Byddwch yn Fwy’ch Hun (Be More You) yw ein harwyddair ar gyfer 2019, ond beth a olygir wrth hyn? Mae’n ymwneud â sicrhau fod eich brand yn ddilys, pwnc a grybwyllwyd gennym  eisoes nifer o weithiau yn 2018. Rhywbeth yr ydym yn teimlo’n fwyfwy angerddol amdano – yn enwedig tra’n gweithio gydag ystod o fusnesau a sefydliadau bach ledled Cymru.

Mewn byd lle rydyn ni’n boddi mewn busnesau o bob sector, gall fod yn anodd sefyll allan o’r dorf. Rydym yn gyson yn meddwl am ffyrdd newydd ac arloesol o farchnata ein hunain, i  achub y blaen ar ein cystadleuwyr. Wrth gwrs, gall hyn fod ychydig yn haws gyda marchnata digidol. Os yw’ch cystadleuwyr yn  defnyddio dulliau hen ffasiwn o farchnata, gallwch chi ddefnyddio ffyrdd mwy cyfoes er mwyn tynnu sylw atoch. Er, nid yw marchnata pob amser yn ymwneud  â’r byd ddigidol  – mae gennych hefyd y dulliau marchnata traddodiadol, rhwydweithio, mynychu digwyddiadau a sioeau ac yn y blaen.

Bydd eich brand yn dod i’r amlwg pan fydd yr holl farchnata hyn yn digwydd – mewn  blynyddoedd blaenorol efallai roeddech yn ymdrechu i gynhyrchu brandiau glân, modern a chyson – gyda logos, ffontiau a lliwiau. Ond mae eich personoliaeth brand (brand personality) yr un mor bwysig, os nad yn fwy felly o ran marchnata yn y dulliau a grybwyllir uchod. Ers nifer o flynyddoedd bellach rydyn ni wedi trafod bod yn berson go-iawn ar-lein (o ran eich cyfryngau cymdeithasol) – bod yn fwy dilys ac yn dangos i’ch dilynwyr neu ddarpar gwsmeriaid eich bod chi’n real, nad ydych yn cuddio y tu ôl i frand.

Sut mae bod yn Fwy’ch hun?

  1. Anghofiwch am werthu bob cyfle gewch- dangoswch i’ch dilynwyr a’ch darpar gwsmeriaid eich bod yn normal! Rhannwch stori’ch diwrnod, eich teithiau (os oes eu hangen ar gyfer y gwaith), dathliadau pen-blwydd yn y swyddfa. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran cyfryngau cymdeithasol, ond gallwch hefyd ddilyn y ddelfryd hwn tra’n marchnata’n bersonol, trwy rwydweithio a digwyddiadau. Mae’n debyg eich bod chi eisoes yn rhannu y rhan fwyaf o’r hyn y gallech chi ei rannu! Os ydych chi’n fusnes teuluol, rhannwch luniau neu funudau gyda’r teulu efallai. Mae’n dangos y person  tu ôl i’r busnes.
  2. Byddwch yn agored ac yn dryloyw – yn fwy nag erioed mae hyn yn golygu bod yn agored am eich busnes. Gwahoddwch bobl mewn, er enghraifft gallwch ddangos sut rydych chi’n gwneud eich cynnyrch (gallech chi wneud fideo cŵl ar gyfer cyfryngau cymdeithasol neu’ch gwefan). Nid yw hyn yn golygu traethu’n hirfaith os yw cwsmer yn eich gwylltio, ond bod yn fwy agored a phobl am eich busnes. Meddyliwch bob amser am “fod yn fwy’ch hun”.

Mae gennym lawer o awgrymiadau a syniadau eraill sut i “fod yn fwy’ch hun” gyda’ch brandio a’ch busnes, a byddwn yn cynnal gweithdai yn ystod 2019 (mwy o wybodaeth drwy gysylltu â ni) fydd yn canolbwyntio ar frandio a marchnata chyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig  cofio fod angen sefydlu sut rydych yn cyfleu’ch brand ar hyn o bryd,  ydy’o yn  ddilys, yn onest ac yn ddiffuant?