Bydd dylunwyr gwe yn aml yn siarad am ‘SEO’, neu optimeiddio peiriannau chwilio sydd yn ei hanfod yn rhoi’r cyfle gorau i’ch gwefan ymddangos yn uwch yng nghanlyniadau’r peiriant chwilio. Rhan enfawr o hynny yw SEO Lleol. Mae SEO lleol yn strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio sy’n helpu eich busnes i fod yn fwy gweladwy mewn chwiliadau lleol ar Google.

Bydd unrhyw fusnes sydd â lleoliad corfforol, neu sy’n gwasanaethu ardal benodol yn elwa o weithio ar eu SEO lleol. Pam? Os byddwch yn chwilio ar Google, er enghraifft am “dylunydd gwefan Aberystwyth“, byddwch yn sylwi y bydd map yn ymddangos gyda 3 busnes/cwmni wedi rhestru oddi tano – canlyniadau lleol yw’r rhain, lle mae Google wedi defnyddio’ch lleoliad i ddangos y canlyniadau ‘agosaf’ i chi. Mae’r rhestrau fydd yn cael eu dangos yma, fel arfer yn rhai sydd wedi gweithio ar eu SEO, yn enwedig SEO lleol, yn dda.

Sut mae Google yn graddio canlyniadau chwilio?

Mae Google yn defnyddio amrywiaeth enfawr o newidynnau i raddio’r miliynau o wefannau sydd ar y we, ac yn defnyddio llawer o brosesau gwahanol i wneud hyn – gelwir y rhain yn algorithmau. Felly, pan fyddwch chi’n chwilio ar Google, mae algorithm yn gwirio’r mynegai ac yn dychwelyd rhestr gyfan o ganlyniadau sy’n cyfateb i’ch chwiliad. Caiff y canlyniadau hyn eu dewis a’u rhestru yn seiliedig ar y newidynnau hynny, sy’n cynnwys perthnasedd, amlygrwydd a hefyd poblogrwydd.

Sut mae’r algorithmau’n gweithio?

Petaswn i ond yn gwybod! Mae’r gwir algorithmau yn hollol gyfrinachol- hyd yn oed o fewn Google, ni wŷr un adran beth mae un arall yn ei wneud. Fel marchnatwyr digidol, mae gennym syniad da o’r hyn y mae’r algorithmau’n ei wneud, ond maent yn aml yn addasu ac yn newid, felly mae’n ‘gêm’ sy’n esblygu’n barhaus.

Yr hyn a wyddom yw bod algorithmau’n edrych ar wahanol ffactorau ar y safle ac oddi ar y safle i raddio eich gwefan, ac yna’n graddio’r rhain yn ôl perthnasedd yn gyntaf ac yna amlygrwydd. Gyda hyn mewn golwg, bydd gwella eich SEO yn dylanwadu ar berthnasedd eich gwefan, a’r amlygrwydd.

Nodyn: Mae SEO yn rhan enfawr o gael gwefan – nid wyf ond wedi cyffwrdd ar agwedd benodol iawn ohono, mae llawer mwy iddo! Mae agweddau pwysig eraill yn cynnwys cyflymder y safle, diogelwch, cynnwys o ansawdd, llywio a mwy.

Dewch i ni edrych ar SEO Lleol

Yn ôl “ahrefsblog”, mae 46% o holl chwiliadau Google yn rhai lleol –  sef bron hanner yr holl chwiliadau a wneir ar y chwilotwr. H.y. mae agwedd ‘leol’  i bron hanner y chwiliadau a wneir ar Google– pan fydd pobl yn chwilio am rywbeth, maent yn chwilio am rywbeth ‘lleol’, fel dylunydd gwe lleol yn ein hesiampl uchod.

Mae SEO lleol yn ystyried eich ‘agosrwydd’, sef eich lleoliad, pan fyddwch yn chwilio am allweddair lleol (e.e. caffi figan yn Aberystwyth). Os yw eich ‘lleoliad’ (location) ymlaen, ni fydd angen i chi hyd yn oed ychwanegu’r lleoliad yn y chwiliad gan bydd Google yn adnabod hyn ac yn tybio eich bod am weld y canlyniadau ar gyfer eich ardal leol yn gyntaf.

Sut i wella eich SEO Lleol

Yn gyntaf – rhaid i chi hawlio eich rhestr Google My Business – dyma’r elfen bwysicaf o wella eich SEO lleol. Os nad ydych chi’n siŵr beth yw Google My Business, yna cymrwch olwg ar EGO Gorffennaf 2020 lle roeddwn yn ei drafod!

Yn ail, ymchwil allweddair. Mae hyn yn hynod bwysig, a’r hyn rydych chi am ei wneud yn y bôn yw achub y blaen ar gwestiynau eich cwsmeriaid. Er enghraifft, chi yw Caffi Figan Tollgate yn Aberystwyth, dyma rai cwestiynau y gallai eich darpar gwsmeriaid fod yn chwilio amdanynt yn Google:

  • Caffi figan yn agos ata i
  • Caffi Tollgate
  • Caffi figan Tollgate
  • Faint o’r gloch mae’r Tollgate yn cau
  • Faint o’r gloch mae’r Tollgate yn agor
  • Rhif ffôn y Tollgate
  • Caffi figan yn Aberystwyth
  • Caffi figan yng Ngheredigion
  • Bwyd figan Aberystwyth

Ac yn y blaen – trafodwch syniadau am yr allweddeiriau a’r ymadroddion hyn, ac yna gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn cael ei optimeiddio ar eu cyfer. Un awgrym yw dechrau teipio eich allweddeiriau/ ymadroddion i mewn i Google a gweld pa ‘awgrymiadau’ sy’n dod o hynny! Er enghraifft, dechreuwch deipio mewn “dylunio gwe” a bydd Google yn awtolanw rhai awgrymiadau yn seiliedig ar y chwiliadau ‘uchaf’.

Yn olaf (am heddiw), dylech edrych ar eich enwebiadau lleol fel ffordd o helpu i wella eich SEO lleol. Beth yw Enwebiadau Lleol? Yn y bôn, dyma unrhyw ddolenni ar y we sy’n cysylltu’n ôl â’ch gwefan. Y gwir yw, mae enwebiadau yn un o’r ffactorau graddio lleol gorau, ac mae’n bwysig iawn sicrhau bod y wybodaeth a grybwyllir amdanoch ar-lein yn gyson (yn enwedig enw busnes, cyfeiriad, rhif ffôn). Os ydych wedi symud lleoliad neu os oes gennych rif ffôn newydd, treuliwch ychydig o amser yn olrhain holl gyfeiriadau eich safle ar-lein a sicrhau bod pob rhestriad yn gyfredol – fel arall, gall fod yn niweidiol. Yn ogystal a hynny, gweithiwch ar adeiladu enwebiadau mwy perthnasol hefyd – a allwch ofyn am gael eich rhestru ar y safle twristiaeth lleol er enghraifft.

Casgliadau

Mae SEO yn agwedd hynod bwysig o’ch gwefan – ni ellir fyth lansio safle newydd ac yna ei anwybyddu am flynyddoedd. Mae’n rhaid i chi ei feithrin, i roi’r cyfle gorau i’r wefan, a chi gael eich graddio yn uwch ar restrau Google. Os ydych chi’n fusnes sydd â lleoliad corfforol neu’n gwasanaethu ardal benodol, yna mae SEO Lleol yn lle gwych i ganolbwyntio arno ar y cychwyn!