Beth yw e? A sut y gellir ei ddefnyddio?

Oherwydd bod technoleg yn newid yn barhaus, ymddengys nad yw nifer fawr ohonom yn rhy siŵr beth yn union a olygir gan marchnata digidol, a sut y gallwch ei ddefnyddio’n effeithlon er budd twf eich busnes. Yma byddwn yn diffinio marchnata digidol; rhoi enghreifftiau o beth yw marchnata digidol; ac esbonio manteision ac anfanteision marchnata digidol.


Beth yw Marchnata Digidol?

Marchnata Digidol yw hyrwyddo cynhyrchion a/neu wasanaethau drwy ddyfeisiau digidol fel cyfrifiaduron a ffonau. Mae hyn yn golygu bod unrhyw un sydd â mynediad i gyfrifiadur neu ffôn clyfar wedi profi rhyw fath o farchnata digidol.

Mae enghreifftiau o Farchnata Digidol yn cynnwys:

  1. Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol (SMM)

Yn syml, SMM yw’r defnydd o blatfformau cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook, Instagram, Twitter, TikTok, LinkedIn ac ati) i farchnata a hyrwyddo eich busnes a’ch cynnyrch / gwasanaethau.

Marchnata Cynnwys

Offer a fydd yn galluogi eich cynulleidfa darged i ddod o hyd i chi’n well ac y rhwydd. Gall y rhain gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Cynnwys ysgrifenedig (h.y., blogiau)
  • Cynnwys fideo (h.y., clipiau YouTube, fideos hyrwyddo)
  • Cynnwys sain (h.y., Podlediadau)
  • Cynnwys gweledol (h.y., GIFS a Memes wedi’u personoli)

Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)

Dyma’r broses o wneud newidiadau i ddyluniad a chynnwys eich gwefan, i wneud i’ch gwefan ymddangos yn uwch ar beiriannau chwilio. Drwy newid y dyluniad a’r cynnwys (gan gynnwys testun cyfoethog, disgrifiadol), gallwch raddio’n uwch ar Dudalennau Chwilio, sy’n golygu bod eich darpar gleientiaid yn fwy tebygol o ddod o hyd i chi, a chlicio drwodd i’ch gwefan.

Marchnata E-bost

Wedi derbyn taleb neu gynnig yn eich mewnflwch yn ddiweddar? Efallai i chi danysgrifio i gylchlythyr? Dyma enghreifftiau o Farchnata E-bost, pan fydd busnesau yn anfon pethau’n uniongyrchol i’ch mewnflwch gyda’r bwriad o’ch denu i fuddsoddi yn eu busnes gyda’u diweddariadau wythnosol a’u bargeinion diweddaraf.

Talu fesul clic (PPC)

Sylwo’ chi sut, pan fyddwch chi’n chwilio rhywbeth yn y peiriant chwilio, fod y gair ‘hysbyseb’ yn ymddangos uwch ben y tri neu bedwar opsiwn gorau? Dyma enghraifft o farchnata PPC. Yma, mae hysbysebwyr yn talu ffi bob tro y caiff eu hysbyseb ei chlicio (felly’r enw).

Enghraifft arall o hyn yw pan fydd hysbysebion yn ymddangos ar ochr eich sgrin pan fyddwch chi’n darllen blog ar-lein neu’n sgrolio drwy Facebook.

Marchnata Dylanwadol

Ffordd newydd o ddefnyddio enwogion/sêr i gymeradwyo. Erstalwm byddai enwogion/sêr yn cael eu talu neu yn derbyn anrheg i hyrwyddo cynnyrch neu rodd benodol; y dyddiau hyn gall person dylanwadol gynnwys unrhyw un sydd â dilyniant ar-lein sylweddol gael eu gweld fel dylanwadwr yn y maes hwnnw.

Mae’n bwysig nodi yma, mai dim ond rhestr gyddwysedig yw’r uchod o’r math o weithgareddau marchnata a geir o dan y term ymbarél “Marchnata Digidol”. Mae nifer o weithgareddau eraill ar gael, ond dyma’r rhai mwyaf adnabyddadwy.


Manteision Marchnata Digidol

Dewch i ni drafod hwn i gychwyn gan fod nifer o fanteision mawr yn gysylltiedig â Marchnata Digidol.

  • Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd

Gyda mynediad hawdd parhaus gan bawb i ddyfais symudol, yn ogystal â gweld cynnydd yn yr amser y mae pobl yn ei dreulio ar-lein – nid oes gwell amser i ddefnyddio marchnata digidol. Yn ogystal, mae’r amser y mae eich darpar gwsmer yn dreulio mewn ciw ar ei ffôn, yn gyfle gwych i chi arddangos popeth sydd gennych i’w gynnig iddynt!

  • Cost Effeithiol

Nid oes angen unrhyw dechnoleg ffansi arnoch i ddechrau cwrdd â’ch cwsmeriaid targed drwy eu ffonau. Mae’n gyflym ac yn hawdd sefydlu cyfrif Instagram; i greu proffil LinkedIn; neu sefydlu Tudalen Facebook. Ond yn bwysicaf oll er mwyn dechrau Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, Marchnata E-bost a/neu Farchnata Cynnwys yn RHAD AC AM DDIM – mae angen i chi dreulio peth amser yn ymchwilio i’ch marchnad darged a chreu’r cynnwys.

