Ddydd Mercher, 30ain o Ionawr, fe wnaethon ni dreulio’r bore, ynghyd â Cowshed a Dewi Fon Photography, yn  ffilmio darn astudiaeth achos ar gyfer ymgyrch Cymraeg mewn Busnes. Roedd hi’n fore gwych, gyda Emlyn a Kerry yn ateb cwestiynau am bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg mewn busnes, yn ogystal â siarad â’u cwsmeriaid yn Aberystwyth hefyd.

Nod yr astudiaethau achos hyn ledled Cymru yw hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnes, nid yn unig yn gyffredinol ond gyda’r Swyddogion Cymorth sydd ar gael ledled Cymru. Yn anffodus, nid yw llawer o fusnesau’n ymwybodol bod cymaint o gymorth ar gael – a gall fod yn eithaf brawychus i ddechrau cyflwyno’r iaith i’ch busnes os nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen. Yma yn Gwe Cambrian Web, rydym yn rhedeg ein busnes yn ddwyieithog, gan gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â chreu ymgyrchoedd marchnata digidol a gwefannau yn y ddwy iaith.

Roeddem wrth ein bodd pan ddewisodd Cymraeg Byd Busnes ni  i fod yn astudiaeth achos, ac  edrychwn mlaen i fod yn rhan o’r ymgyrch wych hon.

Ewch i’w gwefan i gael gwybod mwy.