Yn ddiweddar, rhyddhaodd Instagram newyddion am eu diweddariad diweddaraf, sef cyhoeddi eu bod yn gwneud y symudiad o fod yn blatfform sy’n canolbwyntio ar ddelweddau ac am ymgorffori mwy o fideo.

Bu tipyn o gynnwrf am hyn ar-lein, sut fyddai pobl yn newid eu strategaethau? Sut byddai modd i fusnesau wneud y symudiad cyflym yma i fideo?

Y gwir yw, serch hynny, bod fideo wedi bodoli (ac yn rhan o blatfformau fel Instagram) ers amser hir iawn. Mae’r sôn am gynnwys mwy o fideo wedi bod yn boblogaidd yn y cynadleddau marchnata digidol ers o leiaf 2018; ac ymddengys bod newid sylweddol wedi bod at ddefnyddio fideo yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio eu cynnwys yn ystod cyfnodau clo 2020.

O ran y cyfryngau cymdeithasol, gwyddom fod pobl yn defnyddio’r cynnwys mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae gennym Bostiadau, Storïau, sioeau sleidiau, edefynnau, fideos byw, Reels… mae cymaint o ffyrdd y gallwch gyhoeddi eich cynnwys nawr ar draws llawer o blatfformau. Mae fideo wedi bod yn rhan o’r platfformau hynny ers amser maith, ond dim ond yn ddiweddar iawn y daeth yn rhan o strategaethau marchnata digidol.

Ond does dim angen cynhyrfu pan fydd Instagram yn dweud eu bod yn newid eu ffocws, oherwydd bydd y platfform yn aros yr un fath – ond bod gennych chi fwy o nodweddion i’w defnyddio ac i hyrwyddo’ch hun. Y gwir yw, mae Instagram yn debygol o roi hwb i’ch cyrhaeddiad ar blatfformau penodol, yn enwedig Reels ar hyn o bryd, felly os gallwch chi, meddyliwch am ychwanegu fideo i’ch strategaeth!

Gyda chymaint o opsiynau, sut ydych chi’n penderfynu beth i’w gynnwys yn eich strategaeth, a ymhle?

Yr unig ffordd o ddarganfod be sy’n gweithio i chi mewn gwirionedd yw arbrofi. Arbrofwch er mwyn gweld os yw gwneud fideos yn gweithio i’ch cynulleidfa ai peidio – ond cofiwch, rhowch gynnig arni am ychydig wythnosau gan na fydd fideo untro yn rhoi canlyniadau dibynadwy i chi. Dylech hefyd benderfynu beth fydd mesur y llwyddiant hwnnw cyn dechrau – ai mwy o gyrhaeddiad? Mwy o ymgysylltu? Mwy o werthiannau? Fel hyn byddwch yn gallu gweld ar ôl ychydig wythnosau os yw cynnwys fideo yn gweithio fel yr oeddech wedi gobeithio.

Efallai bod arbrofi yn swnio’n ddiflas, ond wedi’i wneud fy hun ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol ein hunain – rwy’n gwybod bod Reels yn gweithio’n dda, a gwell fyth os ydych yn cynnwys eich hun yn y fideo. Mae’n offeryn gwych ar gyfer mwy o gyrhaeddiad, a gwn fod IGTV yn gweithio’n dda ar gyfer ymgysylltu a hefyd yn ychwanegu elfen wych o hygrededd i’n proffiliau. Mae fideo yn rhan fawr o’n strategaeth ar hyn o bryd, ac nid wyf yn gweld diwedd arno yn fuan.

Awgrymiadau da ar gyfer ffilmio eich fideo

  • Os nad ydych chi’n gyfforddus yn mynd yn fyw, yna rhag-recordiwch ymlaen llaw a rhoi hynny i fyny. Mae hyn yn rhoi amser i chi ymlacio, gallwch ei ddileu, neu ddechrau eto.
  • Edrychwch ar y camera, nid ar y sgrin – mae cadw’r cyswllt llygad hwnnw yn ffordd wych o feithrin perthynas a gwneud i’ch cynulleidfa deimlo’n gysylltiedig â chi
  • Siaradwch yn araf – mae mor hawdd rhuthro trwy’r darn ar garlam, rydym ni i gyd yn euog o hyn, pob un ohonom. Smaliwch mai person rydych yn sgwrsio a hwy yw’ch ffôn a siaradwch yn hamddenol braf.
  • Mae goleuo’n bwysig, ceisiwch le golau heb unrhyw annibendod y tu ôl i chi ar gyfer y fideo, ac os na allwch reoli hynny (mae ein swyddfa ni yn llawn cysgodion), gellir prynu goleuadau cylch (ring lights) gwych neu oleuadau lluniau (photo lights) yn weddol rhad.
  • Os ydych chi’n mynd yn ‘Fyw’, cofiwch lawrlwytho copi o’ch fideo hefyd, fel y gallwch ail bwrpasu’r cynnwys, neu jyst rhag ofn i rywbeth fynd o’i le tra’n uwchlwytho!
  • Cadwch eich ffôn yn llonydd drwy ddefnyddio tripod neu ei osod yn erbyn rhywbeth cadarn. Gall gormod o symud wrth ffilmio, waeth pa mor anfwriadol, darfu ar draws a thynnu sylw.