  • Meithrin Perthynas Gadarnhaol gyda Chwsmeriaid

Mae cychwyn sgwrs gyda’ch darpar gwsmeriaid ar-lein yn ffordd wych o feithrin perthynas â chwsmeriaid. Mae rhyngweithio’n meithrin ymddiriedaeth. Felly beth am ymgysylltu drwy gwestiynu ac ateb, rhannu ‘chydig o’r hyn sy’n mynd mlaen tu ôl i’r llenni ac arddangos eich taith chi (y da a’r drwg!). ‘Does dim yn berffaith, hyd yn oed os yw’n ymddangos felly ar gyfryngau cymdeithasol. Drwy rannu eich taith yn onest, byddwch yn denu empathi gan eich cynulleidfa sy’n arwain at berthynas gryfach â chwsmeriaid.

  • Cynyddu Ymwybyddiaeth Brand

Mae ymwybyddiaeth brand yn ymwneud ag ymwybyddiaeth darpar gwsmeriaid o’ch brand a’ch cynhyrchion. Pan feddyliwch am ‘Brownies’ yng Ngheredigion er enghraifft, pa fusnesau sy’n dod i’r meddwl? Er nad ydych yn sylweddoli – mae gennych ymwybyddiaeth brand cryf i’r un cyntaf a ddaw i’ch meddwl.

Mae gan bob ‘hoffi’, sylw, rhannu, cadw ac ail-bostio ar gyfryngau cymdeithasol y pŵer i gynyddu ymwybyddiaeth eich brand.

  • Cynhyrchu Arweinwyr (Leads)  

Arweinydd yw unrhyw un sy’n dangos diddordeb yng ngwasanaeth / cynnyrch eich cwmni, mewn unrhyw ffordd, siâp neu ffurf. Mae rhannu eich cynnyrch / gwasanaethau yn ffordd wych o arddangos yr hyn sydd gennych i’w gynnig ac mae’n ffordd syml o gynhyrchu arweinwyr. I drosi’r arweinwyr hynny’n werthiannau gallwch ddefnyddio’r swyddogaethau sydd ar gael ar gyfryngau cymdeithasol h.y.

  • Cynnwys dolenni i’ch gwefan a chynigion yn adran bywgraffiad eich proffil
  • Galluogi Adran Siop Facebook a/neu Nodwedd Siop Instagram ar eich proffil
  • Cynnal fideo “byw” sy’n arddangos cynhyrchion newydd / ateb cwestiynau ar lansiadau sydd ar y gweill.

Anfanteision Marchnata Digidol

  • Amser

Gall creu cynnwys newydd a chyffrous sydd yn werthfawr i’ch cynulleidfa fod yn heriol. Gall dadansoddi’r data (mewnwelediadau) i ddarganfod pa fath o gynnwys sy’n gweithio orau hefyd fod yn heriol a chymryd llawer o amser. Yn ogystal, mae treulio amser yn ymgysylltu â’ch cynulleidfa (drwy ateb negeseuon / ateb cwestiynau / cynnal fideos “byw”) i gyd yn mynd ag amser, ac nid oes gwerthiant pendant i’w gael ar y diwedd ychwaith.

  • Dibynnol ar Dechnoleg

Mae marchnata digidol yn dibynnu’n fawr ar dechnoleg – fel y gallech fod wedi dyfalu eisoes. Beth allwch chi ei wneud os oes toriad trydan neu bŵer? Neu beth os ydych yn byw mewn ardal wledig lle mae eich band eang yn araf?

  • Cystadleuaeth

Mae gwell cyfleoedd nag erioed i gynhyrchu gwerthiant, a nifer fawr wastad mewn cyrraedd hawdd i ddyfais symudol. Ond er bod hyn yn golygu mwy o ddarpar gwsmeriaid posibl, mae hefyd yn golygu bod mwy o gystadleuaeth. Nid ydych bellach yn cystadlu â chystadleuwyr lleol yn unig ond yn cystadlu â busnesau tebyg ledled y wlad / yn fyd-eang.

  • Addasrwydd

Mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar eich busnes. Yn dibynnu ar eich “niche” (arbenigedd) a’r math o gynnyrch / gwasanaeth rydych chi’n ei werthu, efallai na fydd eich cynulleidfa darged i’w cael ar-lein i weld eich ymdrechion marchnata. Mae hyn i raddau helaeth yn effeithio ar fusnesau y mae eu cynulleidfa darged yn oedrannus neu o bosibl yn rhai sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd. Os digwydd hyn, mae angen cynnal ymdrech farchnata fwy traddodiadol (h.y., hysbysebion papur newydd, hysbysebu ar y radio / teledu ac ati).


Rwy’n gobeithio bod yr uchod wedi rhoi gwell dealltwriaeth i chi o’r term Marchnata Digidol, yn ogystal â rhoi cipolwg o’r dulliau marchnata sydd ar gael i hyrwyddo eich cynnyrch / gwasanaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â Kerry neu Catrin ar info@cambrianweb.com, Rydym bob amser yn hapus i helpu os gallwn.

Pob hwyl!