Neithiwr, cyhoeddodd Digital Women eu rhestr fer ar gyfer Gwobrau Merched Digidol 2021, a’u rhestr o’r 40 menyw ddigidol gorau i’w gwylio yn 2021 – ac rydym wrth ein bodd fod Kerry wedi chynnwys y rhestr honno eleni! Cyflawniad gwych, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o restr mor glodwiw.

Yn ogystal â hynny, mae Kerry hefyd ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr arall, Model Rôl y Flwyddyn ac Entrepreneur y Flwyddyn. Wrth nesáu at y gwobrwyo, rydym i gyd yn croesi bysedd y bydd hefyd yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb!

Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ar y rhestr wobrwyo ac a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni. Camp wych gan bawb, ac i’r rhai na lwyddodd eleni, nas digalonnwch -dyfal donc a dyr y garreg! Profiad Kerry ei hun o weithio o fewn digidol yw bod merched yn eithriadol o dda am gefnogi ei gilydd a heb y gefnogaeth a’r ysbrydoliaeth gan lawer dros y 12 mis diwethaf, d’yw hi ddim yn credu y byddai’r anrhydedd yma wedi bod yn bosib!

Am restr lawn o’r gwobrau a’r holl ferched anhygoel sydd ar y rhestr fer, ewch i’r ddolen hon.