydym hyd yn hyn wedi bod yn ei wneud ond y byddwn yn weithredu ar ein gwefan yn ystod Medi 2018 – cynnwys bio awdur.Ar hyn o bryd, pan fyddwn yn ysgrifennu blog ar ein gwefan, does neb yn gwybod gan pwy yn ein cwmni y cafodd ei ysgrifennu! Ymddengys, ar draws y we, bod erthyglau a ysgrifennwyd gan awduron sefydledig wedi gweld cynnydd sylweddol mewn safle gyda’r algorithm Google Medic newydd. Felly, cofiwch gynnwys enwau awduron ar y blog, a bywgraffiadau awduron er mwyn ychwanegu at yr  ymddiriedaeth honno.

 

I orffen

Yn aml, mae llawer o gynnwrf pan fydd Google yn ryddhau diweddariad mawr, rydym i gyd wedi gweithio’n galed i geisio taro’r safle arbennig hwnnw ac mae’n boen bod yna fwy fyth o newidiadau. Neu ydy o? Cyn belled ag y gwelwn, mae’r newidiadau  a wneir yn rhai cwbl synhwyrol – mae’r rhyngrwyd yn esblygu, mae cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith a gyda cynnydd enfawr mewn busnesau ar-lein, pam na ddylem ni anelu tuag at E-A-T?

O’n safbwynt ni, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei annog yn gryf  i’n cleientiaid ers nifer o flynyddoedd, yn enwedig o safbwynt cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n wych gweld bod y newidiadau yn algorithm Google yn cadarnhau ein syniadau ni sut dylech farchnata’ch hun yn ddigidol.

Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau!