Os ydych chi’n defnyddio Facebook ar gyfer busnes, yna byddwch bob amser yn ceisio sicrhau bod eich dilynwyr yn ymgysylltu â’ch tudalen. Ni waeth faint sy’n  ei ‘hoffi’, meithrin   yr ymgysylltiad hwnnw a’i gynyddu yw’r ffactor hollbwysig.

Beth yn union yw ymgysylltu? Pan fydd defnyddiwr / dilynwr yn gwneud cam/au penodol ar eich tudalen – yn llythrennol yn ymgysylltu â’ch cynnwys. Gall hyn fod yn sylw,  ymateb neu rannu. Nid yn unig hynny, gallai hefyd gynnwys “gwirio”(check-in), sy’n wych i fusnesau fel gwestai neu hwyrach salonau harddwch. Mae ymgysylltu yn wych oherwydd mae’n dangos bod gan eich dilynwyr ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i’w ddweud – sy’n adlewyrchu’n dda ar bobl sy’n edrych ar eich tudalen hefyd.

Po fwyaf eich ymgysylltiad, po fwyaf y bydd eich cyrhaeddiad organig yn cynyddu. Hefyd, ydych chi yn sylwi pan fydd eich ffrind yn rhoi sylwadau ar bost tudalen nad ydych yn ei ddilyn?  Felly – po fwyaf o bobl sy’n ymgysylltu, po fwyaf fydd eich tudalen yn cael ei weld gan rwydwaith estynedig ar Facebook.

Felly beth yw ein cyngor i gynyddu eich ymgysylltiad Facebook?

