Mae’r flwyddyn newydd yn amser gwych i werthuso eich presenoldeb ar-lein a rhoi mwy o egni i’ch marchnata ar-lein. Efallai bod gennych wefan, ond nid yw’n cynhyrchu unrhyw werthiant i chi? Neu efallai i chi dreulio llawer o’ch amser yn postio ar eich proffil Instagram ond nid yw’n trosi? A yw eich brand hyd yn oed yn adnabyddadwy?

Y gwir yw, os ydych yn rhedeg busnes y dyddiau hyn ac yn dibynnu ar bresenoldeb ar-lein, mae’n becyn cyfan, nid darnau bach yma ac acw. I wir sefyll allan o’r dorf, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r holl elfennau, yr holl amrywiol ddarnau hynny i greu’r pecyn cyfan.

Beth yw’r pecyn cyfan?

  • Eich busnes a’ch brand
  • Eich gwefan
  • Eich cyfryngau cymdeithasol / marchnata digidol

Eich brand

Mae hyn yn gymaint mwy na logo yn unig – dyma “yw” eich busnes. Mae cael brand cryf yn helpu i gael adnabyddiaeth ar-lein, mae hefyd yn helpu gyda theyrngarwch cwsmeriaid, yn ogystal â gwneud i’ch busnes ymddangos yn broffesiynol ac yn ddibynadwy. Eich brand yw eich logo, y ffontiau rydych chi’n dewis eu defnyddio ar draws eich holl farchnata, y lliwiau rydych chi’n eu defnyddio, y mathau o ffotograffiaeth, iaith a thôn y llais rydych chi’n ei ddefnyddio – gan greu brand adnabyddadwy, sydd â neges gref a hyderus.

Eich gwefan

Bydd cleientiaid yn aml yn gofyn i mi os oes angen gwefan arnyn nhw – fel arfer fy ateb yw oes. Dyw cael gwefan ddim yn golygu gwario llawer o arian, mae cymaint o ffyrdd gwahanol i wneud hyn nawr. Yn gyntaf, oes angen gwefan gyda mwy nag un dudalen arnoch? Neu a fydd gwefan llyfryn yn ddigon? Mae hon yn ffordd gost-effeithiol iawn o gael gwefan i’ch busnes, cyn belled â bod un dudalen yn ddigon. Medrwch adeiladu’ch opsiynau ’ch hun, a gallwch hefyd adeiladu eich opsiynau eich hun gyda chwmnïau fel ni, y gallwch hefyd ddibynnu arnynt am gefnogaeth.

Y rheswm dwi wastad yn awgrymu fod angen gwefan arnoch, yw – drwy gael gwefan rydych chi’n ychwanegu haen gredadwy iawn o broffesiynoldeb i’ch busnes – rydych chi wedi gwneud yr ymdrech hon i fuddsoddi mewn gwefan, waeth pa mor fach, i brofi i’ch cwsmeriaid eich bod yn ddilys. Yn dibynnu ar eich busnes, rwy’n aml yn argymell defnyddio blog hefyd – mae hyn yn ffordd wych o hysbysu cwsmeriaid o’ch newyddion ac datblygiadau diweddaraf, neu i’w haddysgu am eich busnes. Mae cynnwys yn frenin wedi’r cyfan, felly, po fwyaf y cynnwys o ansawdd a defnyddiol sydd gennych i’w gynnig, gorau oll. Mae gwneud hyn ar eich gwefan yn wych.

Gan ei bod yn flwyddyn newydd, teimlaf y galla i ddweud hyn – dydy eich gwefan ddim yn fater o ruthro i’w chael yn fyw ac yna anghofio amdani. Mae eich gwefan, fel unrhyw beth arall yn eich busnes, angen ei meithrin a’i mwytho. Mae angen i chi ystyried unrhyw ddiweddariadau y bydd eu hangen arni, pa mor aml ddylech chi flogio, beth am optimeiddio’r peiriant chwilio? Rhowch amser o’r neilltu i feithrin eich gwefan, a bydd yn talu ar ei ganfed.

Eich cyfryngau cymdeithasol

Y rhan olaf i mi o ran pecyn cyfan o bresenoldeb ar-lein yw’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol. Gyda brand cryf a’ch gwefan i’w hyrwyddo, mae nawr yn amser troi at y cyfryngau cymdeithasol. Mae angen ystyried ambell beth yma:

  • Pa blatfform fydd orau i chi?
  • Pwy ydych chi’n ei dargedu?
  • Beth yw eich nodau – pam rydych chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

Bydd y tri chwestiwn hyn yn gymorth i chi i lunio’r hyn y byddwch yn postio amdano (eich strategaeth gynnwys), pwy fyddwch chi’n targedu (eich cynulleidfa) ac ar ba blatfform(au) y byddwch chi arno(ynt). Byddaf bob amser yn argymell eich bod yn nodi’ch nodau, fel y gallwch sicrhau nad ydych yn gwyro oddi wrthynt (ac i’ch helpu gyda syniadau cynnwys hefyd). Gwnewch ymchwil i’r gwahanol blatfformau hefyd – mae pob un yn wahanol ac yn gweithio’n wahanol o ran yr hyn y bydd yn ddisgwyliedig gan eich cynulleidfa, pa mor aml rydych chi’n postio, sut i bostio a mwy.

Casgliad

Pa mor hyderus ydych chi am eich presenoldeb ar-lein? Allai fod yn well? Ydych chi’n gwybod ble i ddechrau arni?

Os dysgodd 2020 unrhyw beth i ni, fe ddysgo ni y gallwn gyflawni llawer yn ddigidol, ac fe drodd llawer o fusnesau yn gyflym at y byd digidol – gwych! Ond mae hyn yn gwneud y gwaith o sefyll allan ychydig yn anoddach. Talwch olwg ar y tair elfen yma: eich brand, eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol. Ydyn nhw’n cael eu optimeiddio ac yn gweithio cystal ag y gallan nhw? Neu oes angen tipyn o feithrin a mwytho arnyn nhw, efallai fod angen gwneud amser i gynllunio sut y gallwch eu gwella a phryd.

Nawr yw’r amser! Gadewch i ni ddangos 2021 yr hyn sydd bosib!