Mae pawb yn siarad amdano – ac maen nhw wedi bod ers amser. Efallai eich bod chi nawr yn teimlo fod yna fwy o bwysau ‘a ddylech chi fod ar TikTok’? Wel, gadewch i ni edrych.

Beth yw TikTok?

App y cyfryngau cymdeithasol sy’n seiliedig ar fideo. Er iddo ennill poblogrwydd aruthrol yn ystod cyfnod Covid, nid ‘dawnsio’ a ‘chysoni gwefusau’ yn unig ydyw – a dyna pam ei fod yn derbyn diddordeb o ran brandiau.

Rydyn ni i gyd yn gwybod fod fideo yn gyfrwng poblogaidd iawn i ddefnyddwyr wylio- rydyn ni wedi bod yn siarad am hynny ers cwpl o flynyddoedd bellach, a thwf TikTok (ac mae’n debyg y gallech chi hefyd ddweud twf Instagram Reels), yn dangos nad yw fideo yn bendant yn mynd i ffwrdd.

A yw’n dda i frandiau?

Yn sicr.

Y budd gyda fideo yw, mae’n golygu ein bod ni’n ticio llawer o flychau cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni’n dweud drwy’r amser mai cyfryngau cymdeithasol yw’r cyfle i ddangos eich personoliaeth, galluogi i ddefnyddwyr ddod i’ch adnabod chi, hyrwyddo’ch ethos a’ch rhesymeg. Mae fideo yn gwneud hynny gymaint yn haws – nid oes ffordd well o gysylltu â’ch cynulleidfa na thrwy fideo. Mae defnyddwyr yn eich gweld, yn eich clywed, yn dod i’ch adnabod yn isymwybodol.

Felly oherwydd hyn, mae TikTok yn dda i frandiau. Y cwestiwn go iawn yw, sut allwch chi ei gynnwys yn eich strategaeth farchnata, ac a ddylech chi?

A ddylech chi ddefnyddio TikTok?

Rwy’n wirioneddol angerddol am sicrhau ein bod yn realistig gyda’n hamseroedd pan fyddwn yn marchnata ein busnesau ein hunain. Mae’n hawdd teimlo bod angen i ni fod ar bob platfform oherwydd bod ein ffrindiau mewn busnes, neu ein cystadleuaeth.

Stopiwch!

Dydych chi ddim yn gwybod beth yw sefyllfa’r busnesau eraill hynny – a oes ganddyn nhw staff? A oes ganddynt gynorthwyydd digidol ac a ydynt yn rhoi gwaith ar gontract allanol? Ydyn nhw’n dawel felly yn cael mwy o amser ar gyfer eu marchnata eu hunain?

Peidiwch â chymharu eich hun. Mae’n bwysicach o lawer i sicrhau eich bod chi’n teimlo mai TikTok yw’r platfform cywir i chi, a bod gennych chi’r amser ar ei gyfer.

Felly, gofynnwch y cwestiynau hyn i chi’ch hun:

  • Ydych chi gyda’r un cynulleidfa a sy’n defnyddio TikTok?
  • A all defnyddio TikTok eich helpu i gyrraedd eich nodau marchnata, a’ch nodau busnes?
  • A yw’r math o gynnwys rydych chi’n eu rhannu (ar gyfer eich cynulleidfa), yn addas ar ffurf fideo / ar gyfer TikTok?

Os ia yw’r ateb, yna gallwch edrych ar eich strategaeth farchnata a gweld sut y bydd yn ffitio i fewn.

Cofiwch ei bod bob amser yn well gwneud 1 neu 2 lwyfan yn dda, na gor weithio eich hunan ar ormod o lwyfannau. Fodd bynnag, gallwch chi bob amser gymryd cam yn ôl a dweud “ydych chi’n gwybod beth, nid yw Twitter yn gweithio i mi fel yr oedd”. Byddwch yn barod i esblygu’ch marchnata yn dibynnu ar eich nodau eich hun, a’ch cynulleidfa.

Ystadegau TikTok (DU)

Efallai y bydd yr ystadegau hyn yn eich helpu i benderfynu a yw TikTok ar eich cyfer chi:

  • Mae’r defnyddiwr cyffredin yn agor TikTok 19 gwaith y dydd
  • Mae pobl ifanc o dan 18 oed yn treulio 75 munud y dydd ar gyfartaledd ar yr ap
  • Mae 22% o ddefnyddwyr yn 20-29 oed
  • Mae 21% o ddefnyddwyr yn 30-39 oed
  • Mae 20% o ddefnyddwyr yn 40-49 oed
  • Mae 61% o ddefnyddwyr yn fenywod (ystadegau UDA ond mae’n debygol y byddant yn adlewyrchu yn y DU)

Ydych chi’n defnyddio Reels beth bynnag?

Peth arall rwy’n angerddol amdano yw ailddefnyddio cynnwys – ail-bwrpasu cynnwys mewn mannau eraill. Os ydych chi eisoes ar Instagram ac yn creu “Reels”, fe allech chi ystyried creu’r Riliau hynny mewn app megis InShot, ac yna eu huwchlwytho i TikTok. Dau aderyn, un garreg – cadwch y gynulleidfa mewn cof a newid y capsiynau (a phostio ar adegau gwahanol!).

Casgliad

Yn fyr, mae TikTok yn bendant yn lle i fusnesau a brandiau. A’i droi ar ei ben, mae’n fwy o gwestiwn o allwch chi ei ffitio i mewn i’ch strategaeth farchnata, a yw’n gynaliadwy i chi, ac ai dyma’r lle iawn i chi?

Byddaf yn postio mwy am TikTok dros yr wythnosau nesaf yma ac ar ein nosweithiau cymdeithasol – galwch yn ôl!