Y mis yma dwi am rannu gyda chi rhai o fy hoff apiau rwy’n eu defnyddio ar gyfer busnes. Gyda cymaint o apiau a rhaglenni sydd ar gael y dyddiau hyn, gall fod yn anodd weithiau dewis y goreuon. Wrth gwrs, holl bwynt yr apiau a’r rhaglenni hyn yw eu bod yn gymorth i’ch gwaith pob dydd gan, obeithio, lleihau yr amser a dreulir ar dasgau neu’n help i roi ychydig o hwb i chi!
Cyfryngau Cymdeithasol
Yn ddi-os, mae Canva ar frig fy rhestr. Mae hwn yn ap gwych, rhad ac am ddim, y gallwch ei ddefnyddio ar eich bwrdd gwaith neu ar eich ffôn. Mae’n cynnig cannoedd o dempledi ar gyfer ystod o blatfformau a defnyddiau, o bostiadau Facebook i gloriau Instagram Reel a chyflwyniadau a baneri. Mae’r templedi’n hawdd eu haddasu, gellir newid y lliwiau a’r ffontiau i weddu i’ch brand, ychwanegu eich lluniau eich hun a ffwrdd â chi. Mae gan Canva hefyd stoc enfawr o luniau, fideos, sain ac elfennau y gallwch eu defnyddio. Yn ogystal – dim ond £12 y mis yw’r fersiwn Pro, a byddwn yn argymell y buddsoddiad hwn ar gyfer eich busnes yn fawr.
Os ydych chi’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes, mae gen i lu o apiau rydw i wrth fy modd yn eu defnyddio yn ddyddiol ond un y byddwn i yn awgrymu sy’n hynod bwysig i chi yw Facebook Business Suite – dyma lle gallwch redeg eich tudalennau Facebook a hefyd proffiliau Instagram o’r un lleoliad. Os ydych chi fel fi ac yn weinydd ar sawl tudalen, yna mae’r ap bach hwn yn helpu i arbed llawer o amser. Gallwch hyd yn oed drefnu o’ch ffôn ymlaen llaw!
Dau o fy hoff apiau ar gyfer creu straeon Instagram yw Mojo ac Unfold – unwaith eto mae amrywiaeth o dempledi wedi’u rhagosod eisoes ar rhain a gallwch ychwanegu eich testun a’ch lluniau eich hun. Mae’r rhain yn ffordd wych o roi ychydig o hwb i’ch straeon, gan eich helpu i sefyll allan o’r dorf – ac mae yn dorf enfawr y dyddiau hyn!
Os ydych chi’n chwilio am apiau golygu fideo, rwy’n caru InShot ac mae Videoshop hefyd yn opsiwn sylfaenol gwych. Gyda rhain, nid oes rhaid i chi boeni am greu fideos perffaith tra fyddwch yn recordio, oherwydd gallwch dreulio amser yn eu golygu wedyn. Rwyf hefyd yn ffan enfawr o recordio sgrin – ar fy ffôn symudol, gyda XRecorder, ac ar fy mwrdd gwaith gyda Loom. Mae recordiadau sgrin yn ffordd arall o roi hwb i bethau fel cyflwyniadau – yn cynnig rhywbeth bach ychwanegol.
Ap bach arall rwy’n hoff o’i ddefnyddio yw LifeLapse. Mae’r ap yma yn gadael i chi greu fideos ‘stop-motion’ sy’n hwyl fawr i’w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol. Cyfres o luniau sy’n cael eu pwytho gyda’i gilydd mewn fideo yw fideo ‘stop-motion’ a gallwch symud eitemau yn y fideo i greu’r effaith animeiddio a ddymunir.
Busnes Cyffredinol a Bywyd Pob Dydd
O ran gwaith gweinyddol, rwy’n argymell yn gryf edrych am ateb yn y cwmwl ar gyfer e-byst a’ch storio. Nid yn unig oherwydd ei bod yn wych storio popeth wrth gefn fyny yn y cwmwl, ond hefyd oherwydd y gallwch chi wedyn gael mynediad ato, a’ch e-byst o unrhyw le. Yn gyffredinol, rydym yn argymell Microsoft Office 365 ar gyfer hyn, ond mae GSuite gan Google hefyd ar gael, os yw’n well gennych brofiad Gmail.
Mae’n wych cael cymaint o ddewis o apiau i’w defnyddio, ond gadewch i ni fod yn onest – mae’n bur debyg ein bod ni i gyd yn treulio llawer gormod o amser ar ein ffôn! Mae rhai apiau a nodweddion yr wyf wrth fy modd gyda hwynt sy’n canatau i mi dreulio amser oddi wrth y sgrin. Yn benodol ar fy ffôn Android, gallaf droi’r modd Ffocws ymlaen, lle rwyf wedi dewis apiau sydd yn nadu i mi ddefnyddio rhai apiau penodol pan fyddant ymlaen. Rwy’n gwneud hyn gyda’r nos ac ar benwythnosau, fel ni allaf weld e-byst sy’n cyrraedd, na defnyddio unrhyw apiau ‘gwaith’.
Ap arall sy’n boblogaidd iawn ar hyn o bryd i helpu lleihau amser ar sgrin yw Forest. Wedi ei gychwyn ni allwch gael mynediad i’ch ffôn nes bod coeden wedi tyfu! Eu harwyddair yw canolbwyntiwch, byddwch bresennol neu yn syml Forest!
Gobeithio y bydd yr apiau hyn o gymorth i chi, a cofiwch rannu eich ffefrynnau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n tagio, byddem wrth ein bodd gwybod beth mae eraill yn eu defnyddio!