Nid dylunio gwefannau yn unig a wnawn yma! Ers dechrau 2019 rydym wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn hysbysebu ein gwasanaethau creu cynnwys – ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, blogio a chopi yn gyffredinol. Rydym eisioes wedi gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid i ddarparu cynnwys ar gyfer eu marchnata ar-lein ac all-lein, gan gynnwys Redfern Property Management, Ysgol Yrru Aberystwyth, Menter Aberystwyth a Meee.

Gall cael cwmni i’ch helpu i ysgrifennu cynnwys ar gyfer eich busnes fod yn rhywbeth personol iawn a byddem bob amser yn argymell eich bod yn trin a thrafod yn drylwyr ymlaen llaw i wneud yn siŵr eich bod yn deall eich gilydd yn iawn! Mae’r un peth yn wir  ffordd arall rownd hefyd, ac os nad ydym yn credu y  gallwn fod o  help mawr i chi, yna byddwn yn onest ac yn dweud wrthych. Mae’n well gennym ni ein bod yn medru cynnig cyngor yn  ôl y galw nac ymdrechu i ysgrifennu cynnwys i chi.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid i helpu rheoli eu platfform cyfryngau cymdeithasol yn  drylwyr – mae hyn yn golygu ein bod yn creu ac yn trefnu pyst ar draws Facebook, Twitter ac Instagram, yn ogystal â rheoli hysbysebion pan fo cyllidebau’n caniatáu. Rydym hefyd wedi bod yn bwrw ati i ysgrifennu erthyglau a cholofnau ar gyfer ein cleientiaid lleol sy’n hysbysebu yn EGO Aberystwyth (ym mis Awst, mae ynddo bedair erthygl wedi’u hysgrifennu gan y swyddfa hon!), yn ogystal â chynllunio cynnwys ar gyfer taflenni ac ymgyrchoedd posteri.

Os oes angen help llaw arnoch i greu cynnwys – boed hynny ar gyfer blogio, cyfryngau cymdeithasol neu gynnwys gwefan-  cysylltwch a ni!