Mae tueddiad gan rhai pobl i weld marchnata e-bost fel rhywbeth sydd bach yn ‘hen ffasiwn’, yn enwedig gyda’r twf cyson mewn cyfryngau cymdeithasol a platfformau newydd. Ond, serch hynny, mae’n parhau i ddal ei dir, ac yn un o’r strategaethau marchnata digidol cryfaf y gallwch ei gael. Edrychwch arno fel hyn, mae’n ffordd wych i wir gysylltu â’ch cwsmeriaid, i’w diweddaru, i rannu eich cynigion a’ch newyddion diweddaraf a hefyd yn ffordd penigamp o rannu cynnwys unigryw hefyd. Os byddwch yn treulio unrhyw amser yn archwilio brandiau ar-lein, byddwch yn bendant wedi sylwi bod pawb am i chi danysgrifio i’w cylchlythyrau neu restr bostio. A mae hyn i gyd oherwydd bod marchnata e-bost YN gweithio.

Yn yr erthygl yma rwyf am rannu rhai awgrymiadau ardderchog; ond os ydych chi’n hollol newydd i farchnata e-bostio, croeso i chi gysylltu a fe awn drwy y pethau sylfaenol!

Awgrym Ardderchog 1

Gwnewch gynllun!  Ia, fel gydag unrhyw beth a wnewch ar-lein, mae bob amser yn dechrau gyda chynllun gweithredu – ac yn enwedig gyda marchnata e-bost. Pwy yw’r cynulleidfaoedd rydych chi eisiau eu targedu? A fyddwch chi’n rhannu’r rhain yn grwpiau? Efallai eich cleientiaid presennol, pobl sydd wedi cofrestru ond erioed wedi prynu oddi arnoch chi – mae’r opsiynau’n ddiddiwedd. Bydd yr e-byst y byddwch yn eu hanfon yn llawn cynnwys arbennig, felly mae’n syniad cynllunio hynny ymlaen llaw – pa mor aml byddwch chi’n anfon e-byst, a beth fydd pob un yn canolbwyntio arno? Wrth gwrs os mai diweddariad yn unig yw e.e. newyddion cyfryngau cymdeithasol, yna efallai nad yw’r pwnc mor bwysig. Ond bydd cynllun gweithredu yn bendant yn eich helpu.

Awgrym Ardderchog 2

Treuliwch amser ar eich dyluniadau. Os ydych yn dewis defnyddio platfform marchnata e-bost fel MailChimp er enghraifft, gallwch greu templedi e-bost. Byddwn i’n argymell yn fawr treulio amser i sicrhau eich bod yn hapus gyda’ch dyluniad a’ch templed – a yw’n hawdd ei ddarllen, a yw’n ddeniadol.

Awgrym Ardderchog 3

Meddyliwch o ddifri am eich llinell bwnc, a’ch testun rhagolwg (yr hyn fydd i’w weld cyn i rhywun agor eich e-bost). Os yw eich mewnflwch unrhyw beth tebyg i fy un i, byddwch wedi cofrestru â nifer fawr o gylchlythyrau dros amser- ond yn anffodus rhain yw’r rhai sy’n hel yn un talp o e-byst na fyddwch fyth yn eu hagor. Felly, mae angen i chi sicrhau bod eich llinell bwnc a’ch testun rhagolwg yn apelgar, yn fachog, ac yn annog eich tanysgrifiwr i’w agor. Defnyddiwch emojis os ydych chi eisiau!

Awgrym Ardderchog 4

Cofiwch: ysgrifennu ar gyfer y we. Ie, mi wn mai e-bost yw e, ond dydy hynny ddim yn golygu traethawd neu lythyr. Cadwch mewn cof bydd eich tanysgrifwyr yn darllen ar eu sgriniau, a bydd yn cael ei drin yn debyg iawn i gynnwys gwefannau. Cadwch eich brawddegau’n fyr, cadwch at un pwnc fesul paragraff a dilyn strwythur rhesymegol. Os nad ydych chi’n hyderus yn ysgrifennu ar gyfer y we / eich e-byst newydd, beth am anfon y cynnwys at deulu a ffrindiau yn gyntaf i ofyn eu barn?

Awgrym Arbennig 5

Dyma awgrym mawr – defnyddiwch seicoleg e-bost i helpu i feddu y canlyniadau rydych chi eu heisiau! Rydyn ni fodau dynol yn eithaf rhagweladwy yn y ffordd rydyn ni’n ymateb i bethau,. Mae pethau fel lliw botymau, galwad i weithredoedd, lluniau sy’n cael eu defnyddio, tystebau, personoli – y cyfan yn gymorth i ganfod y canlyniadau hynny. Er enghraifft, llun cynhyrfus o berson gyda’u eitemau newydd, gyda rhai tystebau – dyma ffordd wych o greu’r emosiwn ‘ofn colli allan’!

Mae marchnata e-bost yn bwnc enfawr, a dwi ond wedi ymdrin â 5 awgrym arbennig yma yn fy erthygl y mis hwn. Mae llawer o adnoddau ychwanegol ar gael ar-lein, a byddwn yn bendant yn argymell chwilio a darllen o amgylch y pwnc i wir roi hwb i’ch strategaeth farchnata e-bost.