Optimeiddio’ch Peiriant Chwilio/Search Engine Optimisation neu SEO yw’r broses trwy y gellir wella gwelededd gwefan neu dudalen we mewn canlyniadau chwilio organig. Yn syml, y gorau eich SEO, yr uwch eich safle ar beiriannau chwilio, ac orherwydd byddwch yn cael fwy o draffig i’ch gwefan.
Iawn, felly sut allaf wella fy SEO?
Rydym yn ymwybodol o rai hanfodion SEO, ond y gwir yw, os ydych chi’n edrych ar Google fel peiriant chwilio – does neb yn gwybod yn union beth mae nhw ei eisiau. Mae Google yn newid eu algorithmau yn aml, fel na all gwefannau, cwmniau, busnesau ac ati osod eu gwefan i gyd-fynd â’r rheolau.
Yn y gorffennol pan oedd Google a pheiriannau chwilio eraill yn dibynnu ar allweddeiriau, er enghraifft, byddech chi’n darganfod gwefannau oedd yn frith ohonynt – wedi eu cuddio’r un lliw â’r wefan, yn y troednod, tudalennau wedi llenwi a’r un geiriau neu ymadroddion. Y syniad oedd, yr amlaf y byddai’r allweddair neu’r ymadrodd yn ymddangos, yr uchaf fyddai safle’r wefan ar y peiriant chwilio. Heddiw, adnabyddir tactegau a strategaethau sy’n ceisio canolbwyntio’n unig ar beiriannau chwilio ac anwybyddu cynulleidfa “ddynol” gwefannau fel tactegau Black Hat SEO. Dyna pam mae Google a pheiriannau chwilio eraill yn newid eu algorithmau mor aml.
Be wyddom ni?
Dengys y canlyniadau isod o arolwg datblygwyr gwe diweddar (2015) pa mor bwysig all rhai agweddau o’ch presenoldeb ar-lein fod, a’u heffaith ar SEO:
- Roedd 23% yn credu fod ymddiriedolaeth/ awdurdod y parth gwesteia yn bwysig
- 22% yn credu fod poblogrwydd cysylltiadau tudalen benodol yn bwysig.
- 20% yn credu fod testun angori dolenni allanol i’r dudalen yn bwysig
- 15% yn seiliedig ar y defnydd o eiriau allweddol ar dudalen
- 6% ar gofrestru a cynnal/gwesteia data
- 6% ar draffig a data CTR
- 5% ar fetrigau graff cymdeithasol
Yr hyn a wyddom yw bod Google yn gwthio’r gynulleidfa ddynol ac agwedd gymdeithasol gwefannau a SEO. Mae Google am ddarparu cynnwys defnyddiol, llawn gwybodaeth i’w defnyddwyr, mae’n dymuno gwybod mai chi yw’r awdurdod yn eich maes ac felly mae’n gyson yn edrych i weld beth mae eraill yn ei ddweud amdanoch chi.