  1. Stopiwch werthu gwerthu, gwerthu – dechreuwch rannu, addysgu, ysbrydoli, difyrru. Bydd hyn yn cynyddu eich ymgysylltiad ond hefyd yn creu enw ardderchog i’ch brand hefyd, fel rhywun sydd am gydweithio, difyrru, rhannu, cynghori. Meddyliwch fwy am ddarparu cynnwys defnyddiol ac addysgiadol i’ch dilynwyr yn hytrach na dim ond gwerthu eich gwasanaethau neu gynnyrch – meddyliwch  beth all wneud iddynt ymgysylltu â chi, chwerthin gyda chi, neu ddysgu oddi wrthych chi.
  2. Cadwch eich cynnwys yn fyr – rydym yn tueddu i sgrolio trwy ein ffrwd newyddion, fel arfer ar ffonau symudol – nid yw cynnwys hir yn cael ei ddarllen yn llawn felly byddwch yn fyr ac yn fachog. Defnyddiwch fideo, llun, dolen neu GIF os gallwch chi.
  3. Defnyddiwch ddelweddau a lluniau ar bob cyfrif – os nad ydych chi’n defnyddio Facebook Live neu rannu dolen, yna mae’n rhaid i chi rannu lluniau a delwedd! Mae hi mor hawdd y dyddiau hyn gyda ffonau symudol a hidlwyr i dynnu delwedd wych, ac mae postiai sy’n cynnwys delweddau bob amser yn cael gwell ymgysylltiad na’r rhai sydd heb. Mae Facebook ei hun yn awgrymu delwedd cwsmer neu lun o’r cynnyrch. O brofiad, mae lluniau ohono fi ac Emlyn o gwmpas ein busnes bob amser yn cael ymgysylltiad uwch na’r cyfartaledd.
  4. Facebook Live – dylai defnyddio fideos Facebook Live neu uwchlwytho fideos roi cyfraddau ymgysylltu uwch i chi na delweddau. Felly ceisiwch feddwl  yn greadigol a defnyddio fideos cymaint ag y bo modd. Mae Facebook Live yn wych oherwydd bydd unrhyw un sy’n eich dilyn yn derbyn hysbysiad unwaith i chi ddechrau darlledu, a gallent ymgysylltu â chi tra’ch bod yn darlledu hefyd.
  5. Atebwch eich dilynwyr bob amser – braidd yn amlwg efallai ond rydym yn ymweld â chymaint o dudalennau lle na cheir fyth ateb i sylwadau na chwestiynau! Mae hyn yn anfoesgar braidd, byddai ond ’hoffi’ y sylw yn cydnabod eich bod wedi ei ddarllen. Os gallwch, atebwch! Mae’n ffordd wych o arddangos eich personoliaeth brand.
  6. Ymuno a Grwpiau Facebook – fe wnaethom ysgrifennu blog am newidiadau i grwpiau ar ddechrau 2018, ac yn fwyfwy rydym yn annog pob defnyddiwr busnes Facebook i ymuno a’r grwpiau sy’n berthnasol iddynt. Mae’n ffordd dda i ehangu eich rhwydwaith, arddangos eich arbenigedd a, gobeithio, gwerthu rhywfaint.
  7. Diweddarwch eich tudalen a’ch gosodiadau yn gyson – mae Facebook yn newid mor aml fel y bydd y ffordd rydych chi neu’ch dilynwyr yn gweld eich tudalen yn newid hefyd. Os gwiriwch eich gosodiadau a golygu eich tudalen yn gyson, byddwch yn gallu sicrhau eich bod yn gyfoes â’r newidiadau diweddaraf. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, y botwm galw i weithredu o dan y llun clawr, neu gategorïau newydd yn cael eu hychwanegu at y math o dudalen. O ran ymgysylltu, mae Facebook bob amser yn pwyso ar i fusnesau ymuno â hwy ar eu platfform, felly fe welwch y bydd y mwyafrif o newidiadau yn canolbwyntio’n fawr ar gynyddu ymgysylltiad.
  8. Nid yn unig ar gyfer Facebook – dilyswch eich tudalen. Mae’n dangos ychydig mwy o broffesiynoldeb ac ymddiriedaeth, gan ddangos i’ch dilynwyr neu ymwelwyr eich bod yn dudalen y gallent ymddiried ynddi. Efallai y bydd ymwelwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu â chi os ydy’ch yn dudalen wiriadwy.(verifiable)
  9. Gofynnwch gwestiynau – mae hon yn ffordd wych o gynyddu ymgysylltiad ar Facebook. Denwch eich cymuned a’ch dilynwyr i gymryd rhan trwy ofyn cwestiynau iddynt. Efallai eich bod yn werthwr blodau ac am wybod pa weithdai yr hoffai pobl dderbyn dros y 12 mis nesaf? Gofynnwch iddynt! Fodd bynnag, osgowch ABWYD YMGYSYLLTU (Engagement Bait). Postiai yw rhain sy’n gofyn i chi hoffi a rhannu neu Fe fydd Facebook yn eu hadnabod fel abwyd ymgysylltu ac yn cosbi y post.
  10. Defnyddio Storïau Facebook – os ydych chi’n ddefnyddiwr Instagram yna byddwch yn gyfarwydd a straeon, ond os nad ydych, mae’n ffordd wych o wthio’ch cynnwys neu wybodaeth o’r 24 awr diwethaf i frig app Facebook ymwelwyr. Mae straeon yn llawer mwy anffurfiol, yn eich galluogi i bostio mor aml ag y dymunwch, heb ofni sbamio’ch dilynwyr. Gallwch hefyd fod yn fwy personol ac “yn y foment” ar straeon, fydd yn gwella sut mae pobl yn eich gweld fel brand.

 

Awgrym Gwych: Ydych chi erioed wedi sylwi pan fyddwch chi’n dechrau ysgrifennu post newydd ar Facebook bod yna lawer o opsiynau isod? Pethau fel creu arolwg barn, cychwyn fideo byw, ychwanegu carreg filltir ac ati. Defnyddiwch rhain, yn syml oherwydd bod Facebook yn dymuno i chi wneud hynny.